Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Cyflwyniad i Bresgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd — Iechyd Meddwl ac Amgylchedd y Gweithle

Diweddarwyd Dydd Mercher, 15 Medi 2021
Sut y gall gweithleoedd ddechrau defnyddio syniadau yn ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd i wella llesiant.

 

Iechyd Meddwl yn y gweithle

Mae pob un ohonom wedi gweld yr angen cynyddol i ganolbwyntio ar lesiant unigol yn sgil y pandemig. Rydym hefyd wedi dod yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar Wasanaethau Iechyd Meddwl a'r ffaith eu bod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw cynyddol am y gwasanaeth. Nid yw problemau iechyd meddwl yn y gweithle yn rhywbeth newydd, ac roeddent yn rhy gyffredin o lawer hyd yn oed cyn pandemig COVID-19. Fodd bynnag, wrth i bob un ohonom ddychwelyd i'r ‘normal presennol’, yn dilyn y cyfyngiadau symud a osodwyd arnom, mae'n debygol y bydd ‘salwch meddwl’ yn dod yn bryder cynyddol.

‘A staggering 70 million workdays are lost each year due to mental health problems in the UK, costing employers approximately £2.4 billion per year.’ Ffynhonnell: ‘Mental Health at Work’ (2021)

 

Wrth gwrs, gwyddom hefyd fod yr angen i ganolbwyntio ar lesiant yn y gweithle yn fwy na dull o arbed arian yn unig. Mae angen creu amgylcheddau iachach lle mae gan y gweithwyr fwy o ymdeimlad o ddiben a lle mae unigolion yn fwy cymdeithasol ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Gallant arwain at lai o straen gan fod y cyfathrebu'n fwy agored. Gall cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch undebau, yn ogystal â chynrychiolwyr Gwyrdd, weithio gydag aelodau a rheolwyr i hyrwyddo gweithleoedd iachach. Drwy wneud hynny, gallant leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl fel y gallwn helpu i greu cymuned fwy cymdeithasol. Mae hyn hefyd yn annog cydweithio a phartneriaethau ag asiantaethau eraill a all helpu i wella llesiant pobl yn y gwaith heb fod angen iddynt ddibynnu'n gyfan gwbl ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn na chymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.

Mae'r proffesiwn meddygol, fel rhan o fentrau Gofal Iechyd Sylfaenol, eisoes yn hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru a ledled y DU. Mae wedi buddsoddi arian i gyflogi gweithwyr cyswllt cymdeithasol (mae'n bosibl bod enwau eraill ar y rôl hon) a fydd yn helpu pobl i gael gafael ar gymorth gan weithwyr proffesiynol, gweithgareddau a chyngor/gwybodaeth.

Beth mae presgripsiynu cymdeithasol yn ei olygu?

Ystyr presgripsiynu cymdeithasol yw cydnabod bod amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn effeithio ar iechyd person. Mae helpu i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r anghenion hyn yn uniongyrchol gyda'r unigolyn yn ei alluogi i chwarae mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae'n fwy tebygol wedyn o allu cymryd rheolaeth dros ei lesiant ei hun.

Mae'r fideo hwn yn egluro mwy am bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru:

 

Infograffig o'r llwybr rhagnodi cymdeithasol.

Beth am bresgripsiynau Gwyrdd?

Mae tystiolaeth ymchwil gynyddol sydd wedi'i chymeradwyo gan sefydliadau fel elusen iechyd meddwl Mind yn dangos bod ‘dos o fyd natur’ yn gwella iechyd meddwl a llesiant. Mae hyn bellach wedi arwain at fwy o bresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd gan ddefnyddio coetiroedd naturiol, parciau a mannau gwyrdd eraill ar gyfer grwpiau ymarfer corff awyr agored a gweithgareddau cymdeithasol fel garddio ar ffermydd cymunedol.

Person taking cuttings from a tray of herbs.

Ond faint o ‘ddos o natur’ sydd ei angen, ac ar ba ffurf?

Canfu un o'r arbrofion seicolegol nodedig cynharaf a gynhaliwyd erioed mewn perthynas â manteision natur ar ôl llawdriniaeth fod hyd yn oed gweld golygfa naturiol o ffenestr ysbyty yn helpu cleifion i adfer yn gynt. Arweiniodd hyn at gyfnodau byrrach yn yr ysbyty o gymharu â grŵp o gleifion heb ddim ond wal frics yn olygfa. (View Through a Window May Influence Recovery from Surgery, Science 1984, Roger Ulrich) 

 

Side by side mock-up of two windows, one has a view of a brick wall and the other has a view of green foliage in a park.

 

Mae'r astudiaethau hyn wedi cael eu cynnal sawl gwaith ers hynny, gan gynhyrchu canlyniadau tebyg.

Canfu gwaith ymchwil mwy diweddar yn seiliedig ar arolwg ar raddfa fawr (dyfynnwyd gan Sue Williams, 2021, gweler: Cyfoeth Naturiol Cymru / Trwsio’r meddwl – manteision ‘dos o natur’ ar gyfer iechyd meddwl) mai'r cyfan oedd ei angen i gynyddu cyfraddau iechyd a llesiant da hunangofnodedig oedd treulio mwy na dwy awr yr wythnos mewn byd natur. At hynny, roedd manteision un ymweliad hir yr un peth â sawl ymweliad llai.

Beth yw'r goblygiadau i weithleoedd?

Dyma rai ohonynt:

  • Mae'n bosibl y bydd cynrychiolwyr Gwyrdd/yr Amgylchedd ac Iechyd a Diogelwch undebau yn gweithio gyda gweithwyr cyswllt presgripsiynu cymdeithasol yn yr ardal ac yn eu gwahodd i siarad â chyflogwyr a chyflogeion am eu rôl.
  • Efallai y bydd gweithleoedd yn ystyried ffyrdd posibl o greu cysylltiadau uniongyrchol/anuniongyrchol cryfach â byd natur o fewn ac fel rhan o unrhyw agweddau allanol ar adeiladau, neu ar yr adeiladau eu hunain (waliau byw).
  • Ystyried ffyrdd mwy hyblyg o ddefnyddio goleuadau, systemau awyru ac ardaloedd mewn adeiladau, yn ogystal â defnyddio ystafelloedd â lluniau o fyd natur a allai fod yn fwy ‘adferol’ a helpu i ‘ailganolbwyntio’ sylw mewn ffordd fwy ymlaciol.
  • Cysylltu ag asiantaethau allanol er mwyn cynnig gweithgareddau ymarfer corff yn yr awyr agored a gweithgareddau natur creadigol i weithwyr a'u teuluoedd.
  • Agor rhannau o ardaloedd awyr agored i'w trin a'u defnyddio gan gymunedau lleol ochr yn ochr â'r gweithwyr.

 

 


Mae Liz Middleton yn Ddarlithydd Cyswllt ar gyfer Y Brifysgol Agored ac yn Seicolegydd Addysg Siartredig sydd â diddordeb brwd mewn archwilio ffyrdd o gefnogi Iechyd Meddwl a Llesiant. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr OpenLearn Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac mae wedi cydlunio cwrs ar-lein bathodynnog ar OpenLearn, sef ‘Supporting Children’s Mental Health and Wellbeing’.

 

Mae'r erthygl yma hefyd ar gael yn Saesneg. | This article is also available in English.

 

Astudiaeth bellach gyda'r Brifysgol Agored:

Mwy o gyfleoedd dysgu am ddim ar OpenLearn:

Deunydd darllen pellach

Cyfoeth Naturiol Cymru / Trwsio’r meddwl – manteision ‘dos o natur’ ar gyfer iechyd meddwl

Rhagnodi Cymdeithasol | Mind, the mental health charity - help for mental health problems

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?