Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 A oes angen i ni fod yn wrandawyr gweithredol bob amser?

Described image
Figure _unit2.4.1 Ffigur 3 Pedair lefel o wrando

Mae'r gweithgaredd nesaf yn ymwneud â'r ffordd rydym yn gwrando mewn sefyllfaoedd gwahanol, a gallwch weld sut mae'r 'lefelau' gwahanol o wrando yn gweithio i ni bob tro.

Activity _unit2.4.2 Gweithgaredd 9

Timing: Dylech neilltuo tua 15 munud

Darllenwch yr erthygl o BeWellTeachWell [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon a Robert Latham, 2016) ar y lefelau gwahanol o wrando, ac ystyriwch ym mha sefyllfaoedd y gallech ddefnyddio pob lefel.

Gadael sylw

Mae lle i bob math o wrando yn ein bywydau.

Rydym yn defnyddio gwrando cosmetig wrth ddifyrru ein hunain, sgwrsio yn y safle bws neu aros mewn ciw. Mae ar gyfer adegau pan nad oes cymaint o ots am beth mae'r person arall yn ei ddweud ac nid oes angen i chi weithredu ar beth mae'n ei ddweud wrthych.

Gwrando sgyrsiol yw pan fyddwch yn gwybod bod yn rhaid i chi ymateb i'r person arall a meddwl rhywfaint am beth mae'n ei ddweud. Efallai eich bod yn sgwrsio â chydweithiwr yn y gwaith neu â ffrindiau a theulu am beth y byddwch yn ei wylio ar y teledu neu ble rydych yn mynd dros y penwythnos.

Efallai eich bod wedi defnyddio gwrando gweithredol mewn trafodaethau am ofal y bobl rydych yn eu helpu. Mae'r gwrandäwr yn defnyddio ystumiau neu fynegiannau'r wyneb, gan ofyn cwestiynau weithiau neu ailadrodd beth ddywedodd y siaradwr er mwyn egluro. Yn aml, mae'r gwrandäwr yn meddwl am ba ymateb sy'n ofynnol.

Mae gwrando astud ar gyfer sgyrsiau y mae angen eu cofnodi neu sy'n bwysig iawn; er enghraifft, os yw person yn siarad am sefyllfa ddifrïol yn ei fywyd. Ar adegau fel hyn, byddwch yn talu sylw mor fanwl fel na fyddwch yn meddwl am unrhyw beth arall heblaw yr hyn mae'r person yn ei ddweud wrthych.