Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Technolegau digidol ar gyfer addysgu ar-lein

Mae’r rhan hon o Wythnos 2 yn rhoi trosolwg o’r technolegau posibl sydd ar gael i’r athro/athrawes ar-lein, a’r ffyrdd y gallant gefnogi a dylanwadu ar addysgu a dysgu.

Mae’r model SAMR (sef Substitution, Augmentation, Modification a Redefinition yn Saesneg) yn categoreiddio pedair ffordd y mae cyflwyno technoleg yn newid gweithgarwch addysgu (Puentedura, 2017):

  • Disodli: lle y defnyddir technoleg i ddisodli’r hyn y gallech fod yn ei wneud eisoes yn uniongyrchol, heb newid swyddogaethol.
  • Cynyddu: lle mae technoleg yn disodli’n uniongyrchol, ond mae gwelliant swyddogaethol i’r hyn yr oeddech yn ei wneud heb y dechnoleg.
  • Addasu: lle mae technoleg yn caniatáu i chi ailddylunio’r dasg yn sylweddol.
  • Ailddiffinio: lle mae technoleg yn caniatáu i chi wneud yr hyn nad oedd yn bosibl yn flaenorol.

Bu cryn ddadlau ynglŷn â gwerth y model SAMR a’r dystiolaeth ohono (er enghraifft Love, 2015). Fodd bynnag, mae wedi cyflawni rhywfaint o boblogrwydd ymhlith ymchwilwyr ac ymarferwyr. Fan hyn, rydym yn ei ddefnyddio’n syml fel ffordd o gategoreiddio pedair ffordd y gallai athro/athrawes ddechrau cyflwyno technoleg i addysgu ar-lein. Os oes gennych amser, fe allech ddymuno archwilio rhai o’r trafodaethau ynglŷn â gwerth y model hwn, gan ddechrau trwy ddilyn y cyfeiriadau uchod.

Mae’r rhannau canlynol yn disgrifio gwahanol grwpiau o adnoddau y gallai athrawon eu defnyddio’n gyffredin wrth ddechrau defnyddio technoleg i addysgu ar-lein.