Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.5 Anhwylderau eraill

Anhwylderau bwyta

Anorecsia nerfosa a bwlimia yw'r anhwylderau bwyta mwyaf cyffredin. Er y cânt eu cysylltu â menywod ifanc a merched yn y glasoed fel arfer, gall y ddau gyflwr godi ymysg pobl o'r ddau ryw ac o bob oedran.

Described image
Figure _unit3.3.3 Ffigur 3 Ymgyrch gwrth anorecsia

Gydag anorecsia, nod yr unigolyn yw colli pwysau. Bydd yn bwyta cyn lleied â phosibl ac yn gwacáu'r corff (drwy chwydu neu gymryd meddyginiaethau gweithio) er mwyn gwneud hynny. Credir bod delwedd ddryslyd o'r corff a safbwyntiau dryslyd am fwyd ac ymddangosiad yn achosi i berson golli llawer o bwysau. I'r gwrthwyneb, mae'n debygol y bydd unigolion â bwlimia yn gorfwyta mewn pyliau cyn gwacáu'r corff, er enghraifft drwy wneud i'w hunain chwydu.

Anhwylderau personoliaeth

Yn aml, cyfeirir at hyn fel Anhwylder Personoliaeth Ffiniol. Mae'n disgrifio unigolion sy'n arddangos ymddygiad heriol neu wrthgymdeithasol a achosir gan eu meddyliau dryslyd. Efallai y bydd gan unigolion sgiliau ymdopi gwael, fel eu bod yn mynd yn rhwystredig yn hawdd gyda heriau bywyd, a all, yn ei dro, arwain at wrthdaro estynedig â theulu a ffrindiau. Oherwydd anhawster i feithrin cydberthnasau priodol, gallai llawer hunan-niweidio dro ar ôl tro, ac yn aml, cânt eu disgrifio fel rhywun sy'n chwilio am sylw.

Anhwylderau sy'n gysylltiedig â sylweddau

Mae unigolion y gellid nodi bod ganddynt anhwylder sy'n gysylltiedig â sylweddau yn ddibynnol ar gyffuriau, alcohol neu sylweddau caethiwus eraill. Weithiau, gall cyffuriau sydd ar gael yn rhwydd, yn cynnwys cyffuriau anterth cyfreithlon, gyfrannu at broblemau iechyd meddwl. Gall camddefnyddio sylweddau achosi problemau iechyd corfforol a phroblemau iechyd meddwl. Os yw person yn camddefnyddio sylweddau neu'n camddefnyddio alcohol ar y cyd â phroblemau iechyd meddwl eraill fel sgitsoffrenia, gall y symptomau waethygu. Fel arfer, cyfeirir at hyn fel diagnosis deuol, lle mae gwasanaethau arbenigol ar gyfer camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig â'r gofal a'r driniaeth a gaiff person.

Mae'r mathau o broblemau iechyd meddwl a ddisgrifiwyd gennym yn awgrymu bod dosbarthiadau'n eglur ond nid yw hyn yn wir bob amser. Weithiau, gall y gwahaniaethau rhyngddynt fod yn aneglur. Er mwyn deall yn well sut mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar unigolion, hoffem i chi droi at brofiad personol dau berson sydd wedi byw â phroblemau iechyd meddwl.