2.1 Ymddygiadaeth
Skinner (1968) a Thorndike (1928) oedd dau o brif hyrwyddwyr ymddygiadaeth. Archwiliodd eu gwaith sut mae ymddygiad yn gysylltiedig â phrofiad a gwobr. Felly, yn y cyd-destun addysgu ar-lein, dylai athrawon gofio y dylent ‘wobrwyo’ eu dysgwyr am ymddygiad cadarnhaol. Nid oes rhaid i hyn gael ei gyfyngu i rannau asesedig y cwrs; gellid hefyd roi anogaeth ac adborth cadarnhaol am gymryd rhan mewn gweithgareddau trafod neu gyrraedd cerrig milltir penodol mewn pryd, er enghraifft.