Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)
Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Mathau o arweinyddiaeth

Mae Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd yn cynnwys tystiolaeth a gymerwyd o nifer o ysgolion cynradd. Mae bob amser yn bwysig ystyried tystiolaeth yn wrthrychol wrth fyfyrio ar arweinyddiaeth. Mae sawl astudiaeth achos fanwl wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, ac mae'r rhain yn adlewyrchu lefelau gwahanol o lwyddiant y gellir, yn eu tro, eu cysylltu ag agweddau ar arweinyddiaeth.

O safbwynt academaidd, mae ffyrdd penodol o feddwl am arweinyddiaeth sy'n cynnwys:

  • lleoliadol
  • dosbarthiadol
  • trafodaethol
  • trawsnewidiol.

Ar y cyfan, mae hwn yn faes dadleuol: mae gan y swm helaeth o lenyddiaeth sydd ar gael gyfeiriadau at nifer o fathau o arweinyddiaeth, damcaniaethau, arddulliau a modelau arwain sy'n cystadlu â'i gilydd ac yn gwrth-ddweud ei gilydd. Mae hyn am fod arweinyddiaeth yn ymgorffori ystod sylweddol o weithredoedd a gweithgareddau, y mae gwerthoedd a chredoau penodol yn sail i bob un ohonynt.

Gallai pawb sy'n gweithio mewn cyd-destun addysgol gael eu cynnwys mewn rhyw fath o weithgarwch arwain – ni waeth pa mor fach – sy'n ymwneud â dylanwadu ar wybodaeth, barn, ymddygiad ac arferion pobl eraill. Mae damcaniaethau am arweinyddiaeth yn parhau i ymddangos, ac mae'n anodd iawn cytuno ar arddull a ffefrir o hyd! Un enghraifft ddadleuol o hyn yw ‘arweinyddiaeth a rennir’ (neu ‘arweinyddiaeth wasgaredig’), sy'n cydnabod y gall unrhyw un mewn sefydliad gyflwyno a datblygu syniadau da. Gellir ystyried hyn fel rhywbeth cadarnhaol, oherwydd gall helpu i feithrin gallu ac mae'n caniatáu ar gyfer datblygu cyfalaf deallusol a phroffesiynol; ond mae angen ystyried ffyrdd o rannu a datblygu syniadau a chynllunio ar gyfer hyn.

Mae gan arweinyddiaeth statws lleoliadol o hyd ac mae arweinwyr yn dewis ymddwyn mewn ffyrdd gwahanol ac mewn amgylchiadau gwahanol. Mae arweinyddiaeth drafodaethol a thrawsnewidiol yn ddau fodel sefydledig y cyfeirir atynt mewn llenyddiaeth academaidd:

  • Mewn arweinyddiaeth drafodaethol, mae dylanwad ar ymddygiad gyda ‘gwobr’ neu ‘ddisgyblaeth’, gan ddibynnu ar lefel y perfformiad gan ddilynwyr. Mae gan y dull arwain hwn ddau brif ffactor: gwobr amodol yn cael ei chydbwyso drwy reoli disgwyliadau. Mae gwobr amodol yn ei gwneud yn ofynnol bod is-weithwyr yn cyrraedd lefelau perfformiad penodol; mae rheoli disgwyliadau yn caniatáu ymyriad os nad ydynt yn cyrraedd y safonau. Mae hwn yn amrywiad ar y dull arwain ‘moronen a ffon’. Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo'n anghyfforddus wrth ddychmygu defnyddio dull gweithredu trafodaethol ar gyfer rheoli athrawon proffesiynol, gan fod llawer ohonynt yn teimlo ymrwymiad dwfn i weithio gyda disgyblion
  • Efallai y bydd arweinyddiaeth drawsnewidiol yn teimlo fel model mwy priodol yn reddfol. Mewn llawer o ffyrdd, mae'n debyg iawn i arweinyddiaeth ddemocrataidd: mae'r ddau yn ymwneud â pharchu urddas unigolion a'u traddodiadau diwylliannol – hwyluso'n rhagweithiol, holi'n agored a beirniadu'n weithredol. Mae arweinwyr trawsnewidiol yn ysbrydoli ac yn ysgogi eu dilynwyr, gan ddangos pwysigrwydd gwella a chyflawni a meithrin dyhead y dilynwyr i wneud hynny. Maent yn optimistaidd yn aml ac yn gyffrous am gyflawni nodau, ac maent yn gallu cynhyrchu cred a rennir a gweledigaeth strategol. Maent yn mentora eu dilynwyr ac yn rhoi sylw i anghenion unigolion.

Os yw'n ymddangos bod arweinwyr trafodaethol yn arwain â'u pen, yna mae arweinwyr trawsnewidiol yn arwain â'u calon. Gellid disgrifio arweinyddiaeth drafodaethol fel 'effeithlon', ond byddai arweinyddiaeth drawsnewidiol yn cael ei galw'n 'effeithiol'. Ond, mae angen bod yn ofalus: dyfeisiau artiffisial yw'r ddau ddull arwain hyn. Mewn gwirionedd, ystrydebau yw pob model arweinyddiaeth, ac mae llawer o'r hyn a ystyrir yn arweinyddiaeth mewn ysgolion yn gyfuniad o arddulliau. Mae'n debygol y bydd arweinyddiaeth yn gyfaddawd yn aml, gyda ffactorau allanol yn ymddangos fel petaent yn dylanwadu ar amserlenni ac atebolrwydd.

Mae creu diwylliant mewn ysgol lle gellir cynllunio ar gyfer newid yn llwyddiannus a'i roi ar waith yn her i arweinwyr. Bydd gan bob ysgol a senario ei chyfres ei hun o ffactorau a newidynnau y bydd angen eu hystyried yn ofalus.

Gweithgaredd 5: Defnyddio arweinyddiaeth greadigol

Timing: Caniatewch tua 45 munud

Nawr darllenwch yr erthygl ‘Creative leadership: a challenge of our times’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] gan Louise Stoll a Julie Temperley (2009).

Mae'n defnyddio canfyddiadau o waith ymchwil i'r angen i arweinwyr fod yn greadigol er mwyn datblygu gweithlu hyblyg sy'n gallu addasu i heriau'r unfed ganrif ar hugain.

Wrth i chi ddarllen yr erthygl hon, mae'n debyg y byddwch yn darllen sylwadau y byddwch yn cytuno â nhw a rhai y byddwch yn anghytuno â nhw. Mae gan y sylwadau yn yr erthygl ddilysrwydd a ddylai'ch helpu i fyfyrio ar eich canfyddiadau eich hun o'r ysgol a'r staff.

Fe'ch anogir i gadw cofnod o unrhyw ffactorau o'r erthygl rydych yn teimlo y gellid eu hatgynhyrchu neu eu diwygio er mwyn galluogi eich ysgol i ddatblygu dull gweithredu mwy hyderus a chreadigol ar gyfer eich amgylchiadau a'ch blaenoriaethau.

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod.

Gallwch lawrlwytho'r holl sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Comment

Mae'r hyn y byddwch wedi'i ysgrifennu ar gyfer yr adran hon yn eithaf personol a bydd sawl ffactor wedi dylanwadu arno, yn bennaf eich rôl fel Llywodraethwr. Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn athro neu'n aelod cyswllt o'r staff ac, felly, y byddwch wedi clywed rhai sylwadau a wnaed yn yr ystafell staff.

Efallai eich bod yn Llywodraethwr sydd â mynediad rheolaidd at fywyd yr ysgol ac yn gyfarwydd â sylwadau'r staff. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwch yn teimlo eich bod wedi eich ynysu oddi wrth fywyd yr ysgol o ddydd i ddydd, ac yn fwy dibynnol o lawer ar adroddiadau a chyfarfodydd y corff llywodraethu.

Felly, mae'r hyn sy'n dilyn yn safbwynt ar yr erthygl ac yn ceisio cynnig rhai mewnwelediadau posibl. Bydd gan bob unigolyn farn wahanol am hyn. Mae pob safbwynt yn ddilys ac yn adlewyrchu'r amrywiaeth o ddehongliadau sy'n ychwanegu at gymhlethdod arweinyddiaeth. Mae angen sicrhau cyfathrebu da er mwyn bod yn arweinydd effeithiol.

Gobeithio y byddwch wedi nodi rhai camau y gellir eu cymryd er mwyn ystyried sefyllfaoedd mewn ffordd fwy creadigol. Efallai fod gennych enghraifft o hyn?

Mae'r farn bwysig ganlynol, sef os byddwch am wella rhywbeth, y bydd angen i chi wneud rhywbeth yn wahanol, yn allweddol i hyn. Fel y mae'r awduron yn ei nodi, mae angen i arweinwyr ysgolion allu datgloi creadigrwydd eu staff. Er mwyn gwella'r dysgu ac arwain ysgol greadigol, mae angen arweinyddiaeth greadigol arnoch hefyd. A ydych wedi nodi unrhyw enghreifftiau o hyn wrth fyfyrio?

Mae rhan o'r arweinyddiaeth greadigol hon yn ymwneud â darparu'r amodau, yr amgylchedd a'r cyfleoedd i eraill fod yn greadigol. Gan fod ysgolion ar gamau gwahanol o'u taith datblygu, fel yr adlewyrchir yn nogfen Estyn, bydd angen i bob ysgol ystyried y cwestiwn hwn o'i safbwynt ei hun. Fodd bynnag, mae'r erthygl, sy'n seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth, yn myfyrio ar bwysigrwydd sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yr ymddiriedir ynddynt fel y gellir ‘cymryd risgiau’ ystyriol. A oes gennych unrhyw enghreifftiau o'r ymddiriedaeth hon neu'r broses hon o gymryd risgiau?

Mae gan arweinwyr gyfrifoldeb i fodelu'r arbrawf hwn drwy eu gweithredoedd eu hunain ac maent yn cydnabod nad yw pob newid a gynlluniwyd yn gweithio. Nid yw bod yn ddiogel a bod yn greadigol yn mynd law yn llaw. Eto, a oes gennych unrhyw enghreifftiau o arweinwyr yn arwain yn dda ac yn chwarae rhan fawr mewn unrhyw fentrau newid?

Gobeithio eich bod wedi myfyrio ar yr hyn sydd wedi newid yn yr ysgol a pham y mae wedi newid. Mae'n bosibl y bydd gennych enghreifftiau o hyn o adroddiadau gan y pennaeth neu gyflwyniadau yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu. Efallai y byddwch wedi gweld newidiadau yn uniongyrchol drwy brosesau monitro rydych wedi bod yn rhan ohonynt fel llywodraethwr.

Gallech hefyd ystyried a oedd unrhyw ‘fenter’ yn ymateb i ddyhead mewnol i newid rhywbeth neu a oedd yn ymateb i ofyniad gorfodol allanol? Gallai hyn ddylanwadu ar y dull gweithredu a roddir ar waith.

Nid oes gan unrhyw unigolyn nac ysgol fonopoli o ran syniadau da a dylai bob amser fod yn agored i ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd. I ba raddau y mae eich ysgol yn barod i ymchwilio i'r hyn y mae ysgolion llwyddiannus eraill yn ei wneud? A oes amser wedi'i neilltuo i alluogi posibiliadau creadigol i ddod i'r amlwg a chael eu hystyried? A oes cyfleoedd i rannu syniadau da heb fod yn feirniadol?

Mae'r rhain yn feysydd y gallech fod wedi'u hystyried, ond mae gwella ysgolion mor bwysig fel bod ystyried y ffordd y caiff hyn ei gynllunio a'i alluogi yn un o feysydd allweddol arweinyddiaeth. Mae cynnwys pawb ar y daith hefyd yn debygol o wella'r tebygolrwydd y caiff hyn ei roi ar waith yn llwyddiannus.

Gweithgaredd 6: Defnyddio arweinyddiaeth greadigol – profi eich gwybodaeth (rhan 1)

Timing: Caniatewch tua 15 munud

Ar ôl darllen ‘Creative leadership: a challenge of our times’, rhowch gynnig ar y cwestiynau canlynol.

a. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


b. 

Ysgogi ymdeimlad o frys - creu ‘argyfwng’ os oes angen


c. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


d. 

Ildio rheolaeth yn hunanymwybodol


The correct answer is b.

a. 

Gosod disgwyliadau uchel o ran graddau creadigrwydd


b. 

Defnyddio methiant fel cyfle i ddysgu


c. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


d. 

Rhoi amser a lle i hwyluso'r elfennau ymarferol


The correct answer is d.

a. 

Defnyddio methiant fel cyfle i ddysgu


b. 

Parhau i gyfeirio'n ôl at werthoedd craidd


c. 

Ysgogi ymdeimlad o frys - creu ‘argyfwng’ os oes angen


d. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


The correct answer is d.

a. 

Hyrwyddo meddwl a dylunio creadigol unigol a chydweithredol


b. 

Gosod disgwyliadau uchel o ran graddau creadigrwydd


c. 

Defnyddio methiant fel cyfle i ddysgu


d. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


The correct answer is a.

Gweithgaredd 7: Defnyddio arweinyddiaeth greadigol – profi eich gwybodaeth (rhan 2)

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Nawr dylech ystyried sut mae'r amodau hyn yn gweithio wrth ystyried enghraifft o fywyd go iawn.

Darllenwch a dadansoddwch astudiaeth achos Ysgol Gynradd Deighton ac atebwch y cwestiynau canlynol, sy'n ymwneud ag enghreifftiau go iawn o'r astudiaeth achos. Ar gyfer pob cwestiwn, bydd angen i chi ddewis dau amod a fyddai'n helpu i hwyluso pob datblygiad yn yr ysgol.

a. 

Parhau i gyfeirio'n ôl at werthoedd craidd


b. 

Gosod disgwyliadau uchel o ran graddau creadigrwydd


c. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


d. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


e. 

Rhoi amser a lle i hwyluso'r elfennau ymarferol


The correct answers are c and e.

a. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


b. 

Ysgogi ymdeimlad o frys – creu ‘argyfwng’ os oes angen


c. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


d. 

Ildio rheolaeth yn hunanymwybodol


e. 

Rhoi amser a lle i hwyluso'r elfennau ymarferol


The correct answers are d and e.

a. 

Gosod disgwyliadau uchel o ran graddau creadigrwydd


b. 

Defnyddio methiant fel cyfle i ddysgu


c. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


d. 

Cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr


e. 

Parhau i gyfeirio'n ôl at werthoedd craidd


The correct answers are b and d.

a. 

Rhoi amser a lle i hwyluso'r elfennau ymarferol


b. 

Modelu creadigrwydd a chymryd risgiau


c. 

Ysgogi ymdeimlad o frys – creu ‘argyfwng’ os oes angen


d. 

Parhau i gyfeirio'n ôl at werthoedd craidd


e. 

Hyrwyddo meddwl a dylunio creadigol unigol a chydweithredol


The correct answers are a and e.