Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.4 Cymhelliad, cymorth a disgyblaeth

Gall cynnal cymhelliad a sylw dysgwyr ar-lein fod yn fwy heriol o lawer nag mewn amgylchedd wyneb yn wyneb, lle gall eich brwdfrydedd personol ynglŷn â’r pwnc ddylanwadu ar y dysgwyr yn rhwydd. Mewn amgylchedd ar-lein, mae’n debygol y bydd gennych ddysgwyr sy’n fwy hunangymhellol, dysgwyr sy’n fwy cyfforddus mewn dysgu ar-lein, a dysgwyr sy’n llai sicr ynghylch sut i ryngweithio. Efallai y bydd dysgwyr sy’n llai abl i strwythuro eu hastudiaethau’n annibynnol yn wynebu heriau penodol.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 4 Mae dysgu ar-lein yn darparu heriau sy’n wahanol i ddysgu mewn amgylchedd wyneb yn wyneb

Mae’n werth darparu cyfres strwythuredig iawn o dasgau ar ddechrau’r cwrs, gydag allbynnau ar wahân, a fydd yn eich galluogi i weld yn gyflym iawn pa ddysgwyr sy’n cwblhau’r tasgau mewn pryd ac yn y modd rydych yn dymuno. Yna, gallwch wneud gwaith dilynol yn unigol gyda’r rhai nad ydynt yn ymgysylltu yn y modd a ddisgwylir, a chynnig cyngor ar sut y dylent fynd i’r afael â’r tasgau a’u profiad dysgu ar-lein.

Ar y llaw arall, fe all fod yn symlach rheoli dosbarth ar-lein nag wyneb yn wyneb. Yn yr ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, gall dysgwyr unigol darfu ar y wers neu dynnu sylw dysgwyr eraill, ond mae’r amgylchedd ar-lein yn wahanol. Yn ystod digwyddiadau cydamserol, gallwch gyfuno sgiliau ystafell ddosbarth presennol â nodweddion yr amgylchedd (fel gallu’r athro/athrawes i reoli microffon pwy sydd ymlaen ar unrhyw adeg benodol) i atal un dysgwr penodol rhag dominyddu trafodaethau. Mewn trafodaethau anghydamserol, gall sylwadau amhriodol neu wyriadol gael eu cymedroli neu, os yw’n briodol, eu herio’n gyhoeddus, fel mewn lleoliad addysgu wyneb yn wyneb.

Gwahaniaeth arall mewn perthynas â disgyblaeth yn yr amgylchedd dysgu ar-lein yw’r posibilrwydd o ryngweithiadau y tu allan i’r sianeli rydych chi’n bresennol ynddynt. Byddwn yn sôn am gysyniad ‘sianeli cefn’ yn ddiweddarach yr wythnos hon. Wrth addysgu ar-lein, mae angen i addysgwyr bob amser fod yn ymwybodol y gallai dysgwyr fod yn rhyngweithio mewn mannau sydd y tu hwnt i’ch cyrraedd, ac mae angen ystyried y posibilrwydd o fwlio, er enghraifft. Os yw dysgwr yn anarferol o dawedog mewn sesiwn ar-lein, neu nid yw’n postio i edefyn trafod y byddech yn disgwyl iddo fod wedi cyfrannu ato, fe all fod yn werth archwilio’n ystyriol gyda’r dysgwr (yn breifat, wrth gwrs) i gael gweld beth sydd wedi achosi’r newid yn ei batrwm rhyngweithio / ymddygiad ar-lein.