Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Cyfathrebu'n briodol yn y lle priodol

Wrth ystyried y broses o gadw cofnodion a llunio adroddiadau, un o'r pethau pwysig i'w cofio yw bod ffordd gywir o gofnodi a lle cywir i gofnodi.

Activity _unit2.6.1 Gweithgaredd 11

Timing: Dylech neilltuo tua 5 munud

Darllenwch y ddwy neges wahanol hyn a adawyd ar gyfer y sifft nesaf mewn uned byw â chymorth.

  1. Neges yn y llyfr cyfathrebu: 'John, dwi wedi glanhau'r gegin i ti ETO’.

  2. Nodyn a ysgrifennwyd ar ddarn o bapur ac a adawyd ar y bwrdd: ‘Mae angen mynd â Brenda at y meddyg cyn gynted â phosibl’.

A oedd unrhyw beth amhriodol am y negeseuon hyn? Os felly, beth fyddech chi'n ei wneud yn lle hynny?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Nid mewn llyfr cyfathrebu y mae lle y neges am lanhau y gegin. Mae'n rhan o sgwrs am rolau a chyfrifoldebau a ddylai ddigwydd rhwng y bobl dan sylw neu gyda rheolwr llinell os yn briodol.

Mae'r neges am y meddyg yn bwysig iawn a dylai fod mewn llyfr cyfathrebu neu ar hysbysfwrdd. Dylid ei chyfathrebu ar lafar hefyd wrth y person nesaf ar sifft. Gellir colli nodiadau a gaiff eu hysgrifennu ar ddarnau o bapur yn hawdd, yn enwedig os cânt eu gadael mewn lle sy'n cael ei ddefnyddio'n barhaus.

Os ydych yn gweithio fel gofalwr cyflogedig, mae pob cofnod a gedwir gennych yn ddogfennau cyfreithiol a gellir eu defnyddio fel tystiolaeth mewn llys. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw beth y byddwch yn ei ysgrifennu gael ei ddyddio a'i lofnodi gennych chi, heb adael lle i ychwanegu unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Mae'n bwysig bod pob cofnod yn ffeithiol. Dylech ond nodi beth rydych yn ei wybod neu beth rydych wedi'i weld, nid eich barn am pam y digwyddodd neu sut roedd y person yn teimlo, oni fydd yn gallu dweud y wybodaeth hon wrthych.

Er enghraifft, ni ddylech gofnodi datganiad fel 'Cafodd Dad noson dda' oni fydd yn dweud wrthoch eich hun ei fod wedi cael noson dda. Yn hytrach, gallech ysgrifennu rhywbeth fel 'Roedd yn ymddangos bod Dad yn cysgu bob tro yr edrychais’.

Activity _unit2.6.2 Gweithgaredd 12

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Edrychwch ar y datganiadau hyn ac ail-ysgrifennwch nhw mewn ffordd sy'n ffeithiol ac yn gywir, heb ddefnyddio unrhyw iaith y gellir ei dehongli'n wahanol gan ddarllenwyr gwahanol.

  1. Roeddwn yn tacluso ystafell wely Mr Brown pan gynhyrfodd a'm gwthio allan drwy'r drws.
  2. Mwynhaodd Joan ei chinio'n fawr ac roedd wrth ei bodd yn ymweld â'r ganolfan arddio.
  3. Mae Eddie'n flin fel cacwn heddiw. Mae wedi bod fel hyn ers amser brecwast.
  4. Rwy'n meddwl fod Mam yn teimlo'n isel. Mae ei hwyliau'n isel iawn.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

  1. A oedd Mr Brown eisiau i chi fod yn ei ystafell wely? Efallai y dylech fod wedi gofyn caniatâd ganddo i ddechrau. Sut y byddech chi'n cofnodi hynny? Mae'r datganiad hwn yn dweud mwy am y ffordd y mae'r gofalwr wedi ymddwyn, sy'n amharchu preifatrwydd Mr Brown. Efallai y gallech ddweud 'Curais ar ddrws Mr Brown ac ni wnaeth ateb, felly es i mewn i weld a oedd yn iawn. Ni wnaeth siarad â mi felly dechreuais dynnu rhai o'r dillad gwely oddi arno. Dywedodd mewn llais uchel "Cer allan a gad lonydd i mi". Yna gafaelodd yn fy mraich a'm gwthio tuag at y drws’.
  2. A wnaeth Joan ddweud wrthych ei bod wedi mwynhau ei chinio? Allwch chi ddweud yn onest eich bod yn gwybod hynny? Efallai y byddai'n fwy cywir i chi ysgrifennu: 'Gorffennodd Joan ei chinio ac ni wnaeth wrthod dim ohono. Yn y prynhawn aeth pob un ohonom i'r ganolfan arddio leol’.
  3. Pam y mae Eddie yn 'flin fel cacwn' ers amser brecwast? A yw wedi dweud wrth unrhyw un? Efallai ei fod mewn poen? Efallai ei fod am gael rhywbeth gwahanol i frecwast ond na chafodd gynnig hynny? Gallech ysgrifennu 'Mae'n ymddangos bod Eddie wedi cynhyrfu heddiw. Gwrthododd ei frecwast ac roedd yn cerdded yn ôl ac ymlaen yn y gegin am 20 munud ac yn gwasgu ei ddwylo' ac yna ceisiwch ganfod beth yw'r broblem.
  4. Beth mae Mam wedi'i ddweud i wneud i chi feddwl ei bod yn isel? Beth yn union yw 'hwyliau isel'? A fyddai unrhyw un a fyddai'n ei ddarllen yn gwybod ei ystyr? Gallech ddweud rhywbeth fel 'Mae Mam wedi bod yn llawer llai siaradus nag arfer ac nid yw wedi bod am fynd allan pan rwyf wedi awgrymu teithiau yn ddiweddar. Nid yw'n ymddangos bod ganddi gymaint o archwaeth bwyd gan mai dim ond pigo ar ei bwyd y mae'n ei wneud. Mae'n treulio llawer o amser yn eistedd yn ei chadair. Gofynnais a oedd rhywbeth yn bod, a dywedodd "does gen i ddim amynedd â dim byd"’.

Mae'n debyg eich bod yn meddwl nawr bod popeth yn gymhleth iawn, ond mae'n mynd yn haws. Pan fyddwch yn cofnodi gwybodaeth am y bobl rydych yn eu cefnogi, ceisiwch fynd i'r arfer o'i ddarllen yn ôl a gofyn i'ch hun 'Ai ffaith neu farn sydd yma?' ac 'A yw'n paentio darlun clir a ffeithiol o ddigwyddiadau?'.

Daw popeth yn well wrth ymarfer, ac os gallwch rannu'r dasg gyda pherson arall, byddwch yn gallu cydweithio er mwyn gwella eich sgiliau cadw cofnodion a llunio adroddiadau.