Beth amdana i? - Cwrs datblygu personol i ofalwyr yng Nghymru
Cyflwyniad
Croeso i Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.
Mae a wnelo hunanfyfyrio â meddwl amdanoch chi'ch hun er mwyn meithrin mwy o hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Boed yn ymwybodol neu'n anymwybodol, mae'n ymwneud â'n meddyliau, syniadau, profiad a gwybodaeth. Gallai'r broses fyfyrio fod yn bleserus neu'n anghysurus, neu'n gymysgedd o'r ddau.
Mae myfyrio yn ffordd o weithio ar yr hyn rydym yn ei wybod eisoes er mwyn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth newydd. Drwy wneud hyn, gall ein helpu i gydnabod a gwerthfawrogi sgiliau a galluoedd sydd gennym ond a anwybyddir yn aml. Gallwn fyfyrio ar unrhyw adeg yn ein bywydau er mwyn ein helpu i ystyried ein teimladau am ystod eang o brofiadau. Gall ein helpu i adolygu ein penderfyniadau a'n cymhelliant ac, am y rheswm hwnnw, fe'i defnyddir wrth ddysgu ac mewn gweithleoedd o ran datblygiad personol a chynllunio gyrfa.
Er y gall myfyrio fod yn anghyfforddus gall hefyd fod yn rhyddhaol ac yn rymusol. Drwy feithrin gwell dealltwriaeth ohonom ni'n hunain a'n sefyllfa gallwn symud ymlaen.
Mae profiadau amrywiol gofalwyr wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r cwrs hwn. Mae rhai mewn sefyllfa lle mae eu rôl ofalu yn newid. Yn achos eraill, mae eu rôl yn aros yr un peth, ond maent yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi.
Dyma James, gofalw sydd hefyd yn gweithio gyda gwasanaeth gofalwyr lleol yng Nghymru, yn crynhoi'r sgiliau a'r rhinweddau y mae wedi'u gweld mewn gofalwyr:
Transcript
Daw gofalwyr o bob cefndir a bydd rhai wedi bod yn gofalu ers yn ifanc tra gall eraill fod wedi dod yn ofalwr yn hwyrach mewn bywyd. Mae llawer o bobl yn dod â sgiliau sydd ganddynt eisoes i faes gofalu, ond gall bod yn ofalwr ddatblygu ac amlygu sgiliau a rhinweddau na chânt eu hadnabod yn aml. Yn aml, mae gofalwyr yn hynod drefnus, dibynadwy ac yn dda iawn am ymdopi dan bwysau. Yn bur aml, gallant adnabod emosiynau pobl eraill, dim ond o edrych arnynt.
Nod y cwrs hwn yw helpu gofalwyr i fyfyrio ar eu sgiliau a'u cryfderau, eu nodau a sut y gallant eu cyflawni.