1 Egwyddorion addysgu ar-lein effeithiol
Yn ystod Wythnos 1, fe wnaethom gyflwyno rhai o’r ffyrdd y gall dysgu ar-lein greu cyfleoedd a buddion newydd i athrawon a dysgwyr. Fodd bynnag, i wireddu’r buddion hynny, mae angen dilyn rhai egwyddorion er mwyn sicrhau’r profiad ar-lein gorau posibl i ddysgwyr.
Gweithgaredd 1 Herio rhagdybiaethau ynglŷn ag addysgu ar-lein
Gwyliwch y fideo ‘Beth yw rhai o fuddion addysgu ar-lein?’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a nodwch unrhyw bryderon a fynegwyd nad oeddech eisoes wedi meddwl amdanynt ynglŷn â’ch cyd-destun addysgu eich hun.
Gadael sylw
Yn aml, bydd gan athrawon ragdybiaethau ynglŷn ag addysgu ar-lein a’r hyn y gallen nhw neu eu dysgwyr ei ‘golli’ petaen nhw’n newid i addysgu ar-lein.
Lluniwyd deunydd a gweithgareddau yr wythnos hon i’ch helpu i wahanu manteision ac anfanteision canfyddedig addysgu ar-lein oddi wrth y rhai go iawn, fel sy’n berthnasol i’ch cyd-destun chi.
Yn hytrach na bod yn ddewis syml rhwng dau beth, mae llawer o opsiynau a ffyrdd o deilwra addysgu ar-lein i unrhyw gyd-destun. Felly, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o gysyniadau allweddol a mathau o adnoddau, ystyried yr hyn sy’n hysbys am y rhain, a defnyddio ymagwedd sy’n caniatáu i chi dreialu ffyrdd o addysgu ar-lein a deall y canlyniadau. Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu ym mhob un o’r meysydd hyn.
Mae chwilio’r we am ‘egwyddorion addysgu ar-lein effeithiol’ yn cynnig llawer o wahanol safbwyntiau ynglŷn â’r pwnc, a phob un ohonynt ychydig yn wahanol. Ar y tudalennau canlynol, fe welwch grynodeb o rai o’r egwyddorion allweddol sy’n ymddangos yn y rhestrau hyn bron bob tro. Fe’u casglwyd o ystod o ffynonellau ond fe’u hysbrydolwyd yn arbennig gan Cooper (2016) a Hill (2009).