Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Beth yw cyfathrebu?

Activity _unit2.2.1 Gweithgaredd 1

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Edrychwch ar y delweddau hyn. Beth sydd gan yr holl bethau hyn yn gyffredin?

image image image image
Described image
Figure _unit2.2.1 (a) Aderyn yn canu
Described image
Figure _unit2.2.2 (b) Ambiwlans gyda goleuadau'n fflachio a seiren
Described image
Figure _unit2.2.3 (c) Ffôn symudol sy'n derbyn neges destun
Described image
Figure _unit2.2.4 (ch) Cath yn troelli o amgylch traed ei pherchennog ac yn canu grwndi'n uchel
Described image
Figure _unit2.2.5 (d) Person yn gafael yn llaw rhywun arall
Described image
Figure _unit2.2.6 (dd) Babi'n crïo
Described image
Figure _unit2.2.7 (e) Ffôn yn canu a pherson yn ateb
Described image
Figure _unit2.2.8 (f) Teledu gyda'r newyddion yn dod ymlaen

Ffigur 1 Beth sydd ganddynt yn gyffredin?

Edrychwch eto, a nodwch beth mae pob un ohonynt yn ei gyfathrebu yn eich barn chi.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

  • a.Aderyn yn canu – gallai fod yn ceisio amddiffyn ei diriogaeth neu ddenu cymar.
  • b.Ambiwlans gyda goleuadau'n fflachio a seiren – allan o'r ffordd, rwyf ar frys.
  • c.Ffôn sy'n derbyn neges destun – mae rhywun am ofyn neu ddweud rhywbeth wrth rywun arall. something.
  • d.Cath yn troelli o amgylch traed ei pherchennog ac yn canu grwndi'n uchel – mae hyn fel arfer yn golygu ei bod eisiau bwyd!
  • e.Person yn gafael yn llaw rhywun arall – cynnig cysur neu garedigrwydd.
  • f.Babi'n crïo – ei unig ffordd o ddweud wrthych fod rhywbeth yn bod.
  • g.Ffôn yn canu a pherson yn ateb – mae rhywun am ofyn neu ddweud rhywbeth wrth rywun arall.
  • h.Radio/teledu gyda'r newyddion yn dod ymlaen – gwybodaeth am beth sy'n digwydd yn y byd.

Mae pob un ohonynt yn cyfathrebu mewn rhyw ffordd – mae gan bob un ohonynt rywbeth i'w ddweud wrthych.

Rydym yn cyfathrebu drwy'r adeg, weithiau heb sylweddoli hynny. Weithiau, gall rhywbeth mor syml â chodi aeliau, gwenu neu wgu gyfleu neges a gaiff ei deall yn glir rhwng un person â'r llall. Mewn gwirionedd, dull o gyfathrebu yw popeth a wnawn. Gallwn ddangos i bobl sut hwyliau sydd arnom dim ond yn y ffordd rydym yn cerdded i lawr y stryd neu'r ffordd rydym yn ateb y ffôn. Mae'r gweithgaredd nesaf yn gofyn i chi feddwl am y ffyrdd y mae pobl yn cyfathrebu.

Activity _unit2.2.2 Gweithgaredd 2

Timing: Dylech neilltuo tua 5 munud

Fel rydych newydd ei weld, mae sawl ffordd o gyfathrebu. Ysgrifennwch o leiaf ddeg ohonynt yma.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Dyma rai ohonynt:

  • blog
  • iaith y corff
  • e-bost
  • cyswllt llygad
  • Facebook
  • llythyrau
  • ystumiau corfforol
  • lluniau
  • podlediad
  • radio
  • iaith arwyddion
  • Skype
  • lleferydd
  • ffôn
  • neges destun
  • cyffyrddiad
  • teledu
  • Twitter
  • ysgogiad llais

a llawer mwy.