Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Dementia

Efallai eich bod yn gofalu am berson neu bobl ag un o'r amryw ffurfiau ar ddementia, ac mae gwefan Cymdeithas Alzheimer's [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn cynnwys cyngor a chymorth defnyddiol iawn, ond isod ceir erthygl o Gymdeithas Alzheimer America sy'n cynnwys gwybodaeth glir iawn am gyfathrebu â phobl sydd â dementia. Byddwch yn dysgu llawer am anhwylderau gwybyddol fel dementia yn Adran 2, Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Activity _unit2.5.1 Gweithgaredd 10

Timing: Dylech neilltuo tua 20 munud

Darllenwch Communication and Alzheimer's, erthygl gan y Gymdeithas Alzheimer. Yna, atebwch y cwestiynau isod.

  • Pa ymateb a awgrymir os na all y person rydych yn ei helpu feddwl am air?
  • Pam ddylech chi ddal ati i geisio cyfathrebu, hyd yn oed pan na fydd y person yn ymateb?
  • Sut y gall gwella eich sgiliau gwrando eich helpu i gyfathrebu â rhywun sydd â dementia?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Os bydd y person yn defnyddio'r gair anghywir neu os na all gofio gair, dylech ei annog i 'roi cynnig arni' ond gofalwch nad ydych yn achosi rhwystredigaeth ddiangen. Er ei bod yn bosibl na fydd person â dementia bob amser yn ymateb i'ch ymdrechion i gyfathrebu, bydd angen iddo gael ysgogiad cyfathrebu parhaus o hyd. Bydd adegau pan fydd yn ymateb, felly mae'n bwysig dal ati, er y dylech ddewis eich geiriau'n ofalus.

Drwy wella eich sgiliau gwrando, byddwch yn fwy tebygol o sylwi ar newidiadau yng ngallu person i gyfathrebu. Yn ystod camau cynnar dementia, efallai na fydd yn ymddangos ei bod mor anodd â hynny i gyfathrebu â'r person, ond wrth i'r cyflwr waethygu, efallai y byddwch yn sylwi ar newidiadau eraill fel defnyddio geiriau cyfarwydd drosodd a throsodd neu greu geiriau newydd ar gyfer gwrthrychau cyfarwydd. Po agosaf y byddwch yn gwrando, y mwyaf tebygol y byddwch yn sylwi ar yr arwyddion hyn a gallu ei helpu i barhau i gyfathrebu gyhyd â phosibl.