1 Newid y dechnoleg neu’r addysgeg?
Faint o wahaniaeth mae unrhyw dechnoleg yn ei wneud i’r ffordd y mae pobl yn addysgu neu’n dysgu? Yn aml, bydd tensiwn rhwng arwyddocâd technoleg ac addysgeg mewn addysgu ar-lein. Mae rhai’n canolbwyntio ar addysgeg, gan weld technoleg fel cyfrwng yn unig. Mae’n well gan eraill ddefnyddio’r posibiliadau y mae technoleg yn eu cynnig i ni ac aros i’r ddamcaniaeth ddal i fyny. Yn ôl pob tebyg, mae’n fwy defnyddiol meddwl bod y ddau’n rhan o ddeialog ailadroddol. Mae technoleg yn agor posibiliadau newydd ac yn cael ei defnyddio mewn ffyrdd nad oedd ei dylunwyr erioed wedi bwriadu sydd, yn ei dro, yn sbarduno datblygiad damcaniaethol, sy’n bwydo’n ôl i ddatblygu technoleg, ac yn y blaen.
Mae’r safbwynt hwn ynglŷn â thechnoleg, ac yn enwedig sut mae’n berthnasol i addysg, yn derbyn sylw gan Weller (2011) ym Mhennod 1 The Digital Scholar [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Mae’r tensiwn hwn rhwng rôl technoleg ac addysgeg yn arbennig o amlwg mewn addysg ar-lein. Ni fyddai llawer o’r pynciau rydym wedi edrych arnynt yn y cwrs hwn wedi bod yn bosibl heb dechnoleg y rhyngrwyd. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni hefyd ystyried rolau dysgwyr ac addysgwyr, a’r hyn maen nhw’n ei gyfrannu at bob cyd-destun addysg ar-lein.