Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)
Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Cyd-destun Arweinyddiaeth yng Nghymru

Mewn gwirionedd, prin yw'r sefydliadau sydd â strwythurau cwbl glir, a gellir defnyddio dulliau arwain gwahanol mewn rhannau gwahanol o'r un sefydliad. Gall pŵer ymddangos mewn strwythur hierarchaidd ddiffiniedig a gall hyn adlewyrchu ffurfiau ar wybodaeth arbenigol ganfyddedig. Fodd bynnag, gall y rheini nad ydynt mewn rolau arwain dynodedig ddylanwadu ar eraill drwy berswâd a meithrin cydberthnasau rhyngbersonol - gall hyn gynnwys cynnig camau i fireinio cynlluniau arwain neu opsiynau amgen yn eu lle. Pan fyddwch chi'n myfyrio ar arweinyddiaeth, mae felly'n bwysig ystyried y nodweddion sefydliadol ynghyd â'r cydberthnasau rhwng y bobl.

Mae Estyn yn arolygu ysgolion yng Nghymru ac yn rhoi adborth ar arweinyddiaeth a rheolaeth fel rhan o'r fframwaith adrodd presennol. Er bod adroddiadau Estyn yn darparu crynodeb o arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol, ac yn rhoi gradd ar yr elfennau hyn, bydd hyd y cylch arolygu yn golygu bod y ‘wybodaeth’ hon yn hen yn aml.

Ceir newidiadau di-baid mewn ysgolion. Efallai fod adroddiad diweddaraf Estyn yn bwynt cyfeirio pwysig, ond mae'n bosibl bod adroddiadau gwerthuso allanol eraill ar gael i ysgolion gan awdurdod lleol (ALl) neu Consortia Rhanbarthol. Gall yr adroddiadau eraill hyn gynnig adborth diweddarach ar berfformiad sy'n trafod ac yn dadansoddi agweddau penodol ar arweinyddiaeth, a myfyrio arnynt.

Gweithgaredd 2: Adroddiadau Gwerthuso Allanol

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Dylech ystyried y pwyntiau canlynol:

  1. Pa adroddiadau gwerthuso allanol sydd ar gael i chi fel llywodraethwr ysgol, a pha mor gyfarwydd ydych chi â'r rhain?
  2. Pa mor ddiweddar yw'r dogfennau hyn a beth maen nhw'n ei ddweud wrthych chi am ganfyddiadau allanol o brosesau arweinyddiaeth eich ysgol?
  3. Ydych chi'n credu eu bod yn adlewyrchiad cywir o arweinyddiaeth bresennol eich ysgol, neu ydych chi'n meddwl bod gwahaniaethau sylweddol? Pa dystiolaeth sy'n cefnogi eich barn?

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod.

Gallwch lawrlwytho'r holl sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Comment

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael ei harolygu o bryd i'w gilydd. Mae'r adroddiad a gyhoeddir yn cynnwys sawl tudalen o werthusiad allanol gan Estyn, y sefydliad arolygu yng Nghymru. Mae'r adroddiadau hyn yn ddogfennau sydd ar gael i'r cyhoedd a gall unrhyw un eu darllen. Maent ar gael ar wefan Estyn ac maent yn cynnwys nifer o adrannau sy'n unol â'r fformat sydd ar waith ar unrhyw adeg benodol.

Mae'r adroddiadau arolygu diweddaraf yn cynnwys adrannau ar Safonau, Lles ac agweddau at ddysgu, Profiadau Addysgu a Dysgu, Gofal, cymorth ac arweiniad, ac Arwain a Rheoli. Fodd bynnag, mae'n rhaid cofio bod Arolygiadau yn cael eu cynnal mewn cylchoedd ac y gall fod cyfnod o hyd at chwe blynedd rhwng cynnal arolygiadau o ysgolion a chyhoeddi adroddiadau. Gall pethau newid yn sylweddol mewn cyfnod o chwe blynedd, ac yn aml mae hynny'n wir!

Yng Nghymru, bydd ysgolion sector cyhoeddus hefyd yn destun gwerthusiad mwy lleol, ond ni chaiff yr adroddiadau hyn eu cyhoeddi. Cynhelir y broses hon ar gyfer ysgolion yn rheolaidd, a defnyddir system codau lliw i ddynodi ysgolion yn rhai gwyrdd, melyn, oren a choch, sy'n cynrychioli pedwar canlyniad posibl.

Mae adnodd Fy Ysgol Leol https://mylocalschool.gov.wales/ ?lang=cy [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn darparu gwybodaeth gyfyngedig am bob ysgol, gan gynnwys ei chategori lliw presennol, ond bydd rhagor o wybodaeth am werthusiadau allanol ar gael yn yr ysgolion y gellir ei rhannu â chorff llywodraethu'r ysgol.

Bydd pob corff llywodraethu yn cyfarfod ar adegau amrywiol drwy gydol y flwyddyn a bydd pwyllgorau ychwanegol â rolau penodol a ddylai gyfrannu at arweinyddiaeth, rheolaeth ac atebolrwydd cyffredinol yr ysgol. Er bod gofynion penodol y mae angen i gyrff llywodraethu eu bodloni, bydd rhai amrywiadau mympwyol a fydd yn golygu bod symiau gwahanol o amser, datblygiad proffesiynol a chyllid yn cael eu buddsoddi mewn blaenoriaethau ysgolion unigol.

Mae'r trydydd cwestiwn wedi'i gynllunio i'ch annog i ystyried a ydych yn teimlo bod trywydd tystiolaeth rheolaidd wedi'i ddarparu neu a oes un ar gael er mwyn sicrhau eich bod chi fel Llywodraethwr yn teimlo'n hyderus o ran agenda gwella'r ysgol a'ch rôl yn y broses hon. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cael cyfle i gwestiynu dilysrwydd y data ac esboniadau o ddulliau gweithredu'r ysgol. Mae hyn rhan o'ch rôl fel Llywodraethwr.