4 Dadansoddi eich ymarfer a’r cwmpas ar gyfer newid
Nawr, mae’n bryd canolbwyntio ar eich ymarfer eich hun.
Gweithgaredd 3 Dadansoddi newid mewn arferion addysgu
Timing: Caniatewch oddeutu 60 munud
- Meddyliwch am yr arferion addysgu rydych yn gyfarwydd â nhw (h.y. nid eich ymarfer eich hun yn unig) yn eich sefydliad yn ystod y pump i ddeng mlynedd diwethaf.
- Gwnewch rai nodiadau wrth ymateb i’r cwestiynau canlynol:
- a.Sut mae’r ymarfer dysgu wedi newid, yn eich barn chi?
- b.Pa mor arwyddocaol fu’r newidiadau?
- c.Pa ddatblygiadau technolegol fu’r rhai pwysicaf, yn eich barn chi? Pam?
ch. Pa agweddau ar ymarfer nad yw technoleg wedi cael effaith fawr arnynt? Pam?
- Nawr, ystyriwch eich ymarfer eich hun, mewn perthynas â’r arferion addysgu cyffredinol y meddylioch amdanynt yng nghwestiynau 1 a 2 uchod. Sut mae’ch ymarfer wedi newid? Pa ddatblygiadau technolegol fu’r rhai pwysicaf?
- Yn olaf, meddyliwch am yr hyn rydych eisiau ei newid yn eich ymarfer addysgu eich hun mewn perthynas ag addysgu ar-lein (cyfeiriwch at eich nodiadau perthnasol o’r wythnosau blaenorol). Sut bydd technoleg yn chwarae rôl yn eich addysgu ar-lein yn y dyfodol agos? Pa ddatblygiadau technolegol fyddech chi’n dymuno iddynt ddigwydd i gefnogi’ch addysgu ar-lein fwy fyth?
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Discussion
Wrth i ni nesáu at wythnos olaf y cwrs hwn, fe ddylai eich cynlluniau ar gyfer addysgu ar-lein fod yn dechrau dod yn fanylach. Dylai’r cwestiynau yn y gweithgaredd hwn eich helpu i gynnwys technolegau yn eich cynlluniau yn briodol. Diwedd y Gweithgaredd