3 Trawsnewid dysgu
Pwy y dylid ei gynnwys?
Mae rhai beirniaid wedi crybwyll bod y ffocws ar fyfyrwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu yn tynnu sylw oddi ar y broblem wirioneddol, hynny yw, y prosesau cynhwysiant ac allgáu sy'n golygu nad yw nifer o fyfyrwyr, nid y rhai hynny ag anableddau yn unig, yn gallu cymryd rhan mewn cymunedau a diwylliant prif ffrwd (Booth, 1996). Mae prosesau o'r fath yn effeithio ar nifer o fyfyrwyr, nid y rhai hynny ag ‘anghenion addysgol arbennig’ yn unig.
At hynny, mae astudiaethau wedi dangos bod wynebu sawl anfantais (e.e. anabledd, tlodi, iechyd gwael) yn cael effaith andwyol gronnol ar ddeilliannau addysgol, er bod y rhyngweithio rhwng dangosyddion ‘anfantais’ gwahanol yn gymhleth iawn a bod cyfuniadau gwahanol o atalyddion yn cael effeithiau gwahanol (gweler AdAS 2019).
Yn unol â'r ffordd hon o feddwl, dylai'r astudiaeth o gynhwysiant ymwneud â deall a mynd i'r afael â'r mater ehangach o ymyleiddio a goblygiadau'r broses hon i grwpiau sy'n cael eu hymyleiddio. Mae yna amrywiaeth o grwpiau o ddysgwyr a allai gael eu cynnwys yma:
- myfyrwyr teithiol
- myfyrwyr aeddfed
- y rhai sy'n byw mewn tlodi
- myfyrwyr ieithyddol lleiafrifol
- grwpiau ethnig.
Mae'n debygol iawn y byddwch yn gallu meddwl am grwpiau eraill, yn enwedig y rhai yn eich ysgolion. Y pwynt yw na allwn ystyried y grwpiau hyn ar wahân os ydym am sicrhau newidiadau gwirioneddol i'n system addysg (Dyson, 2001).
Ar yr un pryd, mae angen i ni fod yn ofalus wrth labelu grwpiau yn rhai sy’n fregus gan ei bod yn bosibl nad yw llawer o'r grwpiau hynny yn ystyried eu hunain yn ‘agored i niwed’ ac y byddant yn wydn, yn manteisio ar wasanaethau hunangymorth ac yn gallu mynegi eu barn a chynnig syniadau gwych o ran yr amodau a fyddai'n fwyaf buddiol iddynt.
Gweithgaredd 5: Profiadau o ymyleiddio
Ar sail eich profiad chi, pa grwpiau sy'n debygol o gael eu hymyleiddio, yn eich barn chi? Sut mae'r cyd-destun dysgu naill ai wedi cyfrannu at ymyleiddio neu wedi mynd i'r afael ag ef? Efallai y byddwch am feddwl am grwpiau cyffredinol o fyfyrwyr yn eich ysgol sy'n 'wahanol' i'r mwyafrif mewn rhyw ffordd. Mae eich enghreifftiau yn debygol o fynd y tu hwnt i anabledd ac anhawster dysgu, a gallant gynnwys, er enghraifft, myfyrwyr ag anawsterau ieithyddol a chymdeithasol.
Os ydych yn cwblhau'r dysgu hwn fel rhan o grŵp, unwaith y bydd gennych rai syniadau, treuliwch rywfaint o amser yn egluro eich enghreifftiau i ffrind. A yw ef neu hi yn cytuno â'ch dadansoddiad?
Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod. Gallwch lawrlwytho'r sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.
Comment
Bydd eich profiadau yn dibynnu'n fawr ar leoliad eich ysgol: mae cofrestrau ysgol homogenaidd yn mynd yn fwyfwy prin. Mae'n bosibl y bydd gennych fyfyrwyr sy'n siarad iaith wahanol yn y cartref i'r iaith y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol (h.y. nid Cymraeg neu Saesneg), myfyrwyr sy'n dilyn crefydd nad yw wedi'i chynrychioli yn y gymuned, myfyrwyr o deuluoedd sy'n deithwyr, neu fyfyrwyr sydd wedi cael profiadau hynod ofidus cyn ymuno â'r gymuned yng Nghymru. A yw eich ysgol yn deall y grwpiau hyn er mwyn sicrhau y gallant gymryd rhan yn y gymuned ddysgu?