Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Wythnos 7: Gwneud newid yn eich addysgu

Cyflwyniad

Described image
Ffigur 1 Cynllunio a deall newidiadau yn gysylltiedig â dysgu ar-lein

Gobeithiwn y gallai’r cwrs hwn eich ysgogi i feddwl am syniadau ar gyfer newidiadau i’ch arferion gwaith. Neu efallai rydych yn dilyn y cwrs oherwydd eich bod eisoes yn profi newid! Mae’r wythnos hon yn canolbwyntio ar rai cysyniadau a all eich helpu i gynllunio neu ddeall newidiadau sy’n gysylltiedig â dysgu ar-lein. Bydd angen i chi ystyried anghenion eich dysgwyr o ran eu hymagwedd at dechnoleg, a sut mae’r dechnoleg a’r addysgeg yn cydberthyn. Dylai deall dadleuon ynglŷn â sut mae pobl yn defnyddio technoleg ddigidol a’i heffeithiau arnynt eich helpu i feddwl am sut gallwch gyfuno technoleg ac addysgeg yn effeithiol. Yna, byddwn yn canolbwyntio ar ddylunio gweithgareddau dysgu newydd neu ddiwygiedig, ac yn amlygu rhai awgrymiadau da i’w defnyddio wrth geisio cyflawni newid.

Myfyrdodau gan athrawon

Yr wythnos hon, rydym ni’n clywed gan Sarah S. ynglŷn â’r modd y gwnaeth newid yn ei haddysgu. Gallwch wylio'r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] hon yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hon yn Gymraeg.

Erbyn diwedd yr wythnos hon, fe ddylech allu:

  • esbonio cysyniad penderfyniaeth dechnolegol
  • defnyddio’r model Ymwelwyr a Phreswylwyr i asesu ymagwedd eich myfyrwyr at dechnoleg mewn dysgu
  • defnyddio technolegau i wneud newidiadau i addysgu mewn ffordd systematig a gwybodus.