Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2 Iaith a chanfyddiad

Mae'n bwysig eich bod yn ystyried y ffordd y bydd eraill yn derbyn yr iaith a ddefnyddir gennych. Ni ddylech, ar unrhyw achlysur, regi ar nac am y bobl rydych yn eu helpu, na'ch cydweithwyr. Gall yr hyn y mae rhai pobl yn ei alw'n 'herian' gael ei ystyried yn sarhaus neu'n rhagfarnllyd gan eraill, ac mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r ffordd y bydd eraill yn cymryd beth rydych yn ei ddweud.

Fodd bynnag, rydym eisoes wedi trafod y ffaith y gall rhai o'r bobl rydych yn eu helpu ddefnyddio geiriau neu ymddygiadau sy'n annerbyniol ac yn anodd i chi ddelio â nhw. Gall hyn fod oherwydd eich cefndir a chredoau neu'r hyn sy'n eich sarhau, ond rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o ddelio â hyn heb ddal dig.

Bydd adegau pan fydd yn rhaid i chi gofnodi digwyddiadau yn cynnwys ymddygiad y bobl rydych yn eu helpu, ac os gwnewch hynny, mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud hyn yn gywir. Nid oes pwynt dweud 'Rhegodd arnaf' neu 'Cynhyrfodd' gan nad yw hyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n ceisio asesu'r digwyddiad na cheisio ei atal rhag digwydd eto.

Os bydd angen i chi gofnodi digwyddiad a'i fod yn cynnwys rhywun yn rhegi, mae'n bwysig eich bod yn ysgrifennu yn union beth a ddywedwyd, hyd yn oed os bydd yn anodd i chi wneud hynny.

Hefyd, os oes digwyddiad y mae angen ei gofnodi, rhaid i chi ysgrifennu'n union beth welsoch chi, a dim arall. Mae hefyd yn ddefnyddiol ysgrifennu popeth a ddigwyddodd yn union cyn y digwyddodd a'r hyn a ddeilliodd o'r digwyddiad. Eto, mae hyn er mwyn i bawb sy'n ceisio asesu ymddygiad y person gael darlun clir o'r hyn a ddigwyddodd heb iddo gael ei gymylu gan farn neu safbwyntiau pobl eraill.