Mae technoleg ym mhob man, ac mae ffonau symudol wedi dod yn rhan allweddol o fywyd bob dydd. Yn ôl ffigurau Ofcom yn 2017, mae 94% o oedolion y DU yn berchen ar ffôn symudol; ac mae dros dri chwarter y ffonau hynny’n rhai clyfar. Er bod ffonau symudol wedi’u dylunio’n wreiddiol i hwyluso galwadau wrth grwydro, mae arolwg defnyddwyr ffonau symudol (2016) Deloitte yn awgrymu nad yw traean o ddefnyddwyr ffonau clyfar yn gwneud galwadau llais traddodiadol o gwbl. Yn lle, mae ein ffonau’n cael eu defnyddio fel cyfrifiaduron symudol, ar gyfer edrych ar e-byst, siopa ar-lein, darllen y newyddion, llwytho cerddoriaeth a fideos i lawr, ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, archebu bwyd, darllen mapiau... a llawer iawn mwy. Mae'r rhyngrwyd yn ein pocedi bob amser a gallwn ddod o hyd i’r ateb i unrhyw gwestiwn bron wrth glicio un botwm. Ond er bod y datblygiadau hyn o ran swyddogaethau a mynediad technolegol yn wych; mae rhai anfanteision.
Mae tystiolaeth ein bod ni’n dibynnu gormod ar ein ffonau, neu hyd yn oed yn gaeth iddyn nhw. Meddyliwch sut ydych chi’n teimlo pan rydych yn sylweddoli eich bod wedi anghofio eich ffôn, neu wedi’i adael yn rhywle. Mae’n gallu gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus dydy? Yn wir, mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod rhai pobl yn profi straen a phryder sylweddol pan maent wedi’u gwahanu oddi wrth eu ffôn. Maent hyd yn oed yn gallu profi symptomau tebyg i'r rhai mae pobl yn eu cael pan maent yn gaeth i rywbeth. Mae rhywfaint o ymchwil wedi dangos bod lefelau uchel o ymgysylltu â ffonau clyfar a thechnoleg amlgyfrwng yn gallu newid strwythur a swyddogaeth ein hymennydd.
Felly, pam bod technoleg yn gwneud i lawer ohonom ni deimlo’n bryderus a dan straen? Dyma rydyn ni’n meddwl yw’r pum prif beth sy’n achosi straen:
1: Tynnu Sylw Parhaol
Cyn i chi ddarllen mwy, gwyliwch y fideo hwn ar YouTube sy’n dangos sut mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar ein hymennydd.
Mae’r hysbysiadau sy’n bipian, yn dirgrynu neu’n fflachio’n gyson yn golygu bod ein ffonau’n tynnu ein sylw yn barhaus ac rydym yn cael ein hannog i stopio beth rydyn ni’n ei wneud i edrych ar ein ffonau. Yn wir, gwnaeth astudiaeth yn y DU ganfod bod defnyddwyr ffonau clyfar yn datgloi eu ffonau 85 gwaith y diwrnod ar gyfartaledd; ac yn eu defnyddio am oddeutu pum awr bob diwrnod. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gallu canolbwyntio’n iawn na chofio pethau, sy’n achosi i ni deimlo fwyfwy fel ‘pysgodyn aur’, ac mae hynny ynddo’i hun yn gallu achosi straen. Atgyfnerthir hyn gan ymchwil sy’n dechrau dangos cydberthynas rhwng defnydd sylweddol o ffonau clyfar a’r rhyngrwyd a sgiliau gwybyddol isel fel canolbwyntio, cofio a dysgu.
2: Patrwm Cysgu Anghyson
Mae llawer ohonom ni’n defnyddio ein ffonau pan mae hi’n amser gwely. Rydych yn mynd i’r gwely gyda’r bwriad o gysgu, ond rydych chi am edrych ar eich ffôn (dim ond am ‘eiliad’) i chwilio am rywbeth dibwys fel y tywydd yfory... ac yna awr wedyn rydych chi dal ar eich ffôn yn gwylio fideo, ac yn ceisio penderfynu a ydych yn clywed llais cyfrifiadur yn dweud ‘yanny’ neu ‘laurel’. Mae edrych ar ein ffonau pan ddylem fod yn mynd i gysgu yn effeithio’n negyddol arnom ni mewn dwy ffordd, drwy or-ddeffro ein hymennydd a’i gwneud yn anodd i ni ymlacio a mynd i gysgu, a drwy ddod â ni i gysylltiad â golau glas o’r sgrin. Mae ymchwil yn awgrymu bod cysylltu â sgrin las yn gallu arwain i'r corff yn gynhyrchu llai o felatonin, sy’n amharu ar ein rhythmau circadaidd (hynny yw patrymau cysgu-deffro), gan ei gwneud yn fwy anodd i ni fynd i gysgu ac aros ynghwsg. Yn anffodus, mae cwsg gwael yn tueddu i olygu llai o wytnwch a lefelau uwch o bryder a straen.
3: Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith
Yn y gorffennol roedd ffin glir rhwng pryd oedd bywyd gwaith yn dod i ben a bywyd gartref yn dechrau... nid yw’r ffin hon mor glir bellach. Mae’r mwyafrif ohonom ni’n cael e-byst gwaith ar ein ffonau, sy’n golygu ein bod ar gael drwy’r amser ac mae pobl yn gallu cysylltu â ni unrhyw bryd. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i ni ddat-gysylltu’n llwyr o’r gwaith ac ymlacio.
4: Mae F.O.M.O
...neu Ofn Colli Allan yn fath o bryder cymdeithasol sy’n deillio o’r ofn eich bod yn colli allan ar rywbeth; boed hynny’n ddigwyddiad, yn gyfle gwaith neu gyfle cymdeithasol, neges, cysylltiad posibl, neu rywbeth cŵl yr hoffech ei weld neu fod yn rhan ohono. Felly rydyn ni eisiau bod mewn cysylltiad... ‘rhag ofn’. Er mwyn profi hyn, gofynnwch i’ch ffrindiau a’ch teulu os ydyn nhw wedi ystyried tynnu eu hunain oddi ar y cyfryngau cymdeithasol erioed. Fel ni, mae’n debyg eu bod nhw wedi ystyried hynny... ond mae’r mwyafrif yn penderfynu peidio, oherwydd eu bod yn Ofni Colli Allan. Yn eironig, po fwyaf o gysylltiad sydd gennym ni, y mwyaf tebygol ydyn ni o fod ag Ofn Colli Allan. Mae hyn oherwydd bod ag Ofn Colli Allan yn cael ei achosi’n aml gan y postiadau rydyn ni’n eu gweld ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, gan eu bod yn ein harwain i gredu bod ein ffrindiau a’n cydnabod yn cael profiadau cyffrous a/neu ddiddorol pan nad ydym ni yno. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil sy’n edrych ar y berthynas rhwng defnyddio ffonau clyfar mewn ffordd sy’n arwain at broblemau, Ofn Colli Allan a llesiant meddyliol, cliciwch yma.
5: Cymhariaeth Gymdeithasol
Gall sianeli cyfryngau cymdeithasol wneud i ni feddwl bod bywydau pobl eraill yn well, ond ydyn nhw go iawn? Gwyliwch Beth sydd ar eich meddwl cyn darllen mwy.
Ni allwn beidio â chymharu ein hunain ag eraill, ac mae theori cymhariaeth gymdeithasol yn awgrymu ein bod ni’n defnyddio’r cymariaethau hyn i werthuso sut rydym yn meddwl ac yn teimlo amdanom ni’n hunain. Mae'r cyfryngau cymdeithasol, oherwydd eu natur, yn annog cymhariaeth gymdeithasol gan eu bod yn llawn gwybodaeth a ellir ei defnyddio’n hawdd fel metrig llwyddiant cymdeithasol ymddangosiadol (ee ffrindiau, hoffi, rhannu, dilynwyr ac yn y blaen). Mae’r metrigau hyn yn achosi problemau hefyd oherwydd os nad ydym yn cael digon o bobl yn hoffi sylwadau neu lun rydyn ni wedi’u rhannu, neu os oes mwy o bobl wedi hoffi postiadau rywun arall neu os oes ganddynt fwy o ffrindiau na ni, mae’n gallu gwneud i ni deimlo’n israddol. Felly, mae’r gwahaniaeth rhwng bywyd go iawn a beth mae pobl yn ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn golygu ein bod ni ond yn tueddu i weld ‘uchafbwyntiau’ bywydau pobl eraill sydd wedi’u golygu’n sylweddol. Mae hyn yn rhoi’r camargraff bod gan bobl eraill fywydau mwy cyffrous/perffaith/diddorol na ni ond go iawn mae pawb yn cael dyddiau da, dyddiau drwg a rhai yn y canol... gan gynyddu’r tebygolrwydd o gymariaethau cymdeithasol negyddol, a allai arwain at ganlyniadau difrifol o safbwynt ein llesiant.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.