1.3 Rhyngweithio â myfyrwyr
Un o’r gwahaniaethau amlycaf rhwng addysgu cydamserol ac anghydamserol yw natur y rhyngweithio rhwng yr athro/athrawes a’r myfyrwyr. Mae rhyngweithiadau o’r fath yn cynnwys rhoi adborth, ateb cwestiynau, neu arwain myfyrwyr trwy weithgaredd penodol.
O ran adborth, mewn amgylchedd addysgu cydamserol, gall yr athro/athrawes roi adborth yn syth pryd bynnag y bydd ei angen. Fodd bynnag, er bod yr amgylchedd wyneb yn wyneb yn caniatáu ar gyfer ciwiau gweledol wrth roi adborth, nid yw’r rhain bob amser yn bosibl, neu efallai y byddant ar ffurf wahanol iawn, yn yr amgylchedd ar-lein. Wrth addysgu ar-lein, mae’n bwysig cymryd camau rhagweithiol i greu cyfleoedd ar gyfer adborth gan yr athro/athrawes i’r dysgwr a chan y dysgwr i’r athro/athrawes, i wneud iawn am golli ciwiau wyneb yn wyneb.
Rhoddir adborth yn yr amgylchedd anghydamserol beth amser ar ôl i ddysgwr ofyn cwestiwn. Felly, os oes angen ailadrodd y sgwrs sawl gwaith i helpu’r dysgwr gyda’i broblem, fe all gymryd cryn amser i roi’r adborth. Dyma un o’r rhesymau pam y defnyddir adborth gan gymheiriaid yn aml mewn lleoliad anghydamserol, oherwydd ei fod yn caniatáu i ddysgwyr gynorthwyo ei gilydd heb orfod aros am y cyfraniad nesaf gan yr athro/athrawes (Gikandi a Morrow, 2016).