Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Meithrin eich Sgiliau Meddwl yn Feirniadol

Diweddarwyd Dydd Gwener, 19 Chwefror 2021
Beth allwch chi ei wneud i feithrin eich sgiliau meddwl yn feirniadol? Mae Mark Pinder a Paul-François Tremlett yn esbonio ambell beth i'w cofio wrth asesu ymresymiadau pobl eraill, ac wrth gynnig eich ymresymiadau eich hun hefyd.

Ymresymiadau

Mae pob un ohonom wedi dod ar draws sefyllfa lle rydym yn credu un peth ac mae rhywun arall yn credu rhywbeth arall. Efallai mai Roger Federer yw'r chwaraewr tennis gorau erioed yn eich barn chi, ond Serena Williams yw'r un gorau yn fy marn i. Neu efallai eich bod chi'n credu bod bywyd estron deallus yn bodoli yn rhywle arall yn y Bydysawd, ond nad ydw i'n credu hynny. Neu efallai eich bod chi'n credu mai Wellington yw prifddinas Seland Newydd, ond fy mod i'n credu mai Auckland ydyw. Mae'n bosibl anghytuno â bron popeth.

Roger Federer serving during one of his matches at the 2012 London Olympics. Roger Federer yn serfio yn ystod un o'i gemau yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.

Gall pobl roi rhesymau dros yr hyn maent yn ei gredu y rhan fwyaf o'r amser. Pam mai Federer yw'r chwaraewr tennis gorau yn eich barn chi? Efallai mai Federer yw'r chwaraewr tennis mwyaf gosgeiddig ar y cwrt yn eich barn chi. Gallwn ymateb drwy nodi mai Williams sydd wedi ennill y nifer mwyaf o deitlau sengl Camp Lawn ers i dennis gael ei broffesiynoli yn 1968. A pham y mae bywyd estron deallus yn bodoli, yn eich barn chi? Efallai y gallech chi ddweud, yn ystadegol, ac o ystyried helaethrwydd y Bydysawd, ei bod hi'n annhebygol mai dim ond unwaith y mae bywyd deallus wedi esblygu. Gallwn i ymateb drwy ddweud, petai bywyd estron deallus yn bodoli, y byddem wedi dod i gysylltiad ag ef erbyn hyn.

Mae athronwyr yn hoffi cynrychioli rhesymau pobl dros yr hyn y maent yn ei gredu fel ymresymiadau. Mae ymresymiad yn cynnwys un honiad neu fwy, sef rhagosodiad, sy'n cael ei gyflwyno i gefnogi casgliad. Er enghraifft, gallem gynrychioli ein hanghytundeb am dennis fel hyn:

Eich Ymresymiad Chi

  • Rhagosodiad: Federer yw'r chwaraewr tennis mwyaf gosgeiddig ar y cwrt.

  • Casgliad: Federer yw'r chwaraewr tennis gorau erioed.

Fy Ymresymiad I

  • Rhagosodiad: Williams sydd wedi ennill y nifer mwyaf o deitlau Camp Lawn ers i dennis gael ei broffesiynoli.

  • Casgliad: Williams yw'r chwaraewr tennis gorau erioed.

Profi'r Ymresymiadau

Mae dangos ein hanghytundeb fel hyn yn ddefnyddiol, oherwydd mae gennym brofion i asesu ymresymiadau. Dyma'r ddau brawf pwysicaf.

  • Y prawf cyntaf: A yw'r holl ragosodiadau'n wir?
  • Ail brawf: Petai'r rhagosodiadau'n wir, a fyddent yn cefnogi'r casgliad?

Er mwyn i ymresymiad fod yn un dda, dylai basio'r ddau brawf.

Gadewch i ni ddechrau drwy gymhwyso'r prawf cyntaf at eich ymresymiad. Dim ond un rhagosodiad sydd ar gael: 'Federer yw'r chwaraewr mwyaf gosgeiddig ar y cwrt’. A yw'r rhagosodiad hwnnw'n wir? Mae gwahanol ffyrdd y gallem roi cynnig arnynt i ganfod hynny. Gallem holi arbenigwyr tennis, neu'r cyhoedd, gallem drafod beth sy'n cyfrif fel gosgeiddrwydd mewn tennis ac astudio'r clipiau ffilm ein hunain, neu rywbeth arall. Efallai, pan fyddwn yn gwneud yr ymchwil, y byddwn yn penderfynu bod y rhagosodiad yn wir; neu efallai na fyddwn. Nid yw'n amlwg a yw Eich Ymresymiad Chi yn pasio'r prawf cyntaf.

I'r gwrthwyneb, mae Fy Ymresymiad I yn pasio'r prawf cyntaf. Ar adeg ysgrifennu, Williams oedd wedi ennill y nifer mwyaf o deitlau Camp Lawn ers i dennis gael ei broffesiynoli. Ond a yw'n pasio'r ail brawf? Wel, efallai y bydd yn rhesymol i chi gwestiynu pam rwy'n anwybyddu teitlau Camp Lawn dwbl. Wedi'r cyfan, o ystyried y rheini hefyd, Martina Navratilova sydd wedi ennill y nifer mwyaf o deitlau ers i dennis gael ei broffesiynoli. A beth am y teitlau Camp Lawn cyn hynny? Os ystyriwn y rheini, yna Margaret Court sydd wedi ennill y nifer mwyaf o deitlau Camp Lawn. Felly, hyd yn oed os ydym o'r farn bod teitlau Camp Lawn yn arwydd o fawredd, nid yw'n glir ai Serena Williams sy'n cyrraedd y brig. Felly, mae'n ddadleuol a yw Fy Ymresymiad I yn pasio'r ail brawf.

Byddai angen i ni wneud mwy o ymchwil, neu ddatblygu mwy o ymresymiadau, i weld a yw'r naill ymresymiad neu'r llall yn ymresymiad da.

Tuedd i Gytuno

Mae profi ymresymiadau yn anodd wedyn. A byddai'n anodd hyd yn oed os gallem fod yn gwbl wrthrychol. Ond, i wneud pethau'n waeth, nid ydym yn gwbl wrthrychol.

Mae arbrofion seicolegol wedi'u hailadrodd wedi dangos bod bodau dynol yn dioddef o duedd i gytuno. Yr hyn y mae hynny'n golygu yw bod pobl – sef chi a mi – yn tueddu i fod yn ddiduedd o blaid ein credoau ein hunain.

Mae arbrofion seicolegol wedi'u hailadrodd wedi dangos bod bodau dynol yn dioddef o duedd i gytuno. Yr hyn y mae hynny'n golygu yw bod pobl – sef chi a mi – yn tueddu i fod yn ddiduedd o blaid ein credoau ein hunain. Rydyn yn dewis ymresymiadau a thystiolaeth heb yn wybod i chi sy'n cefnogi'r hyn rydym eisoes yn ei gredu ac yn anwybyddu neu'n diystyru ymresymiadau a thystiolaeth sy'n gwrth-ddweud yr hyn rydym yn ei gredu.

Felly, os credwch fod bywyd estron deallus yn bodoli yn rhywle arall yn y Bydysawd, gallech feddwl bod eich ymresymiadau chi'n derfynol, gan ddiystyru fy ngwrth ymresymiadau i. At hynny, gallech wneud hyn er eich bod yn ceisio, a hynny'n ddidwyll, i brofi fy ymresymiad yn wrthrychol.

Er enghraifft, meddyliwch eich bod yn dechrau drwy gynrychioli fy ymresymiad i fel a ganlyn:

  • Rhagosodiad: Nid ydym wedi dod i gysylltiad ag unrhyw fywyd estron deallus. 
  • Casgliad:​ There is no intelligent alien life elsewhere in the Universe.

Popeth yn iawn hyd yma: rwy'n credu bod hyn yn gynrychiolaeth deg o'm ymresymiad. A dychmygwch nawr eich bod yn rhoi cynnig didwyll ar ei phrofi. Wrth gymhwyso'r prawf cyntaf, gallech nodi efallai ein bod ni wedi dod i gysylltiad â bywyd estron deallus heb yn wybod i ni. Ac wrth gymhwyso'r ail brawf, gallech ddweud, hyd yn oed os nad ydym wedi dod i gysylltiad â bywyd estron deallus, y gallai fod pob math o resymau dros hynny. Felly, gallech ddiystyru'r ymresymiad fel un wael.

Felly, beth yw'r broblem? Wel, os gwnaethoch resymu yn y ffordd honno, byddech yn ffafrio'ch credoau chi eich hun heb yn wybod i chi. Nid yw nodi y gallai'r rhagosodiad fod yn anghywir yn ddigon i ddangos bod y rhagosodiad yn anghywir. Ac yn wir, pe byddwn wedi gofyn i chi cyn yr anghytundeb, efallai y byddech hyd yn oed wedi cytuno bod y rhagosodiad fwy na thebyg yn wir. Os byddwch yn honni bod yr ymresymiad yn methu'r prawf cyntaf, mae'n debygol eich bod wedi cael eich dylanwadu gan eich cred eich hun bod bywyd estron deallus yn bodoli.

Beth am yr ail brawf? Mae pethau ychydig yn fwy cymhleth yma. Er mwyn cymhwyso'r prawf yn iawn, mae angen i chi ddeall pam y dylai'r rhagosodiad neu'r rhagosodiadau gefnogi'r casgliad. Mae angen i chi weld yr ymresymiad o'm safbwynt i, er mwyn ymarfer empathi deallusol.

Efallai fy mod i'n credu'r canlynol: os yw deallusrwydd wedi esblygu ddwywaith, yna mae'n debygol o fod wedi esblygu nifer dirifedi o weithiau drwy'r Bydysawd; ac, os yw deallusrwydd wedi esblygu nifer dirifedi o weithiau drwy'r Bydysawd, yna bydd llawer o'r rhywogaethau hynny wedi estyn allan i chwilio am arwyddion eraill o ddeallusrwydd; ac, os gwnaeth estroniaid deallus estyn allan bryd hynny, ac o gofio ein bod ni wedi bod yn chwilio, byddem yn disgwyl y byddai rhyw fath o gysylltiad wedi'i wneud erbyn hyn. Y pwynt yma yw nad yw hyn yn cadarnhau unwaith ac am byth nad oes unrhyw estroniaid deallus. Y pwynt yw ei bod yn llinell resymol o feddwl, ac na ddylid ei diystyru heb ei hastudio'n gywir.

Nid oes strategaeth syml i oresgyn tuedd i gytuno. Ond mae ymarfer empathi deallusol yn gam pwysig. Ceisiwch ddeall pam y mae pobl o'r farn bod eu ymresymiadau nhw yn ymresymiadau da. Ac, yn anos byth, ceisiwch ddeall pam y gallai'r un bobl hynny feirniadu eich ymresymiadau chi fel ymresymiadau gwael. Deall hyn yw'r cam cyntaf i wneud cynnydd.

Amrywiadau a Chymhlethdodau

Ail reswm pam y mae profi ymresymiadau yn anodd yw bod y gwirionedd yn gymhleth ac yn amrywio fel rheol. Mwy na thebyg nad oes chwaraewr tennis gorau erioed gwrthrychol; ac ni allwn ddweud yn union pa mor debygol ydyw bod bywyd estron deallus yn bodoli.

Un o ganlyniadau hyn yw y gallwn weithiau ddod o hyd i ymresymiadau da gyda chasgliadau sy'n gwrth-ddweud yr ymresymiadau hynny. Er enghraifft, efallai bod eich ymresymiadau o blaid Federer ac estroniaid deallus yn rhai da, ond efallai bod fy ymresymiad innau o blaid Williams ac yn erbyn estroniaid deallus yn rhai da hefyd. Efallai fod hyn yn ddatrysiad siomedig i anghytundeb – am nad oes yr un ohonom yn hollol iawn nac yn hollol anghywir – ond dyma'r casgliad priodol yn aml iawn.

Er enghraifft, o ran tennis, gallem ddod i'r casgliad bod sawl ffactor sy'n cyfrannu at fod yn wych. Mae gosgeiddrwydd yn un, mae teitlau camp lawn yn un arall. Ond efallai y dylem gasglu nad oes unrhyw ffordd gywir yn wrthrychol o bwyso a mesur y ffactorau gwahanol hyn. Efallai mai Federer yw'r gorau o ran arddull, ond efallai Williams yw'r gorau o ran teitlau. (Ond mae hynny hyd yn oed yn rhy syml, oherwydd mae arddulliau gwahanol o chwarae a ffyrdd gwahanol o gyfrif teitlau, ac ati.)

Ac o ran estroniaid, gallem ddod i'r casgliad bod rhesymau da dros feddwl bod estroniaid deallus yn bodoli, ac nad oes estroniaid deallus yn bodoli. Nid oes unrhyw beth anarferol iawn am y math hwn o sefyllfa. Ond mae'n dangos na allwn fod yn sicr o'r ateb ar hyn o bryd. Rydych chi'n credu un peth, a hynny am reswm da; Rydw i'n credu rhywbeth arall, a hynny am reswm da. Mae un ohonom yn iawn ond nid oes yr un ohonom yn afresymol nac yn ddryslyd.

Pam y Mae Hyn yn Bwysig

Weithiau, a dim ond weithiau, bydd datrysiad clir i anghytundeb. Galwch i gof y trydydd anghytundeb ar ddechrau'r darn, ynghylch ai Wellington neu Auckland yw prifddinas Seland Newydd. Efallai mai dyma oedd fy rheswm dros feddwl mai Auckland yw'r brifddinas:

Fy Ymresymiad I

  • Rhagosodiad: Auckland yw'r ddinas enwocaf yn Seland Newydd.

  • Casgliad: Auckland yw prifddinas Seland Newydd.

Ac efallai mai dyma oedd eich rheswm chi dros feddwl mai Wellington yw'r brifddinas:

Eich Ymresymiad Chi

  • Rhagosodiad: Rwy'n cofio dysgu yn yr ysgol mai Wellington yw prifddinas Seland Newydd.

  • Casgliad: Wellington yw prifddinas Seland Newydd.

Yn wahanol i'r anghytundebau am dennis ac estroniaid, mae ffon fesur empirig wrthrychol yma, y gellir ei defnyddio i fesur y gwirionedd. Nid yw fy ymresymiad yn amlwg o wael: efallai mai Auckland yw'r ddinas enwocaf yn Seland Newydd ac, yn aml iawn, dinas enwocaf gwlad yw ei phrifddinas. Ond, wedi dweud hynny, rwy'n anghywir yn wrthrychol: Wellington yw prifddinas Seland Newydd.

Ond prin y caiff anghytundebau eu datrys mor hawdd, hyd yn oed pan fyddwch yn meddwl bod ateb gwrthrychol ar gael. Nid yw'r ffaith bod rhywun yn troi at y dystiolaeth ddiweddaraf yn golygu bod ei gasgliad yn wir. Hyd yn oed os mai chi sy'n troi at y dystiolaeth. Mae dehongli tystiolaeth yn anodd iawn – mae angen mwy na dim ond y sgiliau rwyf wedi eu trafod – ac mae'n bwysig bod yn agored i ddehongliadau eraill. Mae hyd yn oed y gwirionedd am 'yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddangos' yn amrywio.

Mae pobl yn anghytuno â phob math o bethau sy'n effeithio ar ein bywydau – chwaraeon, rheoleiddio busnes, iechyd cyhoeddus, bwyta cig, pwy ddylai arwain y wlad, ac ati – ac mae pobl yn defnyddio pob math o ymresymiadau, ac yn troi at amrywiaeth eang o dystiolaeth wrth roi eu rhesymau. Pan fyddwch chi a minnau'n anghytuno, byddai'r ddau ohonom yn debygol o feddwl mai 'fi sy'n iawn'. Gall hyn arwain at weiddi, dicter a chymdeithas wedi'i pholareiddio.

Nid yw meddwl yn feirniadol yn golygu dod o hyd i ffyrdd newydd o ddangos mai chi sy'n iawn. Mae'n ymwneud â bod yn agored i'r posibilrwydd mai chi sy'n anghywir.

Nid yw meddwl yn feirniadol yn golygu dod o hyd i ffyrdd newydd o ddangos mai chi sy'n iawn. Mae'n ymwneud â bod yn agored i'r posibilrwydd mai chi sy'n anghywir. Mae'n ymwneud â bod yn ymwybodol o'ch tuedd i gytuno, ceisio deall yr hyn y mae pobl eraill yn ei feddwl a chroesawu amrywiadau a chymhlethdodau. Mae'r holl sgiliau hyn yn anodd ac yn cymryd llawer o ymarfer. Ond mae'r ymarfer hwnnw yn talu ar ei ganfed. Gall roi darlun cyfoethocach, mwy realistig i ni o'r byd rydym yn byw ynddo.


Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn Saesneg yn wreiddiol a chafodd ei chyfieithu gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddarllen yr erthygl wreiddiol yma.

 

 


university ready - white back

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?