Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Yr hyn rwyf wedi'i ddysgu o brofiad blaenorol

Yn y gweithgaredd nesaf, hoffem i chi feddwl am eich profiadau blaenorol a cheisio nodi beth rydych wedi'i ddysgu ohonynt.

Activity _unit3.4.1 Gweithgaredd 2.3 Dysgu o brofiad

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y gweithgaredd hwn.

Edrychwch ar eich llinell amser eich hun eto a meddyliwch am yr hyn rydych wedi'i ddysgu o'ch profiad. Wrth edrych ar y pethau da a'r pethau drwg, a yw'n eich helpu i gofio sut roeddech yn teimlo ar bob adeg? Beth a ddysgoch o bob sefyllfa? Efallai y gwnaethoch ddysgu mwy am eich rhinweddau unigol a'r math o waith sy'n gweddu i chi: rhinweddau fel 'gweithio'n galed', 'bod yn addfwyn' neu'n 'wydn', efallai? Neu efallai y gwnaethoch ddarganfod bod angen i chi newid cyfeiriad?

Bydd profiad pawb yn wahanol. Nid oes ateb cywir nac anghywir.

Gallwn weld bod dysgu yn digwydd yn barhaus drwy gydol ein bywydau, drwy'r da a'r drwg.

Ychwanegwch eich barn ar hyn at eich llinell amser mewn lliw gwahanol neu defnyddiwch daflen gweithgaredd 2.3 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

NEU

Ewch i Weithgaredd 2.3 yn eich Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau eich gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio mewn grŵp, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, efallai y byddwch am rannu hyn.