3 Crynodeb o Sesiwn 3
Mae'r sesiwn hon wedi rhoi trosolwg o brofiadau pobl ar ôl iddynt fynegi pryder ac wrth baratoi ar gyfer gwrandawiad. Mae wedi dangos bod llawer o waith yn gysylltiedig â hyn a bod elfennau ymarferol y mae angen eu hystyried os bydd yr achos yn symud ymlaen i wrandawiad a pha wybodaeth/cymorth sydd ei angen/eisiau ar bobl pan fyddant yn mynegi pryder am y tro cyntaf ac ar draws y broses Addasrwydd i Ymarfer.
Gweithgaredd: myfyrio
Meddyliwch am yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn y sesiwn hon a sut mae wedi newid eich gwybodaeth am brosesau Addasrwydd i Ymarfer.
Ar ôl cwblhau’r sesiwn hon, i ba raddau ydych chi’n cytuno â’r datganiad hwn: 'Mae fy ngwybodaeth am beth sy'n digwydd ar ôl mynegi pryder wedi gwella’
Sut byddwch chi'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i dysgu yn y sesiwn hon? Gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod.
Gallwch yn awr fynd i Sesiwn 4.