Dysgwch fwy am gyrsiau cerddoriaeth Y Brifysgol Agored.
Roedd Wales: Music Nation yn gyd-gynhyrchiad rhwng yr OU / BBC Cymru Wales a gyflwynwyd gan Huw Stephens. Cafodd ei ddarlledu fis Hydref 2022. Yn y Sgwrs Agored hon, mae Huw, Ian Michael Jones, y cynhyrchydd, ac academyddion OU a wnaeth weithio ar y rhaglen yn trafod etifeddiaeth Cymru fel gwlad y gan, ac yn myfyrio ar uchafbwyntiau’r rhaglen iddyn nhw.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ddydd Mercher, 18 Ionawr, 2023, yn rhan o’r gyfres OpenTalks o ddigwyddiadau dan arweiniad y Brifysgol Agored yng Nghymru. Darllenwch ragor am yr arbenigwyr OU a gymerodd ran isod.
Dr Martin V. Clarke
Pennaeth Disgyblaeth (Cerdd), Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Y Brifysgol Agored
Mae prif ddiddordebau ymchwil Martin Clarke yn ymwneud â’r berthynas rhwng cerddoriaeth, diwinyddiaeth ac ymarfer crefyddol, a hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Mae ei waith ar gerddoriaeth, diwinyddiaeth a chrefydd yn bennaf wedi canolbwyntio ar gerddoriaeth ac ymarfer crefyddol ym Mhrydain ers y deunawfed ganrif, a’r mudiad Methodistaidd yn ehangach.
Dr Helen Barlow
Uwch Gymrawd Ymchwil, Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Y Brifysgol Agored
Mae Dr Helen Barlow yn ymchwilio hanes cymdeithasol a diwylliannol cerddoriaeth ym Mhrydain, ac yn enwedig Cymru, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, ac eiconograffeg cerddoriaeth. Mae hi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn defnyddio dull rhyngddisgyblaethol, ac yn credu bod ei chefndir mewn llenyddiaeth a hanes celf yn cynnig safbwyntiau amrywiol ar hanes cerddoriaeth.
Yr Athro Trevor Herbert
Athro Emeritws Cerddoriaeth, Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Y Brifysgol Agored
Mae ymchwil Trevor Herbert yn ehangu o’r canol oesoedd i’r cyfnod modern, ac mae’n cynnwys cerddoriaeth jazz a chynhenid. Ymhlith ei lyfrau mae The British Brass Band: A Musical and Social History (2000), The Trombone (2006), a Music and the British Military in the Long Nineteenth Century (2013, ar y cyd â Helen Barlow); fe yw cyd-olygydd Cambridge Companion to Brass Instruments (1997) a Cambridge Encyclopedia of Brass Instruments (2018). Mae hefyd yn brif olygydd Cambridge History of Welsh Music (2022).
Ar gael nawr
A History of Welsh Music
Cambridge University PressGolygwyd gan Trevor Herbert, Martin V. Clarke a Helen Barlow
O feirdd canoloesol cynnar i fandiau’r cyfnod ‘Cymru Cŵl’, mae’r llyfr hwn yn edrych ar arferion a thraddodiadau cerddorol Cymru, y grymoedd sydd wedi’u dylanwadu a’u cyfeirio, a’r ffyrdd y mae’r syniad o Gymru fel ‘cenedl gerddoriaeth’ wedi cael ei ffurfio a’i ymgorffori mewn canfyddiadau poblogaidd yng Nghymru a thu hwnt. Gan ddechrau drwy ddisgrifio bywyd cerddorol Cymru yn y canol oesoedd cynnar, mae’r llyfr yn cynnwys astudiaeth gyffredinol o hanes cerddoriaeth Cymru ac ystyriaeth fanwl o’r syniadau, y credoau, yr arferion a’r sefydliadau sy’n sail iddo.
Dysgwch fwy ar OpenLearn
Cyfres o fideos yw Sgwrs Agored, lle bydd academyddion y Brifysgol Agored yn rhannu eu profiad a'u hangerdd dros bwnc neu destun o'u dewis.
Gwylio ragor o fideos Sgwrs Agored
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon