Dysgwch fwy am gyrsiau cerddoriaeth Y Brifysgol Agored.
Mae stori’r eisteddfod yn deillio’n ôl i 1176 pan gynhaliwyd gwledd yng nghastell Aberteifi gan Yr Arglwydd Rhys (Rhys ap Gruffydd) o’r Deheubarth gan wahodd cantorion a beirdd o’r holl wledydd Celtaidd i gystadlu am wobrau. Cyhoeddwyd y digwyddiad flwyddyn yn gynharach, sy’n dal yn nodwedd o’r eisteddfod fodern.
Gwyddom fod eisteddfodau wedi cael eu cynnal yng Nghaerwys, Sir y Fflint yn 1523 a 1568, yn bennaf ar gyfer beirdd, er y cynhaliwyd ambell gystadleuaeth gerddorol, ond yn ystod y ddeunawfed ganrif y datblygwyd yr eisteddfod fodern, gan ddechrau yng Nghorwen yn 1789 gyda chynulliad o feirdd gyda rhywfaint o ganu.
Llyfr y Cyfansoddiadau Eisteddfod Corwen 1789. Llun gyda diolch i David Ellis Evans, Casgliad y Werin Cymru.
Mwy o gerddoriaeth
Gŵyl farddonol ydoedd yn bennaf o hyd, ond erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd pwyslais cynyddol ar gerddoriaeth. Ffurfiwyd cymdeithasau fel Cymdeithas Cambrian Dyfed er mwyn cynnal traddodiadau Cymreig, yn cynnwys cerddoriaeth, ac roedd cystadlaethau megis canu’r delyn a chanu yn nodwedd o’u heisteddfodau. Ers hynny, bu cerddoriaeth yn ganolog i eisteddfodau benbaladr.
Ffurfiwyd Cymreigyddion y Fenni, cymdeithas Gymraeg y Fenni, yn 1833 a chynhaliwyd cyfres o eisteddfodau rhwng 1834 ac 1853. Roedd y rhain yn cynnwys cystadlaethau ar gyfer canu’r delyn deires draddodiadol Gymreig, a chyflwynwyd telynau fel gwobrau. Yn eisteddfod Y Fenni yn 1837 y rhoddwyd gwobr i Maria Jane Williams am ei chasgliad o ganeuon gwerin, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel Ancient National Airs of Gwent and Morganwg yn 1844.
Telyn deires a enillwyd gan Edward Hughes yn Eisteddfod Y Fenni yn 1848. Llun gyda diolch i Amgueddfa Cymru, Casgliad y Werin Cymru.
Tyfu a datblygu
O ganol y 19eg ganrif, tyfodd eisteddfodau o ran maint gan ddod yn ddigwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol, wrth i ddatblygiad y rheilffyrdd wneud teithio’n haws: gosodwyd tua 1,500 milltir o draciau trên yng Nghymru rhwng 1840 ac 1870, a threfnwyd trenau pleser i eisteddfodau mawr.
Daeth cerddoriaeth gorawl yn boblogaidd yng Nghymru o’r 1860au ymlaen, a daeth cystadlaethau corawl yn nodwedd gyson o fywyd yr eisteddfodau ar bob lefel. Yn 1873, aeth côr cymysg cymunedol o dde Cymru i gystadlu am dlws yn y Palas Crisial gan ennill y dydd ar gôr o Lundain. Llwyddodd y fuddugoliaeth honno i feithrin cred yn rhagoriaeth gerddorol ‘gwlad y gân’.
Posteri o Eisteddfod Genedlaethol 1906 yng Nghaernarfon ac Eisteddfod Genedlaethol 1911 yng Nghaerfyrddin yn cyfeirio at y prif gystadlaethau a’r cyngherddau 'mawreddog'. Lluniau gyda diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Casgliad y Werin Cymru.
Gwelwyd cyfanswm o 69 o gorau’n cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911 mewn amrywiol gategorïau – corau cymysg, merched, meibion a phlant. Trodd cystadlaethau corawl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn enwedig i fod yn feysydd y gad i’r mawrion. Yn 1930 parhaodd y Brif Gystadleuaeth Gorawl yn Eisteddfod Llanelli am chwe awr. Mewn eisteddfodau modern, ceir gwell rheolaeth ar amser, ond bydd llawer o eisteddfodau lleol yn parhau hyd at yr oriau mân.
Lledaeniad a dylanwad
Mae eisteddfodau wedi teithio gyda’r Cymry wrth iddynt symud i bedwar ban. Mae cymunedau o Gymry mewn trefi yn Lloegr, Yr Unol Daleithiau ac Awstralia wedi cynnal eisteddfodau fel symbol o’u hunaniaeth Gymreig. Un digwyddiad nodedig oedd yr eisteddfod a gynhaliwyd fel rhan o Ffair y Byd yn Chicago yn 1893, gyda Chôr Merched o Gymru dan arweiniad Clara Novello Davies a’r Rhondda Gleemen dan arweiniad Tom Stephens yn dod i’r brig yn eu priod gystadlaethau.
Erthygl o’r Western Mail, 21ain Medi 1893, yn sôn am yr eisteddfod yn Chicago. Darllen yr erthygl gyflawn.
Mae gan gantorion enwog o Gymru megis Stuart Burrows a Bryn Terfel ddyled fawr i’r eisteddfod am y profiad a gawsant fel cystadleuwyr. Enillodd Stuart Burrows y Rhuban Glas (y wobr ar gyfer y prif unawdydd) yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1959. Bryn Terfel oedd cyd enillydd Ysgoloriaeth Goffa Towyn Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog yn 1987. Aeth y ddau yn eu blaenau i ddilyn gyrfaoedd disglair.
Eisteddfodau heddiw
Cynhelir eisteddfodau o hyd ar bob lefel, yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae ysgolion a chymdeithasau’n cynnal eu heisteddfodau eu hunain, ac mae’r Urdd, mudiad ieuenctid Cymru, yn cynnal eisteddfod genedlaethol flynyddol, sef gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.
Mae’r mwyafrif o eisteddfodau modern yn cynnwys cystadlaethau ar gyfer beirdd ac awduron, cantorion ac offerynwyr, ensemblau a chorau, gan arddangos cerddoriaeth draddodiadol, glasurol a phoblogaidd. Anodd disgrifio ysbryd ac awyrgylch yr eisteddfod mewn geiriau, ond teg dweud bod eisteddfod yn crisialu’r ymdeimlad o Gymreictod i lawer o bobl.
Mwy am eisteddfodau
- Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- Gwefan Eisteddfod yr Urdd
- Yr Eisteddfodau Taleithiol 1819-1834 (Amgueddfa Cymru)
- Gwefan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon