1.1 Myfyrdodau gan yr athro/athrawes
Bob wythnos, byddwn yn cyflwyno clipiau fideo a wnaed gartref gan athrawon sy’n addysgu ar-lein. Bydd hyn yn rhoi profiad bywyd go iawn i chi sy’n berthnasol i ddeunydd pob wythnos. Ar yr un pryd, mae hefyd yn dangos sut gall clipiau fideo syml gael eu cynhyrchu a’u defnyddio at ddibenion addysgu ar-lein.
Yr wythnos hon, mae gennym ni glip gan athrawes o’r enw Sarah S. Mae ei phrofiadau yn adlewyrchu ychydig o’r cysyniadau rydym ni’n eu cyflwyno’r wythnos hon, ac yn eu trafod ymhellach yn yr wythnosau i ddod. Gallwch wylio’r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] hwn yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hwn yn Gymraeg.