Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Asesiad cyffredin cyfannol

Described image
Figure _unit4.5.1 Ffigur 1 Menyw ifanc yn gafael yn llaw menyw hŷn

O'r hyn rydych wedi'i astudio hyd yma yn yr adran hon, byddwch yn gwybod bod gofal diwedd oes cyfannol sy'n canolbwyntio ar y person yn dibynnu ar ddeall y person sy'n marw a'i gyflwr neu salwch. Mae hyn yn dibynnu ar asesiad da a manwl sy'n ystyried dymuniadau'r person. Yn fyr, mae asesiad da o anghenion a dewisiadau pobl yn fwy tebygol o arwain at farwolaeth dda nag ymyriadau sy'n seiliedig ar dybiaethau ynghylch beth mae unigolyn am ei gael. Mae'r asesiad cyffredin cyfannol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Tîm Gweithredu Canser Cenedlaethol y GIG, 2010) yn un dull a ddyfeisiwyd er mwyn diwallu anghenion newidiol, cymhleth ac amrywiol pobl sy'n agosáu at farwolaeth.

Mae'r asesiad cyffredin cyfannol yn rhoi cyfle i archwilio anghenion ehangach yr unigolyn a nodi sut y gellid eu diwallu. Drwy gefnogi dewisiadau a phenderfyniadau gall yr unigolyn nodi beth maent am ei gael ei hun. Drwy ystyried: Pwy? Pryd? Ble? a Sut? caiff gweithwyr proffesiynol eu harwain i ddarparu beth mae'r unigolyn am ei gael.

  • Pwy y dylid ei asesu?

Y person y cydnabyddir ei fod yn agosáu at ddiwedd ei fywyd.

  • Pryd y dylid ei asesu?

Dylid ystyried asesiad fel proses barhaus, lle y caiff asesiad ei ddilyn gan ailasesiad.

  • Ble y dylid cynnal yr asesiad?

Unrhyw le y mae'r person yn gyfforddus a lle mae ganddo breifatrwydd.

  • Sut y dylid cynnal yr asesiad?

Dylai gweithiwr proffesiynol gynnal yr asesiad, lle bydd yn adolygu asesiadau blaenorol ac yn anelu at ofal cyfannol a chynllunio gofal ymlaen llaw posibl.

(Ffynhonnell: Dyfyniad wedi'i addasu gan Dîm Gweithredu Canser Cenedlaethol y GIG, 2010)