1 Dulliau addysgu cydamserol ac anghydamserol
Un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o feddwl am addysgu ar-lein yw ystyried p’un a allai fod yn gydamserol, yn anghydamserol, neu’n gymysgedd o’r ddau.
Addysgu cydamserol
Addysgu cydamserol yw pan fydd yr athro/athrawes yn bresennol ar yr un pryd â’r dysgwr/dysgwyr. Mae hyn yn digwydd bron bob amser mewn amgylchedd wyneb yn wyneb. Gall addysgu cydamserol ddigwydd trwy ddysgu ar-lein hefyd, trwy ddefnyddio fideogynadledda a sgwrsio byw neu negeseua gwib. Yn yr un modd â’r amgylchedd wyneb yn wyneb, mae’r dysgwyr mewn addysgu ar-lein cydamserol yn gallu gofyn cwestiynau mewn amser real.
Os yw cwrs yn cael ei gyflwyno’n gyfan gwbl trwy addysgu cydamserol, wyneb yn wyneb neu ar-lein, gall hyn gyfyngu ar hyblygrwydd i’r dysgwyr. Oherwydd bod angen i bawb fod yn bresennol ar yr un pryd (hyd yn oed os ydynt ar-lein), mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr weithio trwy’r cwrs ar gyflymder tebyg, sy’n golygu nad oes llawer o hyblygrwydd o ran amserlennu. Gan fod angen i bawb fod ar-lein gyda’i gilydd, os na fydd dysgwr ar gael ar gyfer gwers, bydd yn ei cholli (er y bydd rhai sefydliadau dysgu’n recordio gwersi er mwyn i’r myfyrwyr hyn eu gweld yn ddiweddarach).
Efallai na fydd rôl yr athro/athrawes mewn addysgu cydamserol ar-lein yn wahanol iawn i’w rôl yn yr amgylchedd wyneb yn wyneb. Gallai dysgu cydamserol gynnwys gweminarau (gwersi ar-lein byw), sgyrsiau grŵp, neu sesiynau galw heibio lle mae athrawon ar gael i helpu ar adeg benodol. Fodd bynnag, bydd addysgu’n gydamserol ar-lein yn gofyn am ddatblygu rhai sgiliau newydd, er enghraifft wrth reoli cyflymder cyflymach addysgu o’r math hwn.
Addysgu ar-lein anghydamserol
Addysgu ar-lein anghydamserol yw pan fydd deunyddiau addysgu’n cael eu postio ar-lein, ac mae’r dysgwyr yn gweithio trwyddynt yn eu hamser eu hunain, gan gyfathrebu â’i gilydd ac â’r athro/athrawes trwy fyrddau trafod neu fforymau, neu hyd yn oed drwy e-bost. Bydd addysgu anghydamserol da yn cynnwys amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys clipiau sain a fideo (ond nid yn gyfyngedig iddynt). Trwy ddull addysgu anghydamserol, gall dysgwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain ac ar adegau o’r dydd sy’n gyfleus iddynt. Gallai’r athro/athrawes weld bod patrwm ei fewnbwn/mewnbwn yn wahanol iawn i’r amgylchedd cydamserol, gyda nifer o ymweliadau byrrach â’r byrddau trafod neu’r fforymau yn fwy gwerthfawr i’r dysgwyr nag un sesiwn hwy. Efallai y bydd terfynau amser o hyd ar gyfer cyflwyno gwaith i gael adborth, ac fe allai fod amserlen argymelledig i fyfyrwyr ei dilyn er mwyn iddynt gael rhyw fath o syniad o beth y dylent fod yn ei wneud ac erbyn pryd. Fel y gwelwch yn ddiweddarach yr wythnos hon, gall ymagwedd ‘gyfunol’ helpu athrawon i ddwyn ynghyd fanteision addysgu cydamserol ac anghydamserol, ac addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn un profiad.
Pwysigrwydd cydweithio
Mae cydweithio rhwng myfyrwyr, a rhwng myfyrwyr ac athrawon, yn ffactor pwysig mewn addysgu ar-lein cydamserol ac anghydamserol, gan helpu i greu cysylltiad rhwng yr holl gyfranogwyr a datblygu ymdeimlad o gymuned a diben a rennir.
Mewn amgylchedd cydamserol, gellir cydweithio mewn ffordd debyg i ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, gyda thrafodaeth a thasgau grŵp. Yn yr amgylchedd anghydamserol, gall cydweithio fod yn fwy anodd, ond mae’n bwysig iawn o hyd i leihau’r teimlad ynysig y gallai dysgwyr ei brofi wrth weithio ar-lein. Gall trafodaethau a thasgau grŵp weithio’r un mor dda yn anghydamserol ag yn gydamserol. Yn wir, mae’r diffyg cyfyngiadau amser yn golygu bod myfyrwyr yn gallu treulio amser yn llunio ymateb o ansawdd wrth gyfrannu at drafodaeth ar-lein anghydamserol.