Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cymryd risgiau cadarnhaol

Cyflwyniad

Mae risg yn rhan angenrheidiol a phwysig o fywyd i bob un ohonom ond mae angen i ni feddwl am y risg hon a'i rheoli. Yn yr adran hon, byddwch yn edrych ar risg mewn perthynas â phobl sy'n derbyn gofal. Mae gan y person sy'n derbyn gofal yr hawl i gymryd risgiau. Fodd bynnag, wrth reoli risg, mae'r potensial i ofalwyr fod yn ofalus gyda phwyslais ar fod yn orwarchodol o'r person sy'n derbyn gofal. Yn yr adran hon, byddwch yn archwilio sut y gall gofalwyr barhau i rymuso'r person maent yn ei gynorthwyo i gael bywyd mwy boddhaus – yn benodol drwy gymryd risgiau cadarnhaol.

Yma, rydym yn awgrymu y gall cymryd risgiau cadarnhaol ddod â buddiannau gwirioneddol wrth ystyried anghenion a dymuniadau'r person sy'n derbyn gofal, hawliau a chyfrifoldebau ei ofalwyr a'r amgylchiadau penodol. Caiff y person sy'n derbyn gofal ei rymuso i feithrin ei hyder, dysgu o'i brofiadau, datblygu sgiliau a galluoedd newydd, neu gynnal y rhai sydd ganddo eisoes, a gwneud defnydd llawn o'i gyfleoedd a'i botensial.

Mae tîm y cwrs yn cydnabod y gall fod heriau yn gysylltiedig â chymryd risgiau cadarnhaol. Efallai y bydd gweithwr gofal cyflogedig yn teimlo'n fwy cyfyngedig na gofalwr anffurfiol pan ddaw i gymryd risgiau cadarnhaol. Efallai y bydd ei gyflogwr yn cyfyngu ar yr hyn y byddai'n dymuno ei wneud. Ar yr un pryd, efallai na fydd y gofalwr anffurfiol yn ymwybodol o'r cyfleoedd a allai wella bywyd y person sy'n derbyn gofal os caiff ei annog i gymryd risgiau cadarnhaol.

Byddwch yn dechrau eich astudiaeth drwy edrych ar alluedd meddyliol. Yna, byddwch yn archwilio sut y gellir annog a meithrin annibyniaeth, yna byddwch yn dysgu sut y gall dysgwyr fabwysiadu'r arfer lleiaf cyfyngol (sy'n golygu gadael i'r person sy'n derbyn gofal wneud y pethau y gall eu gwneud o hyd) wrth ystyried risg i unigolion. Yn y pwnc diwethaf, buoch yn myfyrio ar beth sy'n digwydd pan na fydd gofalwr y person sy'n derbyn gofal ar gael, ac mae angen cynllun gofal brys.

Mae'r adran hon wedi'i rhannu'n bedwar pwnc a dylai gymryd tua hanner awr i chi astudio a chwblhau pob un o'r rhain. Mae'r pynciau fel a ganlyn:

  1. Caiff galluedd meddyliol ei egluro a byddwch yn dysgu am sut y caiff galluedd ei asesu a'r rôl y gall gofalwyr ei chael wrth ddelio â galluedd.
  2. Mae a wnelo hyrwyddo annibyniaeth â helpu pobl i gyflawni eu potensial llawn a gallu gwneud cymaint â phosibl drostynt eu hunain.
  3. Mae a wnelo arfer lleiaf cyfyngol â ffyrdd o helpu pobl i fwynhau gweithgareddau annibyniaeth a gweithgareddau sy'n gwella bywyd yn y ffordd fwyaf diogel.
  4. Caiff cynlluniau gofal brys eu trafod mewn perthynas â pham mae eu hangen a'r math o wybodaeth hanfodol sydd ei hangen.