Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)
Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Arwain datblygiad dysgu proffesiynol

Un o'r rolau allweddol ar gyfer arweinwyr yw cefnogi dysgu proffesiynol pobl eraill. Ynghyd â bod yn un o nodweddion cyffredin gwella yn adroddiad Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd, mae gan ddatblygiad dysgu proffesiynol effeithiol nifer o ganlyniadau cadarnhaol posibl ar gyfer yr unigolyn a'r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o ganlyniadau gwell i ddysgwyr, sy'n flaenoriaeth ar gyfer unrhyw ysgol.

Mae'n bwysig bod gweithgarwch dysgu proffesiynol yn gyson â nodau'r sefydliad. Gellir ei ddiffinio a gall godi mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • datblygiad proffesiynol parhaus
  • hyfforddiant mewn swydd
  • mentora
  • cymunedau dysgu proffesiynol
  • hyfforddi.

Mae'n bwysig deall y gellir defnyddio pob un o'r dulliau gweithredu hyn; ond mae yr un mor bwysig ystyried ansawdd y profiad a sut i werthuso effaith y gweithgarwch.

Dylid ystyried hyn wrth gynllunio'r gweithgarwch, er mwyn sicrhau bod adnoddau ariannol a gaiff eu buddsoddi mewn dysgu proffesiynol yn gost effeithiol ac yn strategol. Yn hanesyddol, roedd gan sawl math o gyrsiau proffesiynol ffordd uniongyrchol o'u gwerthuso, yn aml ar ffurf taflen i'w thicio gydag ychydig o sylwadau. Ar y cyfan, roedd hyn yn eithaf arwynebol a chyfeiriodd rhai academyddion at hyn fel ‘taflen hapus’. Dim ond gwybodaeth argraffiadol ac anecdotaidd fyddech chi'n ei chael o'r taflenni hyn, heb unrhyw ystyriaeth o effaith dros amser.

Erbyn hyn ceir dulliau gweithredu manylach ar gyfer gwerthuso dysgu proffesiynol: mae'r rhain yn cynnwys model Thomas R. Guskey sy'n ystyried y gellir cyflawni effaith datblygiad dysgu proffesiynol ar bum lefel bosibl:

  • ymateb cydweithwyr
  • dysgu cydweithwyr
  • cymorth a newid sefydliadol
  • defnydd cyfranogwyr o wybodaeth a sgiliau newydd
  • deilliannau dysgu disgyblion.

Yn ôl Guskey, prif nod datblygiad proffesiynol yw gwella deilliannau i ddisgyblion. Mae'n awgrymu mai'r dull gweithredu synhwyrol yw dechrau ble yr hoffech fod a gweithio drwy'r lefelau, gan gadw deilliant posibl y disgybl mewn cof bob amser. Felly wrth werthuso datblygiad dysgu proffesiynol, ‘deilliannau dysgu'r disgyblion’ yw'r ystyriaeth gyntaf a'r bwysicaf, ac ‘ymateb y cyfranogwyr’ - y ‘daflen hapus’ - sydd leiaf pwysig.

Mewn geiriau eraill: caiff y datblygiad proffesiynol ei lywio gan anghenion y disgyblion.

Gweithgaredd 8: ‘A yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth?’

Timing: Caniatewch tua 45 munud

Darllenwch erthygl Guskey, ‘Does it make a difference?’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy'n esbonio'r dull gweithredu hwn yn fanylach.

Myfyriwch ar ddatblygiad dysgu proffesiynol rydych chi wedi'i brofi'n bersonol neu rydych chi'n ymwybodol ohono. Pa fath o werthusiad a gafwyd, ac a fyddai cynnwys dull gweithredu pum cam Guskey wedi gallu gwella ansawdd y profiad? Os felly, ym mha ffordd?

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod.

Gallwch lawrlwytho'r holl sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Comment

Fel Llywodraethwr, mae'n bosibl bod gennych fynediad personol at gyrsiau a ddarperir gan awdurdod lleol neu ranbarth. Gall y rhain gynnwys rhywfaint o sesiynau wyneb yn wyneb neu, fel y profiad hwn gyda'r Brifysgol Agored, sesiynau ar-lein. Mewn ysgolion, mae'n bosibl y bydd aelodau o'r staff yn mynychu cyrsiau allanol, neu mae'n bosibl y caiff sesiynau eu cynnal yn ystod y diwrnod ysgol, ar ddiwedd y diwrnod ysgol neu ar ddiwrnodau pan fydd yr ysgol ar gau. Efallai y bydd llywodraethwyr a staff yn mynychu hyfforddiant gyda'i gilydd. Bydd y dull gweithredu a ddewisir yn amrywio o ysgol i ysgol.

Mae'n amlwg bod gwerthuso yn bwysig, ac mae Guskey yn gwneud hyn yn glir, ond mae hefyd yn nodi y gall amlder ac ansawdd y broses bwysig hon amrywio'n fawr. Ar hyn o bryd, rydych yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol drwy gwblhau'r modiwl hwn. Mae'n gwrs cyffredinol sy'n addas i bawb, y mae'n rhaid ei lunio ar gyfer cynulleidfa eang o gyfranogwyr y bydd ganddynt sgiliau a phrofiadau gwahanol iawn. Felly, mae'n debygol na fydd yn bodloni eich gofynion personol yn berffaith! Fodd bynnag, mae am ddim; yr unig gost yw eich amser.

Gobeithio y bydd eich ysgol yn gallu teilwra datblygiad proffesiynol i anghenion penodol unigolion, boed yn ddisgyblion, yn staff neu'n llywodraethwyr.

Wrth gynllunio datblygiad proffesiynol, mae Guskey yn awgrymu bod angen dechrau drwy ystyried beth yn union rydych yn ceisio ei wella, a dylai hyn ddilyn rhyw fath o ddadansoddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Yna, mae'n bwysig nodi'r hyn sy'n gweithio'n llwyddiannus a pha ddysgu proffesiynol sydd ei angen er mwyn galluogi hyn, yn ogystal â sicrhau unrhyw adnoddau priodol ac unrhyw gymorth a newid sefydliadol. Mae'n debygol y bydd hyn yn cynnwys rhywfaint o ddatblygiad proffesiynol penodol a gall hyn fod ar gael yn fewnol neu gan ddarparwyr allanol. Drwy gynllunio yn y ffordd hon, gallwch geisio sicrhau mai'r hyfforddiant a ddarperir yw'r union hyfforddiant sydd ei angen.