2 Dylunio dysgu
Byddwch wedi gweld drwy gydol y cwrs hwn bod y ffyrdd y gallwn ddylunio profiad i ddysgwyr ar-lein ychydig yn wahanol i fathau eraill o addysgu. Ond a allwn feddwl am hyn yn fwy systematig? Mae Mor a Craft (2012) yn diffinio dylunio dysgu fel ‘y weithred o ddyfeisio arferion, cynlluniau gweithgarwch, adnoddau ac offer newydd i geisio cyflawni nodau addysgol penodol mewn sefyllfa benodol’ (tud. 86).
Mae dylunio dysgu yn rhan annatod o arferion unrhyw addysgwr (h.y. paratoi ar gyfer sesiynau addysgu/hyfforddi neu greu deunyddiau dysgu, gweithgareddau ac asesiadau). Yn wir, mae mor ganolog i’r hyn y mae addysgwyr yn ei wneud fel ei fod yn cael ei gymryd yn ganiataol yn aml; tybir ei fod ‘yn digwydd’, yn syml. Mewn geiriau eraill, mae ‘dylunio’ wedi’i wreiddio mor ddwfn yn arferion ymarferydd fel ei fod yn tueddu i fod yn ymhlyg – nid yw’n cael ei fynegi’n ffurfiol na’i allanoli i eraill, heblaw ar lefel gymharol arwynebol ym maes llafur y modiwl neu’r cynllun gwers.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd mwy a mwy o ddiddordeb mewn ceisio deall prosesau dylunio addysgwyr yn well a’u gwneud yn fwy amlwg. Mae nifer o resymau am hyn, ond mae’n werth nodi tri yn arbennig.
- Er mwyn sicrhau ansawdd a chadernid arloesiadau addysgol, mae angen iddynt gael eu hadolygu o safbwyntiau amrywiol – technolegol, addysgegol, ac eraill. Po gynted yr adolygir yr arloesiadau, yr hawsaf ydyw i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol. Trwy rannu a thrafod arloesiadau yn ystod y cam dylunio, gallwn osgoi camgymeriadau costus yn ystod camau cynhyrchu diweddarach.
- Trwy wneud y broses ddylunio’n amlwg, gellir ei rhannu’n hawdd ag eraill, sy’n golygu y gellir trosglwyddo arfer da.
- Mae amrywiaeth a chymhlethdod yr adnoddau a’r technolegau sydd ar gael ar hyn o bryd yn golygu bod angen canllawiau cliriach ar athrawon a hyfforddwyr i’w helpu i ddod o hyd i offer ac adnoddau perthnasol, yn ogystal â chymorth i gynnwys y rhain yn y gweithgareddau dysgu maen nhw’n eu creu.
Fodd bynnag, dylid nodi nad yw’r term ‘dylunio dysgu’ y tu hwnt i bob dadl a’i fod yn gorgyffwrdd â thermau eraill i ryw raddau, er enghraifft ‘dylunio cyfarwyddol’, ‘dylunio cwricwlwm’ a ‘dylunio modiwl’. Un dehongliad posibl yw diffiniad Mor a Craft ac, yn wir, mae eu papur yn trafod diffiniadau amgen a gynigiwyd gan eraill.
Gweithgaredd 2 Defnyddio ymagwedd Dylunio Dysgu
- Ymwelwch â blog Dylunio Dysgu [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] y Brifysgol Agored.
- Porwch drwy’r postiadau blog a’r adnoddau hyn a darllenwch dri sydd o ddiddordeb i chi.
- Gwnewch rai nodiadau ar sut gallech gymhwyso’r prosesau a’r gweithgareddau a ddisgrifir yn y postiadau hyn, a sut rydych yn credu y gallech wneud hyn i greu neu ailddylunio rhywfaint o addysgu ar gyfer dysgu ar-lein. Er enghraifft, fe allech gynllunio gweithgaredd gweithdy gydag eraill, neu ddefnyddio hyn i lywio’ch gwaith dylunio eich hun.
Discussion
Mae llawer o adnoddau ‘syniadau da’ neu ‘arfer gorau’ ar gael ar-lein i’w defnyddio gan athrawon. Mae’r gweithgaredd hwn yn eich helpu i ddechrau meddwl am y mathau o adnoddau y gallech chwilio amdanynt, a sut gellid eu newid i weddu i’ch anghenion addysgu.