1.5 Datblygu sgiliau a hyder
Mae’n bwysig nodi bod cynorthwyo dysgwyr mewn amgylchedd ar-lein yn gofyn am sgiliau gwahanol i gynorthwyo dysgwyr mewn amgylchedd dysgu wyneb yn wyneb. Canfu astudiaeth gan Price et al. (2007) ynglŷn â’r gwahaniaethau rhwng canfyddiadau dysgwyr o addysgu mewn amgylchedd ar-lein ac mewn amgylchedd wyneb yn wyneb y dylai’r athro/athrawes ar-lein ganolbwyntio mwy ar faterion bugeiliol na’r athro/athrawes wyneb yn wyneb, ac yn aml bod angen arweiniad a hyfforddiant ar athrawon a dysgwyr ynglŷn â chyfathrebu ar-lein.
Heb ‘gysur’ amgylchedd ystafell ddosbarth ffisegol, gall dysgwyr deimlo’n ynysig ac yn ddigefnogaeth, felly gall mwy o bresenoldeb bugeiliol gan yr athro/athrawes, a ddechreuir trwy ddulliau cyfathrebu ar-lein, helpu i leihau’r teimlad ynysig hwnnw a datblygu profiad mwy ‘cyfforddus’ i’r dysgwr. Yn ôl astudiaeth ddilynol ar raddfa fawr gan un o gydawduron Price (Richardson, 2009), a edrychodd ar brofiadau dysgwyr sy’n cael cymorth tiwtorial ar-lein neu wyneb yn wyneb ar gyrsiau dyniaethau, nid oes angen i’r amgylchedd ar-lein fod yn brofiad salach i ddysgwyr o ran cymorth, trwy baratoi’n ddigonol: ‘Ar yr amod bod tiwtoriaid a myfyrwyr yn cael hyfforddiant a chymorth priodol, gall dylunwyr cyrsiau yn y dyniaethau fod yn hyderus ynglŷn â chyflwyno mathau ar-lein o gymorth tiwtorial mewn addysg ar y campws neu o bell.’ (tud. 69)
Os ydych yn symud i addysgu yn yr amgylchedd ar-lein, bydd hefyd angen i chi fod yn ymwybodol o’r cymhlethdodau a allai ddod yn sgil technoleg. Er nad oes angen bod yn arbenigwr technegol fel arfer, gall ymgyfarwyddo â’r problemau technegol cyffredin y gallai eich dysgwyr eu hwynebu fod yn sgìl defnyddiol iawn i’w ddatblygu. Er enghraifft, os gallwch gynghori ar y technegau cyffredin i ddatrys problemau sain yn ystod sesiynau ar-lein cydamserol, gallwch arbed amser a straen i’r dysgwyr a chynyddu eu hyder. Bydd eich hyder i fynd i’r afael â thechnolegau newydd ac ymdrin â phroblemau sy’n codi wrth eu defnyddio yn cynyddu wrth i chi ennill profiad, a bydd hyn yn gwneud addysgu ar-lein yn brofiad mwy pleserus o lawer. Felly, neilltuwch amser i chwarae ac ymgyfarwyddo â’r adnoddau rydych yn disgwyl eu defnyddio. Hefyd, mae bob amser yn werth cael gwybod a oes cyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu sy’n canolbwyntio ar y technolegau addysgu ar-lein penodol rydych yn disgwyl eu defnyddio.
Gweithgaredd 2 Cymell ac ymgysylltu â myfyrwyr ar-lein
- Gwyliwch y fideo hwn yn Saesneg, ‘Ymgysylltu ac ysgogi myfyrwyr’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy’n crynhoi safbwyntiau gan ystod o arbenigwyr ar ymgysylltu â myfyrwyr. Dechrau’r Cwestiwn
- Wrth i chi wylio, gwnewch nodiadau ar gynghorion defnyddiol yr hoffech eu hymgorffori yn eich addysgu ar-lein eich hun.
Trafodaeth
Mae addysgu ar-lein yn dod â llawer o gyfleoedd i ddefnyddio gwahanol offer a thechnegau gyda’ch dysgwyr.
Dylai’r gweithgaredd hwn eich helpu i ddechrau meddwl, yn gyffredinol ar hyn o bryd, am yr hyn yr hoffech chi roi cynnig arno. Bwriad y gweithgareddau fydd datblygu’ch syniadau ymhellach a’ch arwain tuag at ffyrdd o roi cynnig arnynt yn ymarferol. Mwy am hynny maes o law!