Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol
Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol

Cyflwyniad

Yn y gyfres hon o bedwar cyfweliad, byddwch yn gwylio defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, gweithiwr cymdeithasol a rheolwr gwaith cymdeithasol yn siarad am eu profiadau gwahanol. Bydd y cyfweliadau'n dangos pwysigrwydd gwrando ar storïau pobl, pwysigrwydd cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol a phwysigrwydd cyd-destun yr ymarfer gwaith cymdeithasol. Byddwch yn ystyried cwestiynau am y cyfweliadau ac yn myfyrio ar oblygiadau'r hyn sydd gan yr unigolion i'w ddweud ar gyfer ymarfer.

Er y gallwch ddefnyddio'r cyfweliadau fideo hyn fel adnoddau annibynnol, maent hefyd yn ategu'r cyrsiau ar-lein am ddim Cyflwyniad i waith cymdeithasol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , lle gallwch ddarllen mwy am weithio gydag unigolion a phwysigrwydd bywgraffiadau, a Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru, lle byddwch yn dysgu am bwysigrwydd y cyd-destun Cymreig a'i effaith ar waith cymdeithasol yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.