Ffactorau a all eich helpu neu eich rhwystro
Trwy eu clipiau fideo a sain a'u taflenni gwaith, rydych wedi clywed Claire, Christine, Suzanne, James ac Alana yn siarad am y ffaith y bu'n anodd iddynt wneud yr hyn roeddent am ei wneud oherwydd rhai o'r anawsterau a wynebwyd ganddynt. Gwnaethant hefyd siarad am y cymorth a'r gefnogaeth a gawsant; er enghraifft, dod o hyd i swydd, gallu cwblhau cymhwyster neu fynd ar brofiad gwaith.
Myfyrio a thrafod
- A allwch gofio unrhyw beth yn benodol a wnaeth helpu'r unigolion hyn i gyflawni eu nodau?
- A allwch feddwl am unrhyw anawsterau y bu'n rhaid iddynt eu goresgyn?
Trafodwch hyn yn eich grŵp neu gwnewch nodiadau os ydych yn gweithio'n unigol.
Gan feddwl am eich bywyd nawr, beth allai eich helpu i gyflawni eich nodau? Pa bethau a allai ei wneud yn anodd?
Hefyd, gall fod yn ddefnyddiol ystyried sut y gwnaethoch benderfyniadau a dewisiadau yn y gorffennol, neu sut y gwnaethoch ymdopi mewn sefyllfaoedd anodd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych wedi cymryd rhai 'camau gweigion' neu nad yw pethau wedi mynd gystal ag y byddech wedi gobeithio.
Sut ydych chi'n gwneud penderfyniadau a dewisiadau? Er enghraifft, a ydych yn ymchwilio ar y we, yn siarad â chynghorydd, ffrind neu gydweithiwr, neu'n cysylltu â cholegau lleol neu sefydliadau hyfforddi? Neu a ydych yn penderfynu'n gyflym ar ôl gweld neu glywed rhywbeth? Efallai fod eich llinell amser wedi eich helpu i weld rhai adegau lle, ar ôl myfyrio arnynt, y gallech fod wedi dewis yn wahanol o fod yn fwy gwybodus.
Edrychwch ar yr hyn y mae Alana wedi'i nodi'n ffactorau a all ei helpu i gyflawni ei nod a goresgyn anawsterau posibl.
Fy nodau | Ffactorau a wnaiff fy helpu i'w cyflawni | Ffactorau a allai ei gwneud yn anodd i mi |
|
|
|
A nawr edrychwch ar yr hyn y mae Christine wedi'i nodi'n ffactorau cadarnhaol ac anawsterau posibl.
Fy nodau | Ffactorau a wnaiff fy helpu i'w cyflawni | Ffactorau a allai ei gwneud yn anodd i mi |
|
|
|
Activity _unit5.3.1 Gweithgaredd 4.3 Ystyried fy nodau:ffactorau a all fy helpu neu fy rhwystro
Defnyddiwch daflen Gweithgaredd 4.3 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , gan restru eich nodau a'r ffactorau a all eich helpu neu eich rhwystro i'w cyflawni
NEU
Ewch i Weithgaredd 4.3 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.
Bydd angen y nodiadau a wnaethoch ar gyfer Gweithgaredd 4.2 ynglŷn â'ch nodau. Ysgrifennwch y rhain yn y blwch cyntaf; yna rhestrwch y ffactorau a wnaiff eich helpu a'r rhai a allai ei gwneud yn anodd i chi gyflawni eich nodau. Efallai mai eich nod yw dechrau gyrfa newydd, dilyn cwrs astudio, dysgu sgil newydd neu wella eich sefyllfa - beth bynnag sy'n teimlo'n iawn i chi ar hyn o bryd.
Efallai y bydd rhai o'r ffactorau a allai eich helpu i gyflawni eich nod, neu'r rhai a allai beri anawsterau, yn debyg i'r rhai a ddisgrifiwyd gan Christine ac Alana yn eu tablau. Er enghraifft, mae Christine ac Alana yn nodi bod arian yn anhawster a bod pendantrwydd yn ffactor cadarnhaol.