Adnoddau ychwanegol
Dyma rai adnoddau pellach sy'n amlinellu canfyddiadau ein prosiect.
Yn yr adnodd hwn, rydym yn clywed gan Berry Rose (SWE), Dinah Godfree (PSA), Emma Willis (NMC), Paul Cummins (GPhC), David Dolan (GMC), Jessie Cunnett (The Point of Care Foundation a chynghorydd cyhoeddus i'r tîm), gan ein tîm ni, yr Athro Rosalind Searle, a Richard West, aelod cyhoeddus o'r tîm sydd â phrofiad go iawn o gymryd rhan mewn achosion addasrwydd i ymarfer.
Dyma flog ar gyfer yr Awdurdod Safonau Proffesiynol: ‘More compassion is needed in complaints handling’.
Gallwch ddarllen mwy am ein dau ddigwyddiad lledaenu yn Llundain a Dundee.
Efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gweld y posteri canlynol:
- Pa mor hawdd yw darllen adnoddau gwe Addasrwydd i Ymarfer rheoleiddwyr gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol?
- Asesu defnyddioldeb a hygyrchedd gwefannau rheoleiddwyr ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno mynegi pryder
- Dadansoddiad cynnwys o wybodaeth rheoleiddiwr gofal cymdeithasol y DU ar gyfer tystion cyhoeddus mewn pennawd addasrwydd i ymarfer
- Dadansoddiad cynnwys o wybodaeth rheoleiddwyr proffesiynol ar gyfer tystion cyhoeddus mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer
- Pa mor hawdd yw rhoi gwybod am bryder am feddyg, nyrs neu rywun sy'n rhoi gofal i chi? A yw'n help cael taflenni Hawdd eu Darllen? Beth rydym wedi'i weld...
- Tyst i Niwed, Dal i Gyfrif: Arolwg o atgyfeirwyr cyhoeddus sydd wedi'u niweidio y daeth eu hachos i ben cyn gwrandawiad
- Cymorth gan gyflogwyr i dystion: Achosion rheoleiddio proffesiynol (addasrwydd i ymarfer)
- Pa mor hawdd yw darllen adnoddau gwe Addasrwydd i Ymarfer rheoleiddwyr?
Gwrandewch ar brofiadau rhai tystion.
Darllenwch ein dogfen briffio ymchwil.
Mae dau animeiddiad ar gyfer pobl sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Mae'r cyntaf ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth gofal cymdeithasol, sy'n egluro beth yw addasrwydd i ymarfer a beth y gallant ei wneud i fynegi pryder gyda rheoleiddiwr. Mae'r ail ar gyfer cofrestreion gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, yn yr un modd, gan egluro beth yw addasrwydd i ymarfer a pham ei bod yn bwysig i gofrestreion ei ddeall ynghyd â sut a pham i godi pryder gyda rheoleiddiwr.

Transcript
SIARADWR 1: Fel defnyddiwr gwasanaeth, rwyf eisiau gwybod sut i fynegi pryder am weithiwr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol a gofal. Sut mae dechrau arni? Pa mor anodd fydd hi? Pwy fydd yn ymchwilio i'm pryder?
SIARADWR 2: Gelwir y broses yn addasrwydd i ymarfer. Bydd rheoleiddiwr gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn ymchwilio i'ch pryder. Rhaid i weithwyr proffesiynol gofrestru gyda rheoleiddwyr i ymarfer eu proffesiwn. Mae’n ofyniad cyfreithiol.
SIARADWR 1: Faint o reoleiddwyr sydd?
SIARADWR 3: Mae pedwar rheoleiddiwr gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn y DU. Dyma nhw: Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, Social Work England, Gofal Cymdeithasol Cymru, a Chyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon.
SIARADWR 2: Mae naw rheoleiddiwr gofal iechyd hefyd. Gallwch gael gwybod pwy sy'n rheoleiddio'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar wefan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.
SIARADWR 1: Beth all rheoleiddwyr ymchwilio iddo?
SIARADWR 3: Mae llawer o resymau pam y bydd rheoleiddwyr yn ymchwilio i weithwyr proffesiynol, gan gynnwys camymddwyn, diffyg cymhwysedd, euogfarnau troseddol, a chyflyrau iechyd sy'n effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr gwasanaeth.
SIARADWR 2: Hefyd anonestrwydd, twyll, camddefnyddio ymddiriedaeth, trais a chamymddwyn rhywiol.
SIARADWR 3: Mae llawer mwy o enghreifftiau.
SIARADWR 1: A beth na all rheoleiddwyr ymchwilio iddo?
SIARADWR 3: Ni all rheoleiddwyr ddelio â chwynion am lefel y gwasanaeth y mae sefydliad yn ei ddarparu.
SIARADWR 2: Ni allant ymwneud â materion y dylai llys benderfynu arnynt, ac ni allant ddarparu cyngor cyfreithiol.
SIARADWR 3: Unwaith eto, mae llawer mwy o enghreifftiau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar eu gwefannau:
SIARADWR 1: Iawn. Felly, os ydw i eisiau mynegi pryder am weithiwr proffesiynol, ble ydw i'n dechrau?
SIARADWR 2: Gallwch ddilyn proses gwyno'r cyflogwr. Gallai hyn fod drwy eu gwefan neu linell ffôn.
SIARADWR 1: Beth os ydw i eisiau mynegi pryder wrth reoleiddiwr?
SIARADWR 3: Gallwch fynegi pryderon drwy ddefnyddio gwefan neu linell gymorth y rheoleiddiwr.
SIARADWR 2: Gallwch gael help i fynegi pryder gan weithiwr gofal cymdeithasol, gwasanaeth eiriolaeth, neu gyngor ar bopeth.
SIARADWR 1: A beth sy'n digwydd ar ôl i mi fynegi pryder?
SIARADWR 3: Byddant yn cadarnhau a oes modd cyfreithiol iddynt ymgymryd â'r pryder.
SIARADWR 2: Yna gall yr ymchwiliad gymryd amser, hyd yn oed blynyddoedd.
SIARADWR 3: Diben yr ymchwiliad yw penderfynu a oes digon o dystiolaeth i fwrw ymlaen. Os nad oes, mae'r broses yn dod i ben yn y fan honno.
SIARADWR 2: Os oes, y cam nesaf fyddai'r gwrandawiad addasrwydd i ymarfer i ymchwilio os yw'r gweithiwr proffesiynol dan sylw yn addas i ymarfer yn y dyfodol.
SIARADWR 3: Efallai y bydd angen i chi ddarparu datganiad tyst yn ysgrifenedig neu wyneb yn wyneb.
SIARADWR 2: Wyneb yn wyneb, bydd cyfreithiwr y gweithiwr proffesiynol yn eich holi am eich datganiad tyst, gan herio eich barn am yr hyn a ddigwyddodd.
SIARADWR 3: Mae'n gallu bod yn waith caled ac yn annifyr, ond mae'n hanfodol bod pobl yn codi pryderon i sicrhau diogelwch ac ansawdd gofal.
SIARADWR 2: Os caiff yr achos ei brofi, efallai y bydd yn rhaid cyfyngu ar ymarfer y gweithiwr proffesiynol neu bydd yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr yn gyfan gwbl, yn colli ei waith, gan ei atal rhag ymarfer eto.
SIARADWR 3: Mae mynegi pryderon fel hyn a rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn ffordd bwysig o atal yr un peth rhag digwydd eto i sicrhau bod pob defnyddiwr gofal yn gallu ymddiried yn eu darparwyr gofal.

Transcript
SIARADWR 1: Fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, rydw i wedi clywed am addasrwydd i ymarfer, ond rydw i eisiau gwybod sut mae'n berthnasol i mi.
SIARADWR 2: Mae addasrwydd i ymarfer yn cyfeirio at iechyd, cymeriad a chymhwysedd gweithiwr proffesiynol i ymarfer.
SIARADWR 3: Fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, byddwch yn aelod o un o'r rheoleiddwyr gofal cymdeithasol.
SIARADWR 2: Maent yn cadw cleifion yn ddiogel drwy sicrhau bod safonau proffesiynol yn cael eu cynnal a bod eu haelodau'n addas i ymarfer.
SIARADWR 3: Mae pedwar rheoleiddiwr statudol gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn y DU, sef - Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, Social Work England, Gofal Cymdeithasol Cymru, a Chyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon.
SIARADWR 2: Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol hefyd yn rheoleiddio 9 rheoleiddiwr gofal iechyd yn y DU.
SIARADWR 1: Beth all rheoleiddwyr ymchwilio iddo?
SIARADWR 3: Amrywiaeth o bryderon, o gamymddwyn i ddiffyg cymhwysedd, i euogfarnau troseddol, a chyflyrau iechyd a allai effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr.
SIARADWR 2: A llawer mwy.
SIARADWR 1: A beth na all rheoleiddwyr ymchwilio iddo?
SIARADWR 2: Bydd rheoleiddwyr yn dweud wrthych beth na allant ei reoleiddio ar eu gwefannau.
SIARADWR 3: Er enghraifft, ni all rheoleiddwyr ddelio â chwynion am lefel y gwasanaeth y mae sefydliad yn ei ddarparu.
SIARADWR 2: Ni allant ymwneud â materion y dylai llys benderfynu arnynt. A dydyn nhw ddim yn gallu darparu cyngor cyfreithiol.
SIARADWR 3: Mae llawer mwy o enghreifftiau ar eu gwefannau.
SIARADWR 1: Beth yw fy nghyfrifoldebau o ran addasrwydd i ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol?
SIARADWR 2: I ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, mae'n ofyniad cyfreithiol eich bod yn cofrestru gyda nhw. Er bod pob rheoleiddiwr yn wahanol, mae pob un yn mynnu bod gweithwyr proffesiynol yn hyrwyddo safonau proffesiynol ac yn rhoi gwybod am bryderon am weithwyr proffesiynol eraill neu am eich ymarfer eich hun.
SIARADWR 3: Gallai hyn gynnwys rhoi gwybod am niwed, camfanteisio, arferion amhriodol, anniogel neu wahaniaethol. Gall gynnwys rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd am eu hawl i gwyno a rhoi cymorth perthnasol iddynt.
SIARADWR 2: Yn ogystal â chydweithredu ag unrhyw ymchwiliadau i'ch addasrwydd i ymarfer eich hun.
SIARADWR 3: Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan eich rheoleiddiwr.
SIARADWR 1: Iawn. Sut ydw i, neu ddefnyddiwr gwasanaeth, yn mynegi pryder am eu gofal cymdeithasol?
SIARADWR 2: Gallwch wneud hyn eich hun neu gefnogi'r defnyddiwr gwasanaeth neu ei deulu i wneud hynny.
SIARADWR 3: Gallwch fynegi eich pryder drwy eich cyflogwr, a gwefan neu linell gymorth y rheoleiddiwr.
SIARADWR 1: Beth sy'n digwydd os byddaf yn mynegi pryder?
SIARADWR 3: Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal gan reoleiddiwr a all gymryd amser hir, blynyddoedd hyd yn oed.
SIARADWR 2: Os bydd yr ymchwiliad yn dod o hyd i ddigon o dystiolaeth i fwrw ymlaen, cynhelir gwrandawiad addasrwydd i ymarfer.
SIARADWR 3: Nod y gwrandawiad yw rhoi cyfle i'r rheoleiddiwr ganfod p’un ai a ddarparodd y corff proffesiynol safonau llawer is na’r rhai a ddisgwylir ganddo.
SIARADWR 2: Efallai y bydd angen i chi ddarparu datganiad tyst yn ysgrifenedig neu wyneb yn wyneb.
SIARADWR 3: Bydd cyfreithiwr neu gynrychiolydd undeb y gweithiwr proffesiynol yn gofyn i chi am eich datganiad tyst, gan herio eich barn am yr hyn a ddigwyddodd.
SIARADWR 2: Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth, gan gynnwys cofnodion gofal neu'r hyn y gwnaethoch chi ei arsylwi.
SIARADWR 3: Gall hyn fod yn waith caled a gall hyd yn oed beri gofid i ddefnyddwyr gwasanaeth a allai deimlo eu bod wedi cael eu niweidio. Ond mae'n hanfodol bod pobl yn codi pryderon i sicrhau diogelwch ac ansawdd gofal.
SIARADWR 2: Os caiff yr achos ei brofi, efallai y bydd yn rhaid cyfyngu ar ymarfer y gweithiwr proffesiynol, neu bydd yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr yn gyfan gwbl, yn colli ei waith, gan ei atal rhag ymarfer eto.
SIARADWR 3: Mae codi pryderon a rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn helpu i sicrhau nad yw'r gweithiwr proffesiynol yn gwneud yr un peth eto.
SIARADWR 2: Mae hyn yn sicrhau bod pob defnyddiwr gofal yn gallu ymddiried yn ei weithwyr gofal proffesiynol.