Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Wythnos 1: Mae addysgu ar-lein yn wahanol

Cyflwyniad

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 1 Yr un athro, gwahanol offer

Croeso i Ewch â’ch addysgu ar-lein! Yn ystod wythnos gyntaf y cwrs, byddwn yn cyflwyno rhai o’r gwahaniaethau allweddol rhwng addysgu ar-lein ac addysgu mewn amgylchedd wyneb yn wyneb. Mae’r gwahaniaethau hyn yn golygu bod addysgu ar-lein yn brofiad sylweddol wahanol i addysgu wyneb yn wyneb, sy’n gofyn am sgiliau sylweddol wahanol gan yr athro/athrawes. Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o athrawon yn gallu addasu nid yn unig eu sgiliau, ond hefyd llawer o’u deunyddiau addysgu presennol, i weddu i amgylchedd ar-lein. Mae llawer o bosibiliadau, ond ar y lefel fwyaf sylfaenol, os oes gennych chi a’ch myfyrwyr gyfrifiaduron a mynediad i’r rhyngrwyd, gallwch ddechrau addysgu a dysgu ar-lein.

Yr wythnos hon, byddwch hefyd yn cyfarfod â Rita, ein cydweithiwr animeiddiedig sy’n gweithio trwy’r cwrs hwn gyda chi. Gadewch i Rita gyflwyno’i hun ac amlinellu’r hyn mae’n gobeithio’i gael o’r cwrs hwn. Gallwch ddarllen y trawsgrifiad hwn yn Gymraeg [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Neu fel arall, gallwch wylio’r fideo hwn yn Saesneg.

Erbyn diwedd yr wythnos hon, fe ddylech allu:

  • trafod prif nodweddion gweithgareddau addysg ar-lein a sut mae’r rhain yn wahanol i addysgu wyneb yn wyneb
  • dechrau penderfynu pa fathau o weithgareddau addysgu wyneb yn wyneb a allai drosglwyddo’n llwyddiannus i amgylchedd ar-lein, neu beidio
  • crynhoi’r elfennau addysgu ar-lein sy’n gofyn am sgiliau gwahanol i addysgu wyneb yn wyneb.

Byddai’r Brifysgol Agored yn gwerthfawrogi ychydig funudau o’ch amser i ddweud wrthym amdanoch eich hun a’ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn i chi ddechrau, yn ein harolwg dechrau cwrs dewisol. Bydd eich cyfranogiad yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn trosglwyddo’ch manylion i bobl eraill.