Crynodeb
Yr wythnos hon, rydych wedi edrych ar y damcaniaethau a’r egwyddorion craidd sy’n sail i addysgu ar-lein o ansawdd da. Rydych hefyd wedi dechrau edrych ar y technolegau digidol sy’n gysylltiedig ag addysgu ar-lein a defnyddio gwrthrychau dysgu – dychwelir at y ddau beth hyn yn ddyfnach o lawer yn ddiweddarach yn y cwrs. Yn wir, mae deunydd yr wythnos nesaf yn ymwneud â’r technolegau y gallwch eu defnyddio i gyflwyno’ch addysgu ar-lein.
Yn olaf, ar gyfer yr wythnos hon, gadewch i ni weld sut mae Rita yn dod yn ei blaen. Gallwch wylio'r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] hon yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hwn yn Gymraeg.
Nawr gallwch symud ymlaen i Wythnos 3.