2.1 Ystafelloedd dosbarth gwrthdro
Mae ‘ystafelloedd dosbarth gwrthdro’ yn defnyddio’r model dysgu cyfunol i wrthdroi’r amgylchedd dysgu traddodiadol fel bod y dysgwyr yn cael y rhan fwyaf o’r cynnwys cyfarwyddol ar-lein. Gofynnir i ddysgwyr, er enghraifft, ddeall a phrosesu set o ddeunyddiau yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain. Byddai hyn yn disodli tasgau ‘gwaith cartref’ traddodiadol ar ôl y dosbarth. Yna, defnyddir y sesiynau ystafell ddosbarth i gynnal trafodaeth ryngweithiol ac archwilio’r pwnc gyda’r athro/athrawes, sy’n disodli’r senario cyfarwyddol mwy traddodiadol. Felly, mae’r math o weithgareddau a gynhelir ym mhob cyd-destun yn gwrthdroi’r hyn sy’n arferol. Mae’r dosbarth wedi ‘gwrthdroi’ i fod yn fan lle mae myfyrwyr ac athrawon yn fwy gweithredol, gan ymgysylltu â’i gilydd mewn ffordd fwy personol a phenodol. Yna, daw’r amgylchedd ar-lein yn gartref i addysgu mwy traddodiadol ar ffurf darlithiau.
Gweithgaredd 3 Meddwl am yr ystafell ddosbarth wrthdro
Gwyliwch y fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (yn Saesneg) a nodwch dair o fanteision yr ystafell ddosbarth wrthdro dros ddull traddodiadol. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hwn yn Gymraeg.
Trafodaeth
Diben y gweithgaredd hwn yw eich cyflwyno i gysyniad y dull ystafell ddosbarth wrthdro, a’ch helpu i adnabod ei fuddion posibl ar gyfer eich cyd-destun chi.
Mae’r buddion a awgrymir ar gyfer y dull ystafell ddosbarth wrthdro yn cynnwys y gallu i fyfyrwyr weithio trwy ddeunyddiau ar gyflymder sy’n gweddu iddyn nhw, a llai o ddiflastod i fyfyrwyr y mae’r deunyddiau’n haws iddynt. Gall yr athro/athrawes dreulio amser dosbarth yn mynd i’r afael ag anghenion unigol.
Mae thema ehangach i’w gweld yn y fideo hwn ac mewn rhannau eraill o’r cwrs hwn, sef y ffordd y mae rôl yr athro/athrawes yn gallu newid wrth ymateb i newid i ymagwedd gan ddefnyddio technoleg. Yn achos yr ystafell ddosbarth wrthdro, mae’r athro/athrawes yn debycach i ‘hyfforddwr, mentor a thywysydd’, yn hytrach na rhywun sy’n gweithredu’n bennaf i gyflwyno gwybodaeth. Fe allech gredu bod hyn yn beth da, yn dibynnu ar eich diffiniad o beth yw rôl yr athro/athrawes!
A chithau bellach wedi cael eich cyflwyno i rai o agweddau unigryw addysgu ar-lein, y gwahaniaethau rhwng elfennau cydamserol ac anghydamserol, posibiliadau dysgu cyfunol a’r syniad o’r ystafell ddosbarth wrthdro, mae’r gweithgaredd nesaf yn eich annog i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun a sut y gallai gyd-fynd â’r hyn rydych wedi’i ddysgu hyd yma.
Gweithgaredd 4 Dechrau creu eich cynlluniau ar gyfer addysgu ar-lein
Mae’r gweithgaredd hwn yn gofyn i chi fyfyrio ar yr hyn yr hoffech ei gyflawni o ran addysgu ar-lein. Gan eich bod wedi darllen ychydig yn fwy am hanfodion addysgu ar-lein, meddyliwch am beth yw’ch nodau yn y maes hwn. Efallai na fydd gennych nodau penodol mewn golwg eto. Os na, canolbwyntiwch ar un cwrs rydych yn ei addysgu ac ystyriwch sut y gellid ei symud ar-lein yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Nodwch atebion i’r cwestiynau canlynol os gallwch:
- Beth ydych chi eisiau ei ddarparu ar-lein? Ydych chi eisiau trosglwyddo elfen fach neu sylweddol o’r hyn rydych yn ei ddarparu wyneb yn wyneb ar hyn o bryd? A fyddwch chi’n symud ar-lein yn gyfan gwbl neu’n creu dull cyfunol? A fyddwch chi’n defnyddio gweithgareddau cydamserol neu anghydamserol – neu’r ddau? A allai dull ystafell ddosbarth wrthdro fod yn briodol?
- I bwy rydych chi eisiau darparu’r profiad dysgu? Faint o brofiad o ddysgu ar-lein sy’n debygol ymhlith y dysgwyr sydd gennych dan sylw? Pa gymorth y gallai fod ei angen ar eich dysgwyr i drosglwyddo’n llwyddiannus i ddysgu ar-lein?
- Pa adnoddau sydd gennych eisoes y gallech eu haddasu ar gyfer dysgu ar-lein?
Cofnodwch eich ymatebion isod ac, os dymunwch, yn eich dyddlyfr oherwydd byddwch yn eu hailystyried yn ddiweddarach yn y cwrs hwn.
Trafodaeth
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o weithgareddau a fydd yn ymddangos drwy gydol y cwrs hwn, a fydd yn eich helpu i ddatblygu cynllun ar gyfer addysgu ar-lein. Bydd y cam cyntaf hwn yn rhoi man cychwyn ar gyfer eich cynlluniau. Fe allai fod yn ddefnyddiol i chi gadw ystod o opsiynau ar y cam hwn, gan restru sawl syniad ar gyfer pob pwynt, o bosibl. Gallech gwtogi’r rhain i greu un cynllun yn ddiweddarach.