Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Sgiliau Academaidd – Gwneud Nodiadau Effeithiol

Diweddarwyd Dydd Mercher, 5 Mai 2021
Canllaw byr ar wneud nodiadau effeithiol mewn darlithoedd.



Byddwch yn weithredol nid yn oddefol wrth wrando

Paratowch ar gyfer darlithoedd drwy ddarllen deunydd a argymhellwyd ymlaen llaw. Byddwch yn weithredol nid yn oddefol wrth wrando, gan wneud nodiadau yn ystod y ddarlith, oherwydd:

  • mae darlithwyr yn rhoi mwy o wybodaeth mewn darlith na'r hyn sy'n cael ei ddangos ar y sleidiau/taflenni
  • mae darlithwyr yn rhoi awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu aseiniadau,
  • mae gwneud nodiadau yn eich helpu i ymestyn eich rhychwant sylw.

Pam ydych chi'n gwneud nodiadau? Gofynnwch i chi eich hun – beth ydw i eisoes yn ei wybod am y pwnc? Pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnaf? Pa gwestiynau ydw i am eu hateb?

Gwrandewch yn astud ar ddechrau'r ddarlith i ganfod strwythur y sesiwn. Gwrandewch am 'gyfeiriadau' e.e., 'mae tri phwynt allweddol', 'rydw i am bwysleisio'.

 


Sut mae gwneud nodiadau?

Mae ymchwil yn dangos bod ysgrifennu nodiadau â llaw yn fwy effeithiol na'u teipio.

Arddulliau cymryd nodiadau

Llinol

Nodiadau llinol yw'r nodiadau symlaf, ar gyfer darllen a gwrando. Caiff nodiadau eu hysgrifennu ar y dudalen, un llinell ar ôl y llall. Gall defnyddio rhifau/llythrennau rhifau i wahaniaethu rhwng y prif bwyntiau.

Patrwm

Nodiadau nad ydynt yn rhai llinol yw nodiadau patrwm ac, felly, maent yn fuddiol i ddysgwyr gweledol. Mae llawer o Batrymau gwahanol; meddyliwch am sut y gallwch eu defnyddio, efallai ar y cyd â nodiadau llinol.

  • Map meddwl - Diagram yw map meddwl, neu ddiagram gwe pry cop, lle y caiff syniadau eu cysylltu â'i gilydd drwy linellau, gan ddechrau o'r canol fel arfer a gweithio tuag allan. Er y gellir ei ddefnyddio unrhyw bryd, mae'n well pan fydd un prif bwnc.
  • Siart Lif  - Mae siart lif yn ddefnyddiol i ddangos proses neu newid dros amser.
  • Tabl - Defnyddir tabl gan fwyaf i gymharu dau beth gwahanol.

 


Fformatio ac arddull ysgrifennu

Ar y cyfan, mae'n fuddiol defnyddio:

  • geirfa ac ymadroddion allweddol
  • lliw
  • arwyddion
  • symbolau
  • is-benawdau (er mwyn grwpio gwybodaeth)
  • pwyntiau ar ffurf rhifau
  • pwyntiau cysylltiedig (saethau, llinellau toredig)

Gwnewch nodiadau yn eich geiriau eich hun. Peidiwch ag ysgrifennu brawddegau llawn. Datblygwch eich fersiwn lawfer eich hun ond gwnewch yn siŵr y byddwch yn gallu darllen eich nodiadau maes o law.

Peidiwch â gorlenwi'r dudalen. Defnyddiwch ymylon llydan fel bod lle i ychwanegu nodiadau ychwanegol maes o law.

 


Trefnwch eich nodiadau

  • Trefnwch eich nodiadau fel eich bod yn gallu dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano yn hawdd. Os oes gennych sawl tudalen ar un pwnc, cofiwch gynnwys rhifau tudalennau.
  • Ychwanegwch deitl at eich nodiadau a'u dyddio.
  • Cofiwch gofnodi ffynhonnell/ffynonellau eich nodiadau – y bydd angen i chi eu cyfeirnodi yn eich aseiniad.
  • Adolygwch eich nodiadau cyn gynted â phosibl ar ôl eu gwneud – a ydynt yn gwneud synnwyr?
  • Tynnwch sylw at bwyntiau pwysig: gwnewch 'flychau' neu 'gylchoedd' mewn lliw o gwmpas rhannau o nodiadau er mwyn tynnu sylw atynt.
  • Ychwanegwch at eich nodiadau ond copïwch nhw'n 'daclus' dim ond os byddwch yn eu newid.

 


Logo Prifysgol Wrecsam

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Wrecsam ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?