Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Awdur: Jen Wilson

Sut daeth jazz i Gymru

Diweddarwyd Dydd Llun, 6 Mawrth 2023

Mae Jen Wilson yn archwilio'r cysylltiadau hanesyddol rhwng cerddoriaeth Affricanaidd-Americanaidd y 1850au a thwf jazz yn niwylliant poblogaidd Cymru.

Dysgwch fwy am gyrsiau cerddoriaeth Y Brifysgol Agored. 

Mae llinell syth yn rhedeg o'r mudiad atal caethwasiaeth a'i gerddoriaeth ymgyrchu o'r 1850au, hyd at y gwyliau jazz rydyn ni'n gyfarwydd â nhw yng Nghymru heddiw. Gellir olrhain y llinell hon drwy fywyd ac amseroedd yr ymgyrchydd atal caethwasiaeth a'r diddymwr o Abertawe, Jessie (Heineken) Donaldson (1799_–1889). Agorodd Jessie School for Young Ladies and Gentlemen yn ei hugeiniau yn Wind Street. Roedd hi'n dod o deulu o Undodiaid cadarn a oedd yn aelodau o Gymdeithas Atal Caethwasiaeth Abertawe, y gymdeithas fwyaf a mwyaf ymrwymedig yng Nghymru. Ymfudodd Jessie i Cincinnati pan oedd hi'n 47 oed, ac ymddiddoroddd mewn i wleidyddiaeth ryngwladol ar raddfa fawr ar unwaith. Eu cartref, Clermont, a oedd yn noddfa i gaethweision ffo ar lan afon Ohio, oedd y trydydd tŷ diogel Cymraeg ar draws yr afon o dalaith Kentucky. .


Welsh anti-slavery campaigner Jessie DonaldsonChwith: Ymgyrchydd atal caethwasiaeth Cymru, Jessie Donaldson, © Jazz Heritage Wales / Hillary Edmiston. De: Y plac glas a osodwyd y tu allan i adeilad PCYDDS Dinefwr yng nghanol dinas Abertawe i'w choffáu, © PCYDDS.


Roedd ei ffrindiau'n newyddiadurwyr, yn gaethweision a ryddhawydd ac yn ymgyrchwyr megis Frederick Douglass ac Ellen a William Craft, a'r gweithredwyr gwleidyddol William Lloyd Garrison a Harriet Beecher Stowe. Roedd y gerddoriaeth y byddai Jessie wedi clywed yn cael ei chwarae ar strydoedd Cincinnati gan Stephen Collins Foster. Ysgrifennodd ganeuon ymgyrch diddymwyr ac addasu cerddoriaeth a chaneuon am yr afon a oedd yn cael eu canu gan yr Affricanwyr-Americanwyr a oedd yn gweithio ar y cychod afon stac uchel rhwng Cincinnati a New Orleans: ‘Oh! Susanna’, ‘Old Folks at Home’, ‘Swanee River’, ‘Old Black Joe’ ac yn y blaen.

Dychwelodd Jessie adref i Abertawe ym 1866 ar ddiwedd Rhyfel Cartref America. Roedd hi'n 74 pan gyrhaeddodd The Fisk Jubilee Singers, côr o gaethweision rhydd, y dref ar gyfer eu perfformiad cyntaf yn Neuadd Gerddoriaeth Craddock Street. Wedi’i ffurfio fel côr codi arian i Brifysgol Fisk ar gyfer Addysg Caethweision Rhydd a’u plant, Nashville, Tennessee, disgrifiwyd eu cyngerdd cyntaf yn Abertawe fel ‘caneuon caethweision rhyfedd, y mae caethweision taleithiau’r de mor enwog amdanynt’. Gwnaethant werthu sawl copi o'u Jubilee Song Book, gan roi'r cyfle i bobl leol ddysgu eu caneuon. Mae rhagair i'r gerddoriaeth yn darllen: ‘Its unique origin, and that the melodies are never composed, but spring into life… and rare occurrence of triple time, or three-part measure… to be found in the beating of the foot and the swaying of the body.’ Canodd y Fisk Jubilee Singers gydag awdurdod neuadd gyngerdd, mor wahanol i'r gerddoriaeth 'minstrel' a oedd yn boblogaidd ar y pryd. Teithiodd y Fisk Jubilee Singers o amgylch Cymru gan ymweld ag Abertawe eto yn 1875, 1882, 1889 ac yn 1907 fel y Fisk Jubilee Trio a gododd arian 'ar gyfer tlodion Abertawe' i ddiolch am y rhoddion a dalwyd i'w cronfa i adeiladu campws Fisk.


The Fisk Jubilee SingersY Fisk Jubilee Singers ym 1875.


Esiampl gynnar o gyfnewid rhyngddiwylliannol o ddiwylliant Cymru ac America oedd y sioe gerddoriaeth, a oedd rhwng yr 1850au a dechrau'r ugeinfed ganrif yn adloniant poblogaidd iawn, yn enwedig yn ne Cymru ddiwydiannol. Er bod sioeau cerddoriaeth yn cael eu cydnabod heddiw yn hiliol ac yn ddifrïol, roeddent yn siŵr o ddenu cynulleidfaoedd lleol mawr ac o fudd ariannol i'r perfformwyr Affricanaidd Americanaidd ar y pryd. Addasodd cerddoriaeth 'minstrel' Gymreig wyn yn lleol y traddodiad hwn a pherfformio mewn 'wyneb du' hiliol drwy ddefnyddio corcyn llosg fel paent wyneb, gan ddehongli cerddoriaeth taleithiau deheuol America ar gyfer budd eu hunain. Roedd y dehongliadau hyn yn cynnwys banjos, offerynnau taro a dawns. Gwnaeth un grŵp cerddoriaeth lleol o'r enw The Harry Collins Minstrels gynnwys un dyn Du go iawn, ymysg deuddeg dyn ag wynebau du. Addasodd perfformwyr Cymreig yr agweddau o gerddoriaeth Du, gan gynnwys caneuon, straeon digrif, a 'crosstalk' cyflym, fel arfer yn diweddu gyda 'walkaround' Skedaddle. Gan nodi poblogrwydd cerddoriaeth minstrel, defnyddiodd rhai perfformwyr Affricanaidd-Americanaidd golur i orliwio eu nodweddion am effaith comig ychwanegol yn eu sioeau, a oedd fel arfer yn cynnwys fersiynau o'r Virginny Breakdown, y Tennessee Double Shuffle a'r dawnsiau Louisiana Toe ‘n’ Heel. Gwnaeth rhai cwmnïau cerddoriaeth Cymreig a oedd yn perfformio ag wyneb du gynnwys harmoniwm yn eu Skedaddles, a oedd yn nodwedd leol iddynt.

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, roedd y gerddoriaeth yn esblygu i gyffro newydd ragtime, neu gyfnod raggedy, a'r gystadleuaeth troelli ar y llawr dawnsio, y cakewalk, gyda'i pharodi o wahaniaethau dosbarth o arferion dosbarthiadau uwch; cerdded yn fursennaidd, a gleid braich wrth fraich. Cafodd y genre cerddorol newydd hwn ei bersonoli gan ddyfodiad cynhyrchiad cwbl Ddu In Dahomeyyng Nghymru, wrth iddo gyrraedd Theatr Y Grand Abertawe ym 1905 ac achosi cynnwrf. Roedd y sioe yn cynnwys cystadleuaeth cakewalk gyda phedwar cwpl yn cael eu dewis bob nos i gystadlu am wobr y ddawns orau ar ddiwedd yr wythnos, a dyma pam y dywed y mynegiad 'cymryd y gacen'.



Performers from In Dahomey on stage.George Walker, Adah Overton Walker a Bert Williams yn cysylltu breichiau a dawnsio'r cakewalk yn y sioe gerdd gyntaf yn Broadway a gafodd ei hysgrifennu a'i pherfformio gan Affricanwyr-Americanwyr, sef In Dahomey.


Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth mudiad cymdeithas caffi i'r amlwg a roddodd gefnogaeth a seibiant i'r rheini oedd yn dioddef profedigaeth. Roedd caffis yn fan cyfarfod gwych i fenywod gan gynnig cyfleoedd gwaith newydd i gerddorion, dawnswyr ac entrepreneuriaid lleol ar yr un pryd. Roedd deuddeg caffi yn Abertawe, gyda'r un mwyaf yn arlwyo ar gyfer 1,000 o bobl, a rhai'n llogi combos Affricanaidd-Americanaidd bach o gynyrchiadau'r theatr a oedd yn teithio ar gyfer eu sioeau llawr a'u rifiwiau yn y prynhawn. Roedd caffis yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am yr addurniadau gorau a'r sioe lawr orau, gyda menywod yn cynhyrchu ac yn cyfarwyddo'r sioeau, yn ogystal â pherfformio.  Ym 1917 cyhoeddwyd y gerddoriaeth ddalen boblogaidd  ‘Everybody Loves a Jass Band’, a gwnaeth 'jazz' ei ymddangosiad cyntaf yng ngwasg de Cymru yn Chwefror 1919.   

During the 1920s, dance ‘parlours’ opened in profusion, offering ‘jazz’ and ‘blues’ tuition, plus lessons in the Charleston, Turkey Trot, Chicago Maze and Swansea’s Marina Saunter with women’s bands supplying the new music. While Wales danced towards the Second World War, large dance orchestras evolved from the combos, propelling a new generation of young women leading the bands into the swing era, such as Ivy Benson and Hilda Ward, known as Lady Syncopators.


1919 newspaper advertisement for dance lessonsHysbyseb papur newydd ar gyfer gwersi dawnsio yn Abertawe ym 1919.


Yn ystod yr 1920au, agorodd 'parlyrau' dawns yn helaeth, gan gynnig hyfforddiant, a gwersi yn y Charleston, Turkey Trot, Chicago Maze a Marina Saunter Abertawe gyda bandiau menywod yn darparu'r gerddoriaeth. Tra roedd Cymru'n dawnsio tuag at yr Ail Ryfel Byd, esblygodd cerddorfeydd dawns o'r combos, gan arwain cenhedlaeth newydd o ferched ifanc i'r oes swing, megis Ivy Benson a Hilda Ward, oedd yn cael eu hadnabod fel Lady Syncopators.

Yn y 1950au gwelwyd ffrwydrad jazz traddodiadol yr ail oes jazz, ac ailddehongliad o gerddoriaeth wreiddiol Dixieland o New Orleans, a barodd tan ymddangosiad y Beatles a'r Rolling Stones yn y 1960au cynnar. Roedd y ddau fand yn cydnabod ac yn talu teyrnged i'w harwyr blues a jazz Affricanaidd-Americanaidd. Dywedodd Ottilie Patterson, lleisydd y Band Jazz Chris Barber ‘jazz didn’t come out of a vacuum’. Roedd Ottilie yn cydnabod bod y llinell syth yn rhedeg yn ôl i'r hen 'ganeuon caethwasiaeth rhyfedd' cerddoriaeth emynau hwyliog a chaneuon gwladfa, fel y gwnaeth y Parch. E. Ebrard Rees, a ysgrifennodd yn y Melody Maker yn cymharu a chyferbynnu llafarganu 'hwyl' diwygiadol traddodiadol Gymreig a'r caneuon Affricanaidd-Americanaidd.


Addaswyd yr erthygl hon o lyfr Jen Wilson Freedom Music: Wales, Emancipation and Jazz 1850-1950, Gwasg Prifysgol Cymru, 2019.

Jazz Heritage Wales logo

Er mwyn dysgu mwy am hanes jazz yng Nghymru, ewch i Jazz Heritage Wales ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. 



Yr awdur

Gadawodd Jen Wilson (1944 - 2023) yr ysgol pan oedd yn un ar bymtheg ar ôl methu ei harholiadau lefel 'O', a hynny mewn cerddoriaeth a hanes, ond gyda sgiliau RSA llaw-fer a theipio ardderchog. Roedd hi'n gweithio fel ysgrifenyddes yn ystod y dydd ym maes cludo ac allforio glo ar ddociau Abertawe yn ystod y 1960au. Roedd hi hefyd yn chwarae piano jazz mewn clybiau, tafarndai a neuaddau cyngerdd, gan arwain ei bandiau ei hun neu fel unawdydd. 

Ailgychwynnodd ei haddysg barhaus yn ystod y 1980au drwy ymuno â Grŵp Hanes Menywod Abertawe gyda Gail Allen, a gafodd ei arwain gan yr hanesydd ffeministaidd Dr Ursula Masson, yn gwneud rhaglenni dogfen fideo: ar weithwyr arfau rhyfel Pen-y-bont ar Ogwr, Streic y Glowyr 1945/5, Gwrthwynebwyr Cydwybodol Abertawe, Y Diwrnod Olaf yn Ysbyty Mamolaeth Mount Pleasant, a Phortread o'r Arlunydd fel Menyw Hŷn.  Pan ofynnodd Ursula i Jen, "beth yw hanes Jazz yng Nghymru?" ac ymatebodd Jen nad oedd hi'n gwybod, dywedodd Ursula "cer i ddysgu." 

Ymddangosodd Archif Merched Jazz, sydd bellach yn cael ei alw'n Treftadaeth Jazz Cymru ym 1968. Arweiniodd y gwaith hwn i Jen yn cael MSc (Econ) mewn Astudiaethau Menywod, Prifysgol Abertawe (1996), Athro er Anrhydedd mewn Ymarfer PCYDDS (2016), a Gwobr Dewi Sant Llywodraeth Cymru ar Ddiwylliant (2017). Cefnogwyd ei CD The Dylan Thomas Jazz Suite 'Twelve Poems' gan Grant i Unigolion gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dathlu 50 Mlynedd mewn Jazz.    


Dysgwch fwy ar OpenLearn



 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?