Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Sut mae pethau'n mynd o chwith?

Mae sawl ffordd y gall pethau fynd o chwith wrth gyfathrebu'n llafar. Rhestrir rhai ohonynt isod.

  • Efallai nad yw'r person yn deall beth rydych yn ei ddweud.
  • Gall gamddehongli beth rydych wedi ei ddweud.
  • Nid ydynt yn clywed yn gywir.
  • Efallai eich bod wedi rhoi gormod o gyfarwyddiadau ar unwaith.
  • Rydych yn dewis yr amser neu'r lle anghywir i gael sgwrs anodd.
  • Efallai bod y wybodaeth yn ddryslyd.
  • Efallai nad yw'r person arall yn siarad yr un iaith â chi.

Ydych chi erioed wedi gorfod delio â rhai o'r sefyllfaoedd a ddangosir yn Ffigur 2?

Table _unit2.2.2
Described image
Figure _unit2.2.9 (a) Pawb yn siarad ar yr un pryd
Described image
Figure _unit2.2.10 (b) Ceisio rhesymu â rhywun nad yw am wrando arnoch
Described image
Figure _unit2.2.11 (c) Siarad â rhywun sydd â'i feddwl yn rhywle arall (e.e. yn anfon neges destun neu'n chwarae gyda rhywbeth)
Described image
Figure _unit2.2.12 (ch) Rhywun na fydd yn troi i edrych arnoch pan fyddwch yn siarad
Described image
Figure _unit2.2.13 (d) Ceisio deall rhywun na all gyfathrebu'n llafar
Described image
Figure _unit2.2.14 (dd) Pobl yn rholio eu llygaid neu'n ochneidio/twtian pan fyddwch yn gofyn iddynt am rywbeth, er eu bod yn gwneud beth rydych yn ei ofyn

Ffigur 2 Sut y gall cyfathrebu llafar fynd o chwith

Rydym yn rhoi negeseuon nad ydym yn ymwybodol ohonynt ag iaith ein corff, yn enwedig os mai dealltwriaeth gyfyngedig sydd gan y person arall o'r iaith sy'n cael ei siarad. Felly, bydd angen i chi gymryd gofal ychwanegol i ddewis yr amser a'r lle cywir, a rhoi amser i bobl brosesu'r wybodaeth. Os byddwch yn dal i ailadrodd pethau am nad yw rhywun sydd â dealltwriaeth gyfyngedig wedi ymateb yn gyflym, yn aml bydd yn rhaid i'r broses ailddechrau.

Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn gweld sut y gall dryswch godi os nad yw ein geiriau bob amser yn cyd-fynd â'r negeseuon eraill rydym yn eu rhoi ag iaith ein corff a mynegiannau'r wyneb.

Activity _unit2.2.5 Gweithgaredd 5

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Darllenwch yr astudiaeth achos ac yna atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.

Case study _unit2.2.1 Astudiaeth achos: Rosie

Mae Rosie yn byw mewn uned byw â chymorth gyda phum person ag anableddau dysgu. Cânt gymorth gan dîm o staff. Gall Rosie gyfathrebu ei hanghenion a'i hemosiynau yn glir ar lafar, ond mae rhai aelodau o staff yn ystyried ei bod yn heriol iawn ac ac nid ydynt bob amser yn hapus i weithio gyda hi.

Ar lafar, mae'r staff bob amser yn ddymunol gyda Rosie, gan ddweud y pethau cywir. Ond mae eu dulliau o gyfathrebu dilafar yn rhoi neges wahanol. Er enghraifft, mae Rosie yn gofyn am ei thrydedd ddiod o'r bore. Mae Pam, sy'n ceisio gwylio rhaglen ar y teledu, yn dweud 'Iawn, dim problem Rosie, ar ei ffordd' ond wrth ddweud hynny, mae'n ochneidio ac yn rholio ei llygaid. Mae'n dod â the Rosie ac yn gwenu, ond wrth ei roi i lawr, mae'n dweud 'Beth ddigwyddodd i dy forwyn ddiwethaf di?' ac yn cerdded i ffwrdd, heb aros am sylw pellach gan Rosie.

  • Os mai chi fyddai Rosie, sut fyddech chi'n teimlo am y digwyddiad hwn, a pham?
  • Os byddech yn aelod arall o'r tîm, beth fyddech chi'n ei ddweud wrth Pam?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae'n debygol bod Rosie'n teimlo nad yw Pam yn ei hoffi rhyw lawer am ei bod wedi gweld ystumiau wyneb Pam ac wedi ei chlywed yn dweud pethau dan ei gwynt. Nid yw'n deall pam y mae Pam yn dal i wenu ac yn dod â'r hyn y gwnaeth ofyn amdano.

Efallai y gallai aelod arall o'r tîm siarad â Pam achos nid yw'n trin Rosie yn deg. Os bydd Pam yn meddwl bod Rosie yn gofyn gormod, mae angen i Pam drafod hyn gyda gweddill y tîm a dylent gytuno ar strategaethau ymdopi ar gyfer yr aelodau hynny o staff sy'n meddwl bod Rosie yn anodd ei thrin.

Mae'n llawer rhy hawdd meithrin arferion drwg wrth gyfathrebu, fel y bydd y gweithgaredd nesaf yn ei ddangos i chi.

Activity _unit2.2.6 Gweithgaredd 6

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Edrychwch ar y fideo canlynol a meddyliwch am y ffordd y mae'r aelodau hyn o staff yn ymddwyn, a sut y gellid gwneud hynny'n wahanol.

Download this video clip.Video player: Siwgr, cariad?
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Video _unit2.2.1 Siwgr, cariad?
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
  • Ysgrifennwch dri pheth y byddech yn ei wneud yn wahanol.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae'r staff yn cael sgwrs dros y person sy'n derbyn gofal yn hytrach na'i gynnwys yn y sgwrs. Nid ydynt yn canolbwyntio ar eu tasg, sef ei helpu gyda'i frecwast. Dylent fod wedi canolbwyntio ar sicrhau ei fod yn gallu cyrraedd ei ddiod. Wrth ei helpu i fwyta, dylai'r staff ofyn sut mae'n well ganddo gael ei fwyd ac aros am ei ymateb, a sicrhau ei fod yn hapus gyda'r ffordd y mae'n cael ei fwyd.

Efallai y byddwch am gymryd amser y tu allan i'r cwrs hwn i ystyried adegau pan gafodd yr hyn roeddech yn ei gyfathrebu ei gam-ddeall, a pha gamau gallech fod wedi'u cymryd i atal hyn.