1.5 Cydnabyddwch amrywiaeth
Un o brif fanteision yr amgylchedd ar-lein yw bod myfyrwyr yn gallu dysgu yn eu ffordd eu hunain, ar eu cyflymder eu hunain. Mae hyn yn apelio at bobl sydd â chyfrifoldebau eraill neu gyflogaeth arall. Felly, ceisiwch beidio â chwtogi’r rhyddid a gynigir gan astudio ar-lein trwy osod cyfyngiadau diangen ar y ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu.
Mae hyfforddiant gwahaniaethol – sef term a ddefnyddir i ddisgrifio ffyrdd y gallai dysgu gael ei deilwra i’r gwahaniaethau rhwng unigolion mewn dosbarth – yn bwysig yn hyn o beth. Mae’n ddefnyddiol i hyfforddwyr ar-lein allu teilwra eu hyfforddiant yn ôl ffactorau fel gallu neu ddiddordebau’r unigolyn (Beasley a Beck, 2017). Fodd bynnag, efallai y bydd angen ystyried hyn yng ngoleuni ein trafodaeth flaenorol ar y potensial i astudio ar-lein arwain at ynysu, a gwerth rhoi rhywfaint o strwythur a rennir i’r dysgwyr ei ddilyn.