2 Sut gall damcaniaethau addysgol fynd helpu i ewch â’ch addysgu ar-lein?
Mae llawer o ddamcaniaethau’n gysylltiedig ag addysg, ac nid rôl y cwrs hwn yw eu trafod nhw i gyd. Fodd bynnag, wrth gyfeirio at addysg ar-lein a’i manteision i ddysgwyr, trafodir pedair damcaniaeth yn aml sy’n gallu ein helpu i ddeall sut i fynd ati i addysgu ar-lein. Y rhain yw ymddygiadaeth, gwybyddoliaeth, lluniadaeth a chysylltiadaeth. Mae’r egwyddorion addysgu ar-lein effeithiol a amlinellir yn Adran 1 yn cael eu llywio gan y damcaniaethau hyn.
Ni fyddwn yn treiddio’n ddwfn i’r pedair damcaniaeth, ond fe all fod yn ddefnyddiol ystyried y syniadau cyffredinol sy’n sail iddynt wrth feddwl am symud i’r amgylchedd addysgu ar-lein.