3.3 Datganiad Salamanca
Yn 1994, cyfarfu dros 300 o gyfranogwyr – gan gynnwys 92 o lywodraethau a 25 o sefydliadau rhyngwladol – yn Salamanca, Sbaen, gyda'r nod o ddatblygu amcanion addysg gynhwysol ymhellach. Cafodd y Datganiad Salamanca (UNESCO, 1994) a ddeilliodd o hynny ei lywio gan safbwyntiau ar addysg a oedd yn seiliedig ar hawliau. Er bod y Datganiad yn canolbwyntio ar blant ag 'anghenion arbennig', pennodd o'r cychwyn cyntaf ei ymrwymiad i wneud y canlynol:
Ailddatgan hawl bob unigolyn i addysg, fel sydd wedi'i gynnwys yn Natganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, ac adnewyddu'r addewid a wnaed gan gymuned y byd yng Nghynhadledd y Byd ar Addysg i Bawb 1990 i sicrhau'r hawl hwnnw i bawb, ni waeth beth fo'n gwahaniaethau unigol.
Yn ddiweddarach, yn yr adran ar ganllawiau ar gyfer camau gweithredu cenedlaethol, cydnabu'r Datganiad nad oedd y rhan fwyaf o'r newidiadau gofynnol yn ymwneud â phlant ag anghenion addysgol arbennig yn unig (t. 21); yn hytrach, maent yn rhan o raglen diwygio addysg ehangach sydd ei hangen i wella ansawdd a pherthnasedd addysg a hyrwyddo lefelau uwch o gyflawniad dysgu gan bob dysgwr.
Gosododd y Datganiad y rhaglen diwygio addysg yn gadarn o fewn agenda gymdeithasol ehangach a oedd yn cynnwys iechyd, lles cymdeithasol a hyfforddiant galwedigaethol a chyflogaeth. Roedd yn pwysleisio y dylai'r gwaith o gynllunio, monitro a gwerthuso darpariaeth ar gyfer addysg gynhwysol fod yn gyfranogol ac wedi'i ddatganoli, ac y dylai annog rhieni, cymunedau a sefydliadau pobl ag anableddau i fod yn rhan o waith cynllunio a gwneud penderfyniadau (UNESCO, 1994, t. ix).
Cydnabu'r Datganiad fod gan nifer o wledydd systemau ysgolion arbennig sefydledig ar waith i'r rhai hynny â namau penodol, ac y gallai'r ysgolion hyn fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer datblygu ysgolion cynhwysol (UNESCO, 1994, t. 12). Fodd bynnag, anogodd wledydd heb system o'r fath i ganolbwyntio eu hymdrechion ar ddatblygu ysgolion cynhwysol. (UNESCO, 1994, t. 13) ochr yn ochr â gwasanaethau cymorth arbenigol er mwyn eu galluogi i gyrraedd y mwyafrif o blant a phobl ifanc. Dylai pob polisi lleol a chenedlaethol sicrhau bod plant ag anableddau yn gallu mynychu ysgol eu cymdogaeth.
Nododd Evans, l. et al., (1999) fod Datganiad Salamanca a phroclamasiynau eraill gan y Cenhedloedd Unedig wedi cael dylanwad mawr ar safbwyntiau rhyngwladol am gynhwysiant. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, neilltuwyd rhifyn cyfan o'r International Journal of Inclusive Education (2019, Rhifyn 23, t. 7–8) i erthyglau am Ddatganiad Salamanca 25 mlynedd ar ôl iddo gael ei lunio, a nododd astudiaeth gan Hernández Torrano et al., (2020 t. 1) fod ymchwil i addysg gynhwysol yn ‘ffenomen fyd-eang’.