Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol
Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Trafodaeth

Mae hwn yn weithgaredd personol ond gwerthfawr iawn. Mae nifer o wahaniaethau diwylliannol a gwahaniaethau eraill ym mhrofiadau bywgraffiadol unigolion sy'n dylanwadu mewn ffyrdd amrywiol ar eu bywydau a'u hagweddau presennol, ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth hwn.

Mae pobl yn dewis gwaith cymdeithasol am bob math o resymau: er mwyn gwneud daioni; er mwyn helpu eraill; oherwydd eu cefndir teuluol eu hunain neu brofiad o golled, salwch neu anabledd; er mwyn wynebu eu problemau eu hunain neu, yn syml, ar hap.

Yn ôl arolwg o fyfyrwyr a oedd yn dilyn hyfforddiant gwaith cymdeithasol yn 2011, gwelwyd bod ffactorau personol a ffactorau o ran gyrfa wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ddewis astudio gwaith cymdeithasol. Roedd y cymhellion yn gysylltiedig â'r elfennau canlynol:

  1. Allgaredd - awydd i wneud gwahaniaeth, helpu eraill a brwydro yn erbyn anghyfiawnder.
  2. Nodweddion personol a phrofiad y myfyriwr - y gallu i gyd-dynnu â phobl, gweithio mewn tîm ac, i rai, roedd yn ddewis gyrfa addas oherwydd eu profiadau bywyd.
  3. Ffactorau gyrfa - fel swydd hyblyg sydd â chyflog da a rhagolygon gyrfa da.
  4. Natur y gwaith o ddydd i ddydd - amrywiaeth, lefel uchel o foddhad swydd a chyfrifoldeb personol.

(Yn seiliedig ar Stevens et al., 2012)

Fel y mae'r ddau weithiwr cymdeithasol yn y fideos yn dangos, mae llunio'r cysylltiad rhwng profiad personol a'r hyn y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei gynnig i'w hymarfer yn gam cynnar pwysig i ddod yn ymarferydd myfyriol.

Mae ymarfer gwaith cymdeithasol da yn ymwneud yn bennaf â chydberthnasau (Wilson et al., 2011) ac ymgysylltu'n effeithiol â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac eraill er mwyn eu galluogi i ddweud eu storïau. Meithrin cydberthynas dda yw'r man cychwyn i weithio 'gyda' phobl yn hytrach nag 'arnynt' (Beresford, 2012). Drwy'r gydberthynas broffesiynol hon y mae gweithwyr cymdeithasol yn ymgysylltu ag unigolyn ac yn ymyrryd yng nghymhlethdod ei fydoedd mewnol ac allanol (ibid), a dangosir hyn gan y gweithiwr cymdeithasol yn y fideo wrth iddi sôn am sut y gwnaeth ddefnyddio ei phersonoliaeth (ei 'hun') i feithrin cydberthnasau â phobl ifanc mewn cartref hanner ffordd.

Fodd bynnag, daw'n fwy anodd meithrin cydberthynas dda pan nad yw anghenion defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu diwallu, fel y gwelir yn achos y gofalwr. Cafodd y gofalwr weithiwr cymdeithasol di-Gymraeg a oedd yn golygu ei bod yn fwy anodd iddo ymgysylltu â hi fel yr hoffai, gan fod yn rhaid iddo feddwl yn Gymraeg a siarad yn Saesneg. Er nad yw siarad Saesneg yn broblem iddo fel y cyfryw, byddai'r gydberthynas wedi bod yn haws pe bai wedi cael ei meithrin drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ôl yr egwyddor 'cynnig gweithredol' (CGC, 2014), yn y dyfodol, y gweithiwr proffesiynol fydd yn gyfrifol am nodi anghenion iaith yng Nghymru yn hytrach na'r defnyddiwr gwasanaeth neu'r gofalwr (a all fod mewn sefyllfa o statws isel a diffyg pŵer yn barod, ac felly efallai na fydd yn teimlo ei fod yn gallu arfer ei hawl i ofyn am wasanaeth Cymraeg).

I ffwrdd o'r camera, awgrymodd y gofalwr, er bod rhoi gofal yn feichus o safbwynt corfforol ac emosiynol, y gallai'r gofalwr weld eisiau hynny pan fydd angen cymorth ychwanegol ar y person sy'n cael gofal a'i fod yn symud i ofal preswyl. Gall y bwlch sy'n cael ei adael gan y person hwnnw a diwedd y rôl 'ofalu' fod yn anodd iawn. Felly, mae'n bwysig cydnabod er y gall ymyriadau gwaith cymdeithasol newid rhai agweddau ar fywydau pobl er gwell, gall canlyniadau ymyriadau olygu hefyd y bydd bywyd yn wahanol iawn i bawb dan sylw.