Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Defnyddio'r cwrs

Figure _unit1.4.1 Ffigur 2

Gallwch ddefnyddio'r cwrs hwn mewn sawl ffordd. Er enghraifft, gallwch gyflawni'r gweithgareddau hyn ar eich pen eich hun neu gyda mentor, neu mewn grŵp gyda hwylusydd. Os ydych yn gweithio mewn grŵp wyneb yn wyneb, er enghraifft, gallech weithio ar un sesiwn ar y tro dros nifer o wythnosau. Gallwch hefyd rannu eich sylwadau a'ch syniadau ag eraill ar-lein, drwy Facebook er enghraifft.

Os byddwch, ar unrhyw adeg, yn teimlo bod y cwrs wedi esgor ar emosiynau anodd yna gallwch ymweld â Carers.org [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ddod o hyd i'ch gwasanaeth cymorth lleol agosaf neu siarad â rhywun ar-lein.

Box _unit1.4.1

Datganiad am gyfrinachedd

Pan fydd pobl yn myfyrio gyda'i gilydd, gall hyn ei gwneud yn haws i drafod pethau a gallwch gael syniadau oddi wrth eich gilydd. Eto i gyd, mae angen i aelodau'r grŵp ymddiried yn ei gilydd ac ymrwymo i barchu syniadau, credoau a phrofiadau'r naill a'r llall. Rhaid iddynt gytuno i wneud hyn a hefyd beidio â thrafod unrhyw beth a ddywedir gan y grŵp y tu allan i'r grŵp. Nid oes byth angen i aelod drafod unrhyw beth nad yw am siarad amdano. Mae pawb yn dewis yr hyn maent am ei gyfrannu.

Os ydych yn dilyn y cwrs hwn mewn grŵp, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, treuliwch ychydig amser yn cytuno ar y rheolau a ddilynir gennych er mwyn parchu eich gilydd a sicrhau cyfrinachedd.