Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)
Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 O integreiddio i gynnwys

Mae ‘addysg gynhwysol’ yn mynd y tu hwnt i ‘integreiddio’ – term a ddefnyddiwyd yn gyffredinol tan y 1990au i ddisgrifio'r broses o symud plentyn neu grwpiau o blant i ysgolion prif ffrwd. Roedd ‘integreiddio’ yn derm a ddefnyddiwyd yn y 1970au i ddisgrifio'r broses o leoli myfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd (yn hytrach nag ysgolion arbennig). Roedd angen bod y myfyriwr yn gallu addasu i amgylchedd yr ysgol a dod yn rhan ohono, yn hytrach na bod yr ysgol yn trawsnewid ei harferion ei hun er mwyn rhoi mynediad i amrywiaeth eang o fyfyrwyr. Efallai y byddwch am ddarllen yr hyn y mae'r Arolygiaeth yng Nghymru (Estyn 2014) wedi'i nodi'n arfer effeithiol i sicrhau cyflawniad pob myfyriwr. Ymhlith nodweddion eraill, mae'r strategaethau:

  • yn gyfannol ar gyfer y myfyrwyr a'r oedolion sy'n gweithio gyda nhw
  • yn aml-haenog ac yn eang
  • yn cynnwys datblygiad a chysondeb systemig a sefydliadol
  • yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth.

Mae hyn oll yn awgrymu ymgysylltu cymunedol: ni all unigolion yn unig sicrhau cynhwysiant.

Mae ‘addysg gynhwysol’ yn awgrymu newid radical mewn agweddau a pharodrwydd ymhlith ysgolion i newid arferion wrth grwpio ac asesu disgyblion a chyflwyno'r cwricwlwm, er mwyn galluogi'r disgyblion i gymryd rhan a dod yn aelodau o'r gymuned. Nid yw'r syniad o gynhwysiant yn gosod ffiniau mewn perthynas â mathau penodol o anabledd, anhawster dysgu nac anfantais. Yn lle hynny, mae'n canolbwyntio ar allu'r ysgol ei hun i ddiwallu amrywiaeth o anghenion.

Nid yw newid o ‘integreiddio’ i ‘gynhwysiant’ yn golygu newid syml i'r derminoleg, ond newid sylfaenol mewn safbwyntiau. Mae'n awgrymu newid i ffwrdd oddi wrth fodel ‘diffyg’, lle tybir bod anawsterau wedi'u gwreiddio yn y myfyriwr, i fodel ‘cymdeithasol’, lle mae rhwystrau i ddysgu yn bodoli yn strwythurau'r ysgolion eu hunain ac, yn fwy cyffredinol, yn agweddau a strwythurau cymdeithas. Yr hyn sy'n sail i'r dull 'cynhwysol' yw'r dybiaeth bod gan fyfyrwyr yr hawl i gymryd rhan yn y profiad a gynigir yn yr ystafell ddosbarth brif ffrwd.

Dechreuodd llawer o'r newid mewn ymagweddau at gynhwysiant yn y 1990au, pan gafodd cytundeb rhyngwladol ynghylch pwysigrwydd ‘hawliau’ ei gadarnhau yn Natganiad Salamanca, sy'n sail i nifer o ddatganiadau polisi cenedlaethol a sefydliadol.