Cyfweliadau fideo
Dylech dreulio tua 45 munud ar y dasg honWrth ichi wylio'r fideos, nodwch brofiadau bywyd gwahanol y siaradwyr. Ar ôl gwylio'r fideos, atebwch y cwestiynau [isod]*.
Siân Parry - Defnyddiwr gwasanaeth
Transcript
Cefais fy ngeni yn Stoke-on-Trent, Lloegr. Roedd Mam a Dad yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg, ond roedd Dad yn gweithio yno, digwydd bod. Dychwelais i Gymru pan oeddwn oddeutu 3 mlwydd oed. Rwyf wedi byw yng ngogledd Cymru ers hynny. Gweithiais yn Llundain am gyfnod byr. Roeddwn yn gweithio gyda'r heddlu yno am oddeutu dwy flynedd. Rwyf wedi cael cryn dipyn o swyddi gwahanol. Gweithiais i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yng ngogledd Cymru am oddeutu pum mlynedd.
Ar ôl i mi gael plant, astudiais mewn coleg yng ngogledd Cymru er mwyn hyfforddi i ddod yn athro. Rwyf wedi bod yn wael ers dros ugain mlynedd bellach. Ond ar ôl dioddef methiant yr arennau, dechreuodd pethau newid. Gweithiais yn rhan-amser am gyfnod. Aeth pethau'n fwy anodd i mi yn yr ysgol. Roedd rhaid i mi leihau fy oriau, ac yn y pen draw, rhoi'r gorau i weithio.
Mae popeth yn newid pan rydych ar ddialysis, gan eich bod wedi eich clymu i'r ysbyty ar ddydd Llun, Mercher a Gwener. Mae'n dipyn o straen a bod yn onest. Mae mynd o fywyd prysur i fywyd sy'n fwy distaw wedi bod yn newid enfawr i mi. Mae'n cymryd amser i ymdopi â'r ffaith eich bod yn rhy wael i weithio. Gwaith oedd popeth. Roedd fy ffrindiau yno, dyna oedd fy ngyrfa.
Fel athro, rydych yn ysu i weld y gwyliau'n cyrraedd. Ond roedd gennyf gymaint o amser a dim syniad beth i'w wneud ag ef. Roeddwn yn ffodus iawn gan fod yr ysbyty wedi fy helpu o'r cychwyn cyntaf. Roedd gennyf beiriant dialysis gartref ar y cychwyn, felly roedd yna lawer o gyswllt. Mae tîm o nyrsys arennol yn gofalu amdanoch chi. Maen nhw'n dod i'r cartref ac yn eich helpu i osod popeth. Ond dim ond am oddeutu pum mlynedd gallais wneud hynny. Yn ystod y cyfnod hwnnw cefais fy ngweithiwr cymdeithasol cyntaf. Roedd hi'n wych gyda'r plant, â'r teulu hefyd. Roedden nhw yn eu harddegau ar y pryd, ac mae ymdopi â phlant yn eu harddegau yn heriol ar y gorau. Roeddwn yn wael, ac roedd yn anodd tu hwnt iddyn nhw. Roeddent yn gallu siarad â hi am fy salwch, nid dim ond fi. Roedd hi'n gefn i ni fel teulu.
Mae siarad â nyrs neu feddyg yn anodd. Mae ganddynt agwedd gwbl wahanol. Roeddwn yn gallu rhannu'r hyn oedd yn fy mhoeni'n arw pan fyddai'n dod i fy ngweld. Roedd hi'n help mawr i mi. Er fy mod wedi dioddef sawl salwch gwahanol, nid oeddwn yn gallu cael bathodyn glas. Nid oeddwn yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl nac unrhyw beth o'r fath. Byddwn wedi bod yn gymwys i'w hawlio tra'r oeddwn yn gweithio'n rhan-amser, ond nid oeddwn yn ymwybodol o hynny. Roeddwn yn rhy wael i feddwl am bethau felly. Yn ariannol, roedd yn straen enfawr. Bu i fy ngweithiwr cymdeithasol weithio ar y pethau hynny i mi, ar fy rhan pan nad oeddwn yn gallu llenwi'r ffurflenni trybeilig fy hun. Roedd yn llawer haws pan fyddai hi'n gweithio arnynt gyda mi.
Rwyf wedi bod yn ffodus o gael gweithiwr cymdeithasol sy'n siaradwr Cymraeg rhugl. Cefais hefyd weithiwr cymdeithasol nad oedd yn gallu siarad Cymraeg, ond yn barod i ddweud "Bore da". Mae'n syml, ond yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran ethos. Mae'n gwneud i chi deimlo'n gyfforddus iawn. Mae rhai o'r staff yn gwisgo bathodynnau sy'n dangos eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Mae hynny'n hyfryd gan eich bod yn gallu siarad Cymraeg â nhw'n rhwydd ar ôl gweld y bathodyn. Credaf fod y gwasanaeth iaith Gymraeg yn hanfodol gan ei bod hi'n bwysig defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae'n golygu llawer i mi. Rwy'n siarad Cymraeg gyda fy nheulu a gyda phlant bach. Mae'n naturiol i mi wneud hynny. Os ydych yn cychwyn siarad Saesneg â rhywun, byddwch yn siarad Saesneg â nhw bob amser. Mae'n rhyfedd. Nid oes rheswm pam na all bob un ohonom siarad ychydig o Gymraeg. Wedi'r cyfan, onid ydym yn Gymraeg?
Mr Howell Mudd - Gofalwr
Transcript
Mae fy mywyd wedi bod yn ddiddorol iawn. Cefais fy ngeni yn Neuaddlwyd, ger Aberaeron. Symudais i Fanc y Ffordd, a dyna lle y cefais fy magu. Mis es i Ysgol Cynwyl Elfed ac yna i Ysgol y Grange, Caerfyrddin. Ysgol uwchradd. Ar ôl gadael yr ysgol, treuliais beth amser yn Torquay, Dyfnaint. Symudais wedyn i fyw ger Llundain. Ar ôl hynny, cefais swydd gyda chwmni yn Birmingham. Roeddwn yno am dipyn. Roedd llawer o streiciau ar y pryd yn y diwydiant ceir am eu bod yn adeiladu rhannau ceir gan ddefnyddio peiriannau.
Mi es i weithio yn Sain Ffagan, ger Caerdydd, yn yr amgueddfa. Yna mi es i'r gwasanaeth gweinidogaethol. Cefais fy ordeinio yng Nghilcennin, ger Aberaeron. [INAUDIBLE] Symudais i Wynfryd yn Rhydaman ac yna i eglwys yng ngogledd Sir Benfro. Ymddeolais yn ôl yma nes i'm gwraig golli ei hiechyd. Aeth Mary i mewn ar 14eg Ebrill. Mae'n hapus iawn yno. Dydy hi ddim efallai'n deall ble y mae. Weithiau, dydy hi ddim yn fy adnabod i. Gwnaethant benderfynu mai'r opsiwn gorau iddi fyddai mynd i mewn i ofal parhaus. Mae'n hapus iawn yno. Y rheswm pam ei bod yn hapus yw am fod canolfan ddydd yn Rhydaman.
Bob dydd, ar ôl i'r gofalwyr fod yn gofalu amdani, mae'n mynd i lawr i'r ganolfan ddydd. Mae wedi dod i adnabod y staff a'r bobl eraill sy'n mynd yno. Yr unig wahaniaeth yw nad yw hi'n cysgu gartref. Mae'n mynd i'r ganolfan ddydd bob dydd o'r cartref gofal. Oherwydd hynny, mae'n hapus yn cymdeithasu â phobl eraill. Mae pethau'n hawdd, ond mae rhai pethau wedi newid hefyd. Mae'n haws oherwydd rwy'n gallu cysgu'r nos, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud hynny o'r blaen. Oherwydd ei chyflwr, byddai'n deffro ac yn cerdded o gwmpas.
I ryw raddau mae'n haws, ond maen anodd iawn hefyd oherwydd rwyf ar ben fy hun nawr. Rwy'n eistedd yma weithiau ac yn meddwl ei bod hi yma, ond dydy hi ddim. Rwy'n credu fy mod i'n gallu ei chlywed yn siarad fel yr oedd hi'n arfer ei wneud. Weithiau byddai'n siarad drwy'r nos. Weithiau, alla i ddim cysgu oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n dal yma. Mae'n brofiad rhyfedd. A dweud y gwir, rwy'n ei chael hi'n anodd oherwydd roeddem yn hapus gyda'n gilydd. Fydden ni byth yn mynd allan heb ein gilydd oherwydd dyna natur y weinidogaeth. Roedd yn athrawes ysgol Sul. Roedd hi'n anodd gwneud y penderfyniad, ond cynghorodd y nyrs seiciatrig gymunedol a'r gweithiwr cymdeithasol mai dyna'r opsiwn gorau iddi hi. Dydyn ni ddim yn delio â gweithwyr cymdeithasol yn y weinidogaeth. Rwy'n sylweddoli mai eu diben yw helpu pobl. Maent yn mynd i gartrefi preswyl. Rwy'n meddwl weithiau fod ganddynt ormod o gymwysterau heb ddigon o brofiad ymarferol.
Byddwn yn meddwl y byddai angen cydymdeimlad a doethineb i ddelio â'r henoed. Mae hynny'n bwysicach na darn o bapur sy'n dangos eich bod wedi sefyll yr arholiadau cywir. Oherwydd eu cyflwr, mae'r cleifion eu hunain yn meddwl bod angen cydymdeimlad a doethineb arnoch i allu delio â nhw. Rydw i wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd bellach, ac mae'n gallu bod yn anodd. Gallwch fod yn ddiamynedd weithiau. Ond mae angen i chi fod yn amyneddgar a deall y claf ei hun. Mae angen i chi gael gwasanaethau Cymraeg i'r henoed. Honno yw eu hiaith. Pan oedden nhw'n cael eu magu, doedd dim llawer o Saesneg. Mae gweithwyr cymdeithasol sy'n siarad Cymraeg yn hanfodol. Dydw i ddim wedi cael unrhyw rai fy hun. Pe bawn i wedi aros gartref, efallai y byddwn wedi cael problemau deall Saesneg. Ond gan fy mod wedi bod i ffwrdd, gallwn eu deall yn iawn. Doedd dim byd o'i le ar yr ychydig iawn o wasanaeth Cymraeg a gefais, ond aeth rhywbeth ar goll rhwng meddwl yn Gymraeg a siarad yn Saesneg.
Mags Thomas - Gweithiwr cymdeithasol
Transcript
Ceisiais ddod o hyd i swydd, ond, wrth gwrs, doedd gen i ddim unrhyw brofiad. Felly, penderfynais wneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda'r Samariaid. Menter Ieuenctid oedd enw'r prosiect, rwy'n credu. Roeddwn yn gweithio gyda'r henoed. Roeddent yn paru pobl hŷn â phobl iau. Mae'r syniad yn bodoli ym maes gwaith cymdeithasol bod gennych rywun arall y tu allan i'r gwaith, ond nonsens yw hynny.
Llwyddais i gael swydd fel cynorthwy-ydd lles yng Ngorllewin Morgannwg. Yn Nhreforys, ger Abertawe. Mi es i ymlaen wedi hynny i fod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig, ac yna i Rydychen i ennill fy CQSW. Mi ddes i yn ôl i Gaerfyrddin yn 1984. Fel gweithiwr cymdeithasol, gallwch helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau. A bod yn gefn i bobl sy'n pryderu.
Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu, pobl â phroblemau, pobl sy'n pryderu. Mae'n fraint bod yn gefn i bobl sy'n pryderu a gwneud gwahaniaeth. Mae'n rhaid i chi neilltuo amser i siarad am eich teimladau. Gall y gwaith hwn eich rhoi o dan bwysau, ac rydych yn aml yn mynd ag ef adref gyda chi. Rydych yn pryderu ac yn cael trafferth cysgu. Mae'n bwysig ymdrin â theimladau'r gweithiwr fel rhan o'r broses oruchwylio.
Mae angen amser arnoch i deimlo eich bod yn bwysig a bod eich gwaith yn bwysig. Ni ddylech fyth teimlo cywilydd cyfaddef eich bod yn cael trafferth ymdopi. Pan fydd lefelau straen yn uchel, mae'r llwyth achosion yn ormod. Does dim arian neu mae rhywun wedi bod yn galw arnaf am rywbeth. Mae'n bwysig bod y drws bob amser ar agor. Mae'n rhaid i chi fod yn agored ac mae'n rhaid i chi barchu pobl. Efallai bod dewisiadau ffordd o fyw rhai pobl yn wahanol i'ch rhai chi. Mae'n bwysig derbyn pobl fel y maent a'u parchu heb feddwl am eu lliw, eu credoau na'u tueddiadau rhywiol. Mae'n rhaid i chi fod yn anfeirniadol ac mae angen synnwyr digrifwch arnoch hefyd. Mae'n rhaid i chi allu eich rhoi eich hun yn sefyllfa rhywun arall hyd yn oed os nad ydych erioed wedi cael y profiad hwnnw, er enghraifft petai rhywun yn pryderu y gall ei blant gael eu cymryd i mewn i ofal. Dydw i ddim wedi cael profiad o hynny, ond rwy'n gwybod sut deimlad yw bod yn bryderus.
Rwy'n gwybod sut deimlad yw colli rheolaeth dros amgylchiadau eraill yn fy mywyd. Mae'n rhaid i chi wneud eich gorau i roi eich hun yn eu hesgidiau nhw. Mae'n bwysig defnyddio eich personoliaeth. Cefais brofiad sawl blwyddyn yn ôl, cyn i mi ddechrau gweithio mewn timau. Byddech yn mynd i weld pobl am awr gyda'ch dyddiadur yn eich llaw. Roeddwn yn gweithio yn Llundain, mewn uned llety hanner ffordd. Byddai pobl yn mynd yno ar ôl dod allan o ysbyty seiciatrig cyn mynd allan i'r gymuned. Roedd hwnnw'n brofiad gwahanol iawn, ond yn brofiad da. Cymerodd dipyn o amser i mi sylweddoli bod yn rhaid i chi ddefnyddio eich personoliaeth, am 3 o'r gloch y bore, os ydynt yn cael hunllef, neu 2 o'r gloch y pnawn, pan rydych yn chwarae snwcer.
Roeddwn yn cwnsela ac yn gwneud llawer o waith grŵp. Ond roedd yn bwysig bod yn anffurfiol weithiau a defnyddio eich personoliaeth. Rwy'n credu bod Sir Gaerfyrddin yn un o'r mannau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad fwyaf. Mae'n bwysig i mi fy mod yn gallu defnyddio fy iaith gyntaf. Wnes i ddim dysgu Cymraeg yn yr ysgol, hon yw fy iaith gyntaf. Mae'n bwysig cael y cyfle hwnnw a bod pobl yn gallu dewis.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig rhoi dewis i bobl. Does gan lawer o'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ddim llawer o reolaeth dros eu bywydau eu hunain. Mae hyn yn rhoi opsiwn iddynt. Rwy'n dwli arni beth bynnag, rwy'n teimlo ei bod yn dileu rhwystrau. Cyn gynted ag y byddwch yn cnocio ar ddrws rhywun gallwch ddweud oddi wrth ei acen a yw'n siarad Cymraeg ai peidio. Yn y sir hon, ac yn y gwaith, mae gennym lond llaw o bobl sydd ond yn siarad Cymraeg. Mae hynny'n hyfryd hefyd. Rwy'n credu bod y Gymraeg yn dechrau dod yn fwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc a phlant. Mae'n hollbwysig bod gweithwyr cymdeithasol ar gael sy'n siarad Cymraeg, yn enwedig yng Nghymru.
Linda Jones - Rheolwr gwaith cymdeithasol
Transcript
Roeddwn i'n arfer gweithio fel ysgrifennydd sgriptiau ar gyfer y teledu. Fel rhan o'm gwaith, ymchwiliais i rôl gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda phlant. Siaradais â gweithwyr cymdeithasol i weld sut roedd plant sy'n cael eu cam-drin yn ymddwyn a pha arwyddion i gadw golwg amdanynt. Roedd yn ddiddorol iawn.
Roedd y swydd ei hun yn swnio'n well nac ysgrifennu amdani. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod gen i gefndir yn y maes. Roedd fy nhad yn anabl, ac roedd fy mrawd yn dioddef o Syndrom Down's. Roeddwn i'n gyfarwydd â gweld gweithwyr cymdeithasol yn y tŷ. Mae goruchwyliaeth yn bwysig i weithwyr cymdeithasol, yn enwedig i weithwyr cymdeithasol newydd, er mwyn gwybod eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi.
Yn aml mae pobl yn gweithio oriau hir. Maent yn arwyr di-glod yn gweithio allan yn y gymuned. Mae'n bwysig eu bod yn gallu dweud - "Rydw i wedi gwneud hyn a hyn!" a bod rhywun yn cydnabod eu gwaith da. Mae hefyd yn gyfle iddynt siarad am unrhyw beth a all fod wedi codi - pethau sydd wedi peri pryder iddynt, neu efallai hyd yn oed wedi eu gofidio.
Mae'r gwaith rydym yn delio ag ef yn gallu bod yn drist iawn. Mae'n gallu bod yn drasig. Mae'n bwysig eu bod yn trafod eu teimladau fel nad ydynt yn mynd â nhw adref gyda nhw. Mae'r egwyddorion yng nghod ymarfer Cyngor Gofal Cymru yn bwysig. Mae egwyddorion personol hefyd - pa fath o berson rydych. Mae'n rhaid i chi barchu unigolion sydd â phroblemau neu anableddau. Mae'n rhaid i chi barchu'r ffaith bod pobl yn wahanol a pheidio â bod yn rhagfarnllyd. Doeddwn i byth yn meddwl fy mod i'n berson rhagfarnllyd. Ond pan oeddwn yn hyfforddi, gofynnodd y tiwtor, "Pa ragfarnau sydd gennych?" Rwy'n cofio meddwl "Does gen i ddim." Ond mae gan bob un ohonom ein rhagfarnau ein hunain ac mae'n bwysig ein bod yn eu hanwybyddu. Efallai y gallwch siarad amdanynt yn y broses oruchwylio. Dylech gyfaddef eu bod yn bodoli a'u bod yn eich pryderu. Mae'n hollbwysig eich bod yn berson gonest a diffuant a'ch bod yn ceisio gwneud eich gorau dros y person. Does dim ots beth rydych chi ei eisiau. Y person sy'n bwysig.
Er mwyn bod yn weithiwr cymdeithasol da, beth rwy'n chwilio amdano. Roeddwn yn rhan o banel cyfweld unwaith. Gallwch weld personoliaeth person cyn iddo ddechrau ateb y cwestiynau. Rydym yn chwilio am bobl sy'n onest, yn naturiol ac yn gyfforddus gyda phobl; pobl sydd â diddordeb mewn pobl ac sydd am wrando ar eu stori. Mae sgiliau gwrando yn bwysig iawn. Rwyf hefyd yn chwilio am rywun sy'n broffesiynol; rhywun sy'n gyfarwydd â'r gyfraith a pholisïau ac sy'n deall strwythur y cyngor. Pan fyddwn yn gwneud ein gwaith, mae gennym rôl bwysig i'w chwarae o fewn y gyfraith. Rhaid i'r person gymryd cyfrifoldeb am ansawdd ei waith - cymryd cofnodion, sgiliau asesu, asesu risg. Rhaid iddo ddeall ei rôl yn llwyr. Daw proffesiynoldeb pan fydd rhywun yn deall ei rôl.
Mae gweithio yng Nghymru yn wahanol am ei bod yn wlad ddatganoledig. Mae strwythur y ddeddfwriaeth yn wahanol iawn i Loegr a'r Alban. Rydw i'n weithiwr cymdeithasol iechyd meddwl. Mae ein cod ymarfer ar gyfer iechyd meddwl yn wahanol i'r un yn Lloegr. Er mai gwahaniaethau bach ydynt, maent yn bwysig, ac mae'n rhaid i chi fod yn gyfarwydd â nhw. Mae'r ffordd rydych yn cymhwyso'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn wahanol yn Lloegr. Mae'n bwysig cydnabod bod gwahaniaethau. Dydyn ni ddim yr un fath â Lloegr a'r Alban. Mae ganddynt wahaniaethau bach yn eu deddfwriaeth. Hefyd, mae'r traddodiadau sydd gennym yng Nghymru, yr iaith a'r math o wlad sydd gennym, yn effeithio ar y ffordd rydym yn gweithio. Mae gennym ardaloedd sy'n ddinesig a rhai sy'n wledig tu hwnt.
Mae'n bwysig bod defnyddwyr gwasanaethau yn gallu dewis eu hiaith. Mae ganddynt yr hawl i wneud hynny fel unigolion sy'n byw yng Nghymru. Mae'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw yn profi argyfwng personol. Rydych yn teimlo'n agos atynt yn syth. Maent yn ymddiried ynoch yn syth. Mae'n digwydd, mae pobl yn ymlacio'n syth pan fyddant yn sylweddoli eich bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae pobl yn gallu dweud beth sy'n eu poeni. Maent yn gallu mynegi eu hunain yn well yn eu hiaith eu hunain. Os gallant ddweud wrthych beth sydd o'i le, a dweud wrthych beth sydd ei angen arnynt, gallwch gynnal eich asesiad yn well. Rydych yn cael y gwir yn hytrach na thrafferth ymdopi ag iaith nad ydynt yn gyfarwydd â hi.
Pa ddigwyddiadau neu drobwyntiau a effeithiodd ar fywydau'r unigolion yn y fideos?
Gwnewch rai nodiadau am eich bywyd eich hun a'ch sefyllfa ar hyn o bryd. Pa ddigwyddiadau bywyd neu drobwyntiau sydd wedi effeithio arnoch chi a'r penderfyniadau a'r dewisiadau rydych wedi'u gwneud?
- Beth rydych chi'n ei ddeall o'r cyfweliadau am bwysigrwydd cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol? (Gwrandewch yn benodol ar y gweithiwr cymdeithasol yn siarad am ddefnyddio ei phersonoliaeth.) Beth mae'r gofalwr yn ei olygu, yn eich barn chi, pan fydd yn dweud bod rhywbeth ar goll rhyngddo ef a'r gweithiwr cymdeithasol di-Gymraeg?
- Pa nodweddion y mae'r unigolion yn y fideos yn awgrymu sydd eu hangen ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol da? Beth yw'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng y nodweddion a nodwyd gan yr unigolion gwahanol?
- Pa effaith y mae ymyriad gwaith cymdeithasol wedi'i chael ar fywyd y defnyddiwr gwasanaeth? Y gofalwr? Pam ei bod yn bwysig i weithwyr cymdeithasol ddeall y wlad y maent yn gweithio ynddi ac anghenion iaith y bobl y maent yn gweithio gyda nhw?
- Beth oedd y peth mwyaf y gwnaethoch ei ddysgu drwy wylio'r cyfweliadau a fyddai'n bwysig ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol, yn eich barn chi?