Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Anhwylderau hwyliau

Described image
Figure _unit3.3.1 Ffigur 1 Mae sawl math gwahanol o anhwylder hwyliau

Nid cyfeirio at p'un a ydych yn ddig (mewn hwyliau drwg) neu'n hapus am eich bod wedi clywed newyddion da (mewn hwyliau da) yn unig y mae anhwylder hwyliau. Yn hytrach, mae hwyliau'n cyfeirio at y ffaith bod yr unigolyn mewn anobaith ac yn drist iawn (hwyliau isel) neu'n egstatig o hapus a gorfoleddus (hwyliau uchel).

Mae cael hwyliau da neu hwyliau drwg yn emosiynau dynol cyffredin a bydd pawb ohonom wedi'u profi ar ryw adeg. Fodd bynnag, pan fydd tueddiad eithriadol y bydd hwyliau person yn isel iawn neu'n uchel iawn am gyfnod parhaus, yna gallai fod oherwydd problemau iechyd meddwl y gellir rhoi diagnosis ar eu cyfer. Ymysg anhwylderau hwyliau mae iselder, mania ac anhwylder deubegynol.

Iselder

Pan fydd unigolyn mewn hwyliau isel iawn, dywedir bod ganddo iselder. Ymysg arwyddion a symptomau iselder mae:

  • Newidiadau i awydd i fwyta: efallai y bydd unigolyn yn bwyta mwy nag arfer neu'n colli ei awydd i fwyta yn llwyr. Magu pwysau neu golli pwysau.
  • Newidiadau mewn patrwm cwsg: mae'n debygol y bydd yr unigolyn yn cael mwy o drafferth mynd i gysgu neu y bydd yn deffro yn yr oriau mân. Yn y bore, ni fydd yn teimlo ei fod wedi'i adfywio a bydd wedi blino drwy'r rhan fwyaf o'r diwrnod.
  • Teimlo'n drist (crïo'n aml), anobeithiol, a theimlo'n euog y rhan fwyaf o'r amser. Ymysg yr arwyddion i bobl eraill mae ei bod yn ymddangos bod gan yr unigolyn agwedd negyddol iawn heb lawer o gymhelliant.
  • Bydd yn teimlo'n flinedig, wedi eu llethu, yn gorwedd yn y gwely ac yn ynysu ei hun.

Mania

Mae mania yn beth prin ond mae'n digwydd weithiau. Yn nodweddiadol, efallai y bydd person sydd mewn cyflwr manig yn dangos arwyddion a symptomau croes i berson ag iselder.

  • Efallai y bydd yr unigolyn yn fywiog iawn, neu hyd yn oed yn orfywiog, nes ei fod yn colli pwysau drwy golli prydau bwyd neu'n gwneud gormod o ymarfer corff.
  • Efallai y bydd eraill yn ystyried bod yr unigolyn yn orfrwdfrydig, yn rhy llawen ac yn ecstatig hyd yn oed os nad oes rheswm amlwg dros y fath emosiynau. Ar adegau, gall arwain at fyrbwylldra a pheidio ag ystyried canlyniadau eu gweithredoedd yn briodol.
  • Gall yr unigolyn gwyno bod ei feddwl yn rhuthro fel na all ganolbwyntio ar dasg am gyfnod hir ac mae pethau'n tynnu ei sylw yn hawdd.

Anhwylder deubegynol

Arferid galw anhwylder deubegynol yn iselder manig. Mae unigolion sydd ag anhwylder deubegynol yn cyrraedd uchelfannau mania am yn ail ag iselderau iselder.