Cyflwyniad
Deilliannau dysgu
Drwy weithio drwy Beth amdana i? byddwch yn cyflawni'r canlynol:
- gwell dealltwriaeth o'ch profiadau fel gofalwr a hefyd yn eich rolau ehangach
- dealltwriaeth o'r sgiliau amrywiol rydych wedi'u datblygu fel gofalwr ac yn eich rolau ehangach a sut y gellir eu trosglwyddo i sefyllfaoedd eraill
- gwerthfawrogiad o rinweddau personol a ddatblygwyd drwy eich rôl ofalu
- cyfle i feddwl am eich nodau a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol
- syniad o sut y gallech weithio tuag at y nodau hynny a ble y gallech gael help a chefnogaeth
- y gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth (TG) er mwyn cyflawni gweithgareddau myfyriol o ran ysgrifennu a chyfathrebu
- y gallu i ddefnyddio'r we er mwyn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol
- y gallu i archwilio a defnyddio ffyrdd newydd o fynegi syniadau.
Gobeithio y bydd y cwrs hwn yn eich helpu i fyfyrio ar brofiadau sy'n bwysig i chi ac y bydd yn eich helpu i wneud dewisiadau neu benderfyniadau yn y dyfodol.